Atal Llifogydd

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:31 pm ar 8 Mehefin 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Heledd Fychan Heledd Fychan Plaid Cymru 1:31, 8 Mehefin 2021

Diolch ichi, Brif Weinidog, am amlinellu'r cymorth. O ran y rhai yr effeithiwyd arnynt, boed hynny o ran eu cartrefi neu eu busnesau, er eu bod yn ddiolchgar am yr arian a'r cymorth, dydyn nhw'n dal ddim wedi derbyn yr atebion sydd eu hangen arnynt o ran beth ddigwydd a pham, ac os oedd yna unrhyw beth y gellid bod wedi'i wneud yn wahanol i atal y llifogydd dinistriol. Os ydym o ddifrif eisiau dysgu’r gwersi angenrheidiol o’r llifogydd hyn a rhoi’r gefnogaeth i’r bobl yr effeithiwyd arnynt, onid ydy hi’n amser i ni gomisiynu ymchwiliad annibynnol a brys i’r holl lifogydd diweddar ledled Cymru fel bod y buddsoddiad gan y Llywodraeth yn un cywir yn hytrach na’n adweithiol fel y mae ar y funud?