Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:44 pm ar 8 Mehefin 2021.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, mae'r 14, 15 mis diwethaf wedi bod yn drawmatig i lawer o bobl ym mhob rhan o Gymru. Un o'r pethau y mae Llywodraethau mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig yn ei wneud ar hyn o bryd yw comisiynu ymchwiliadau cyhoeddus, er mwyn i ni allu deall pa benderfyniadau a gafodd eu gwneud, a pha benderfyniadau oedd yn dda a pha benderfyniadau oedd yn wael, a sut y mae angen i ni baratoi ar gyfer pandemigau yn y dyfodol. Gan fod gennych chi fandad newydd erbyn hyn, Prif Weinidog, a fyddwch chi'n comisiynu ymchwiliad cyhoeddus penodol i Gymru i edrych yn ôl ar y pandemig ac edrych ymlaen at yr hyn y mae angen i ni ei baratoi ar gyfer pandemig yn y dyfodol?