1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:44 pm ar 8 Mehefin 2021.
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr, Andrew R.T. Davies.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, mae'r 14, 15 mis diwethaf wedi bod yn drawmatig i lawer o bobl ym mhob rhan o Gymru. Un o'r pethau y mae Llywodraethau mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig yn ei wneud ar hyn o bryd yw comisiynu ymchwiliadau cyhoeddus, er mwyn i ni allu deall pa benderfyniadau a gafodd eu gwneud, a pha benderfyniadau oedd yn dda a pha benderfyniadau oedd yn wael, a sut y mae angen i ni baratoi ar gyfer pandemigau yn y dyfodol. Gan fod gennych chi fandad newydd erbyn hyn, Prif Weinidog, a fyddwch chi'n comisiynu ymchwiliad cyhoeddus penodol i Gymru i edrych yn ôl ar y pandemig ac edrych ymlaen at yr hyn y mae angen i ni ei baratoi ar gyfer pandemig yn y dyfodol?
Na, Llywydd, ni fyddaf yn gwneud hynny, gan fy mod i wedi cytuno â'i Lywodraeth ef yn San Steffan y byddwn ni'n rhan o'r ymchwiliad cyhoeddus y mae'r Prif Weinidog wedi ei gyhoeddi. Hyd y gwn i, dyna'r unig ymchwiliad cyhoeddus sydd wedi ei gynnig yn y Deyrnas Unedig. Rwyf i wedi cael y cyfle i drafod hynny gydag uwch aelodau o'r Llywodraeth yn San Steffan. Rwyf i wedi dweud wrthyn nhw fy mod i'n credu bod yn rhaid cael penodau penodol yn yr ymchwiliad hwnnw sy'n ymdrin â'r profiad yma yng Nghymru, ac yn ymdrin ag ef ar wahân, ond rwyf i wedi cytuno â'r Prif Weinidog a Michael Gove, y Gweinidog sy'n gyfrifol am Swyddfa'r Cabinet, mai un ymchwiliad ar gyfer y DU gyfan, gyda'r grym y bydd ganddo, gyda'r gallu y bydd ganddo i weld natur gydgysylltiedig llawer o'r penderfyniadau sydd wedi eu gwneud ledled y Deyrnas Unedig, yw'r ffordd orau o daflu goleuni ar y ffordd y gellir deall yn iawn y profiadau gofidus niferus hynny y mae pobl wedi eu cael yng Nghymru yn y cyfnod eithriadol hwn a rhoi cyfrif ohonyn nhw.
Rwy'n credu bod hynny yn anffodus, Prif Weinidog, oherwydd, fel yr ydych chi wedi ei ddweud yn aml iawn—ac wedi dweud yn gywir—mae'r penderfyniadau a wneir yng Nghymru yn effeithio ar bobl yng Nghymru ac rydych chi wedi galw am fwy o bwerau mewn gwahanol feysydd, yn amlwg i gryfhau gallu'r Llywodraeth yma yng Nghymru o ran llawer o faterion. Yn anffodus, rydym yn gwybod bod 7,860 o bobl wedi marw yma yng Nghymru oherwydd y pandemig. Mae llawer o bobl, yn amlwg, yn ymdrin â COVID hir, ac ar hyn o bryd mae pobl yn cael eu derbyn, er bod y niferoedd yn llawer llai, diolch byth, oherwydd llwyddiant y rhaglen frechu, i ysbytai oherwydd COVID a'i amrywiolion parhaus ar hyd a lled Cymru. Ond mae'n ffaith bod penderfyniadau unigryw wedi eu gwneud yn benodol ar gyfer Cymru, boed hynny'n ymwneud ag ysbytai, cartrefi gofal neu'r cyfyngiadau, a'r gwahaniaethau y mae'r cyfyngiadau hynny wedi eu hachosi i fasnach a busnes Cymru, oherwydd, yn amlwg, eich Llywodraeth chi sy'n gyfrifol yn y meysydd hynny. Felly, byddwn i'n eich annog, Prif Weinidog, i ailystyried y posibilrwydd o ymchwiliad penodol i Gymru gyfan, oherwydd yn y pen draw gwnaed y penderfyniadau hynny yma yng Nghymru, ac mae angen i'r penderfyniadau hynny gael eu profi yma yng Nghymru drwy ymchwiliad cyhoeddus annibynnol. Rwy'n siŵr y byddai llawer o'r bobl y mae COVID wedi effeithio arnyn nhw yn disgwyl i ymchwiliad annibynnol gael ei gynnal yma yng Nghymru.
Wel, Llywydd, gadewch i mi ymdrin â rhan gyntaf cwestiwn yr Aelod yn gyntaf, gan fy mod i'n credu bod rhai pethau pwysig dim ond i sicrhau eu bod wedi eu deall a'u bod yn gyhoeddus, oherwydd efallai nad yw pob Aelod wedi gweld y ffigurau a gafodd eu cyhoeddi awr neu ddwy yn ôl gan Iechyd Cyhoeddus Cymru—y ffigurau diweddaraf sy'n nodi nifer yr achosion o amrywiolion delta yng Nghymru heddiw. Mae'r nifer wedi cynyddu ers dydd Gwener yn sgil 81 o achosion newydd eraill, ac mae'n sefyll nawr ar 178. 51 oedd y nifer pan wnaethom ni gyfarfod yma—. Wel, wnaethom ni ddim cyfarfod yma, naddo? Wythnos yn ôl i heddiw, pan gyhoeddwyd y ffigurau, roedd yn 51, a chynyddodd i 97 ddydd Gwener, ac mae'n 178 heddiw. Pan fydd arweinydd yr wrthblaid yn cyfeirio at arwyddocâd y pandemig yng Nghymru a'r ffaith fod pethau sy'n dal i fod yn peri gofid ac y mae angen eu gwylio'n ofalus iawn, rwy'n credu bod y ffigurau hynny yn peri i bob un ohonom gymryd saib i feddwl.
Nid wyf i'n anghytuno â'r hyn a ddywedodd am benderfyniadau unigryw yn cael eu gwneud yma yng Nghymru. Nid wyf i'n anghytuno â'r hyn a ddywedodd am yr angen i gynnal ymchwiliad priodol, ymchwiliad annibynnol, i'r modd y dylid cyflawni'r cyfrifoldebau a gynhelir yma. Ond fel y dywedais, rwyf i wedi cytuno nid yn unig â'r Prif Weinidog, ond â Phrif Weinidogion yr Alban a Gogledd Iwerddon, mai ymchwiliad annibynnol ar gyfer y DU gyfan, sy'n cwmpasu'r profiadau a'r penderfyniadau unigryw a wnaed mewn gwahanol rannau o'r Deyrnas Unedig, ond sy'n gallu edrych hefyd, felly, ar y cyd-destun ehangach y gwnaed y penderfyniadau hynny oddi mewn iddo, natur gydgysylltiedig llawer ohonyn nhw—. Lawer gwaith, mae ef wedi gwneud pwyntiau yma yn y Siambr, ac eto, maen nhw wedi bod yn bwyntiau teg pan fydd wedi eu gwneud, fod y ffyrdd yr ydym yn gwneud penderfyniadau yng Nghymru yn anochel yn gydgysylltiedig â phenderfyniadau a wneir dros ein ffin. Yr ymchwiliad y mae'r Prif Weinidog wedi ei gynnig, a'r ymrwymiadau y mae ei Lywodraeth wedi eu rhoi y byddwn yn rhan o'r broses o osod cylch gorchwyl yr ymchwiliad hwnnw, a'r pwyntiau y byddaf yn parhau i'w gwneud ynghylch yr angen i'r ymchwiliad gynnwys adrannau sy'n benodol i Gymru a sicrhau bod pobl yng Nghymru yn cael yr atebion i'r cwestiynau sydd ganddyn nhw, yn fy marn i o hyd, yw'r ffordd orau o roi'r cofnod mwyaf trylwyr i bobl o'r ffordd y mae digwyddiadau'r 15 mis diwethaf wedi gweithio eu hunain allan yng Nghymru a'r ffordd y mae penderfyniadau wedi eu gwneud yn y fan yma.
Fel y dywedais i yn fy ymateb i'ch cwestiwn cyntaf, mae'n peri gofid i mi na fydd—yn eich barn chi, beth bynnag—ymchwiliad cyhoeddus annibynnol penodol yma yng Nghymru, wedi ei gomisiynu gennych chi fel Prif Weinidog. Efallai byddai rhai pobl yn dweud mai rhedeg i ffwrdd oddi wrth graffu ac atebolrwydd yw hynny am y penderfyniadau yr oeddech chi'n eu gwneud fel Llywodraeth, gan mai dyna sydd ei angen yma yw golau haul ymchwiliad cyhoeddus i'r penderfyniadau hynny, ac yn anad dim, i roi'r paratoadau ar waith ar gyfer unrhyw bandemig y gallem ni ei wynebu yn y dyfodol, Prif Weinidog. Byddwn i'n ddiolchgar pe gallech chi, cyn gynted ag y gallwch, sicrhau bod datganiad ar gael i egluro sut yn union y bydd yr ymchwiliad ledled y DU yn ystyried y penderfyniadau sy'n benodol i Gymru. Rwy'n sylweddoli eich chi bod wedi rhoi rhywfaint o wybodaeth am hyn yn eich ymateb i mi y prynhawn yma, ond mae'n hanfodol bwysig bod Aelodau'r Senedd yn deall yn union sut y bydd profiad Cymru yn cael ei adlewyrchu yn yr ymchwiliad hwnnw.
A hoffwn i, unwaith eto, gofnodi safbwynt y Ceidwadwyr Cymreig ein bod ni'n credu y dylid cynnal ymchwiliad cyhoeddus Cymru gyfan i ymchwilio i'r materion penodol iawn y bu'n rhaid i Gymru ymdrin â nhw ac, yn bwysig, y penderfyniadau a wnaeth Gweinidogion Llywodraeth Cymru.
Wel, Llywydd, wrth gwrs, wrth i fwy o fanylion am sut y bydd yr ymchwiliad yn cael ei gynnal fod ar gael—a byddwn ni yn rhan o'r trafodaethau ynghylch hynny—byddaf i'n sicr yn sicrhau bod datganiadau'n cael eu darparu i'r Aelodau yn y fan yma hefyd, fel bod ganddyn nhw yr wybodaeth ddiweddaraf posibl am hynny i gyd. Nid oes dim y mae'r Aelod wedi ei ddweud am yr angen am ymchwiliad, natur na phwrpas yr ymchwiliad yr wyf i'n anghytuno ag ef.
Ond mae'n rhaid i mi ddweud wrtho, nid fy marn i yn unig yw y dylid cynnal ymchwiliad y DU gyfan; dyna yw barn Llywodraeth Geidwadol y Deyrnas Unedig. Felly, rwyf i'n credu, felly, os yw ef yn teimlo'n gryf y dylid gwneud penderfyniad gwahanol, yna rwyf i'n credu y dylai fod yn codi hynny gyda'r Prif Weinidog hefyd. Mae e'n aelod o'r blaid honno, fe yw arweinydd y blaid honno yn y Senedd, a phan fydd yn dweud wrthyf i mai fy marn i ydyw, fel pe byddai'n rhyw farn idiosyncratig gan y Prif Weinidog yng Nghymru, gadewch i mi ddweud wrtho eto: rwyf i wedi cytuno â'r Prif Weinidog; rwyf i wedi cytuno â Phrif Weinidogion rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig mai'r ffordd orau o ddarparu'r wybodaeth sydd ei hangen ar bobl Cymru yw trwy fod yn rhan o'r ymchwiliad y DU gyfan hwnnw.
Dirprwy arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Bythefnos yn ôl, roeddwn i'n dymuno'n dda wrth i'r Prif Weinidog gael ei ailethol a heddiw dwi'n dymuno'n dda i arweinydd Plaid Cymru wrth iddo fo ddechrau ar gyfnod tadolaeth, a dwi'n siŵr fy mod i'n siarad ar ran pawb drwy anfon ein dymuniadau gorau at Adam a'r teulu.
Ym mis Mawrth, mi ddywedodd y Coleg Nyrsio Brenhinol fod tri chwarter eu haelodau nhw wedi adrodd cynnydd mewn pwysau gwaith, dros hanner yn dweud bod moral staff wedi dirywio, ac mi ddywedodd un o bob tri eu bod nhw'n meddwl gadael y proffesiwn, efo dros hanner yn dweud bod lefelau cyflog yn rheswm am hynny. Rydyn ni'n disgwyl i gorff adolygu cyflogau'r NHS wneud eu hargymhelliad yn ddiweddarach y mis yma, a dwi'n llawn disgwyl y byddwch chi'n dweud eich bod chi am aros am eu hargymhelliad nhw, ond rhowch syniad i ni o beth ydych chi'n meddwl sydd yn deg, ac mi allwch chi gyfeirio, os liciwch chi, at yr 1 y cant o gynnydd a awgrymwyd yn San Steffan a'r 4 y cant sydd wedi cael ei gytuno yn yr Alban.
Llywydd, wrth gwrs dwi'n cytuno â Rhun ap Iorwerth yn ei ddymuniadau gorau i Adam a'i deulu hefyd.
Rŷn ni wedi rhoi ein gwybodaeth i'r pwyllgor sy'n gwneud yr argymhellion ar gyflogaeth yn y maes iechyd ac mae lan iddyn nhw i ddod at gasgliadau. Dyna pam y mae panel annibynnol i wneud y gwaith yna. Mae un peth yn glir, a bydd yn rhaid imi ei ddweud nawr wrth yr Aelodau fan hyn: o ran y posibiliadau i ni i dalu mwy na'r arian sy'n dod atom ni drwy'r fformiwla Barnett, wel, does dim lle i wneud hynny. Mae'r arian sy'n dod atom ni yng Nghymru yn dibynnu ar y penderfyniadau ym maes cyflogaeth y mae Gweinidogion yn San Steffan yn eu gwneud, ac mae hwnna'n rhoi'r arian i ni, drwy Barnett.
Dwi wedi bod yn y sefyllfa yma fel y Gweinidog dros iechyd, lle'r unig beth yr oeddem ni'n gallu siarad amdano â'r undebau a'r coleg brenhinol oedd sut i ddefnyddio'r arian. Does dim lle i ni godi mwy o arian, ond rŷn ni yn gallu gwneud pethau gwahanol gyda'r arian pan rŷn ni'n gwybod faint sy'n mynd i ddod atom ni.
Eich braint chi, wrth gwrs, ydy cael blaenoriaethu gwariant. Dwi'n digwydd meddwl bod staff iechyd a gofal yn flaenoriaeth. Dwi'n meddwl bod y flwyddyn ddiwethaf wedi dangos hynny. Fel mae'r RCN yn dweud ei hun, beth mae'r flwyddyn ddiwethaf wedi gwneud ydy tanlinellu'r problemau a oedd yno yn barod: pwysau gwaith, morâl isel a phrinder staff hefyd.
Dydy Llywodraeth Cymru ddim yn cyhoeddi ffigurau ar swyddi gwag nyrsio. Mae amcangyfrifon yn awgrymu y gallai fo fod yn rhyw 1,600. Buasai codiad cyflog yn sicr yn helpu i recriwtio a chadw staff. Doedd y Gweinidog iechyd, mewn cyfweliad ddydd Sul, ddim yn fodlon cadarnhau a fyddai'r Llywodraeth yn gweithredu argymhellion y grŵp annibynnol. Mi ofynnwyd iddi hi a fyddai fo'n cael ei weithredu os byddai'r argymhelliad yn sylweddol uwch nag 1 y cant, er enghraifft. Ei hymateb hi oedd:
'Rwy'n dyfalu y byddwn yn mynd y tu hwnt i 1 y cant.' Ni ddylai hon fod yn gêm ddyfalu wrth sôn am nyrsys cofrestredig band 5 sydd ar lai na £25,000 y flwyddyn. Ond, os byddwn yn defnyddio unwaith eto y cynnydd o 4 y cant y cytunodd yr Alban arno fel pwynt cyfeirio, a ydych chi'n fodlon dweud yn y fan hon yn awr na fydd nyrsys yma yn cael setliad is na hynny?
Wel, yr hyn y byddaf yn ei ddweud, Llywydd, yw'r hyn yr wyf i wedi ei ddweud eisoes. Rydym ni wedi darparu ein tystiolaeth i'r corff adolygu annibynnol. Byddwn yn aros i weld beth y bydd ganddo i'w ddweud. Nid oes unrhyw bwynt sefydlu cyrff a mynd drwy'r broses os ydych chi eisiau i mi ddyfalu, cyn iddyn nhw adrodd, beth allai Llywodraeth Cymru ei wneud. Byddwn yn aros a byddwn yn gweld pa gasgliadau mae'n dod iddynt.
Wrth gwrs, mae Llywodraeth Cymru yn dymuno sicrhau bod gweithwyr rheng flaen yn cael eu talu'n briodol am y gwaith y maen nhw'n ei wneud. Rwy'n cytuno â'r hyn y mae llawer wedi ei ddweud, nad oedd y cynnig o 1 y cant yr oedd yn ymddangos bod Llywodraeth y DU yn ei gynnig i staff gofal iechyd, ar ôl popeth y maen nhw wedi ei wneud i ni yn ystod y 12 mis diwethaf, yn ddigonol i adlewyrchu'r cyfraniad hwnnw. Ond, mae proses ar waith a bydd yn rhaid i'r Aelod aros, yn union fel y mae'n rhaid i ninnau, i weld i ble bydd y broses yna yn ein harwain, faint o arian a fydd yn dod i ni yma yng Nghymru, a'r hyn y gallwn ei wneud ag ef wedyn. Byddwn yn gwneud hynny yn yr un modd ag yr ydym ni wedi ei wneud erioed, mewn partneriaeth â'r mudiad undebau llafur—y rhai sy'n cynrychioli'r aelodau staff hynny—gan geisio bob amser gwneud y gorau un y gallwn ei wneud drostyn nhw.
Byddwch chi'n gwybod fy mod i, yn yr etholiad diweddar, wedi amlinellu cynlluniau Plaid Cymru i sicrhau y byddai gweithwyr gofal yn cael eu cydnabod hefyd gyda setliad cyflog teg. I ni, roedd hynny yn rhan o greu gwasanaeth iechyd a gofal cenedlaethol, gan symud gweithwyr gofal i raddfeydd cyflog y GIG. Fe wnaethoch chi addo talu'r cyflog byw gwirioneddol i weithwyr gofal. Felly, o leiaf, gadewch i ni weld hynny'n cael ei weithredu'n ddi-oed.
Yn yr un cyfweliad, mewn gwirionedd, ddydd Sul, dywedodd y Gweinidog iechyd a gofal y bydd eich Llywodraeth yn gwneud hynny cyn gynted ag y gallwch chi. Ond, rwy'n credu bod angen i ni wneud yn well na hynny o ran rhoi amserlen. Felly, gadewch i mi roi'r cyfle hwn i chi yn ystod Wythnos y Gofalwyr i roi'r addewid hwnnw na fydd unrhyw oedi. Yn fy marn i, nid yw 'Cyn gynted ag y gallwn ni' yn gysur i staff rheng flaen sydd wedi peryglu eu diogelwch eu hunain yn ystod y flwyddyn eithriadol ddiwethaf.
Wel, Llywydd, diolch i Rhun ap Iorwerth am dynnu sylw at Wythnos y Gofalwyr, sy'n wythnos bwysig iawn yma yng Nghymru. Mae gennym ni gyfran uwch o'n poblogaeth sy'n darparu gofal anffurfiol nag unrhyw ran arall o'r Deyrnas Unedig, ac roeddwn i'n falch iawn ddydd Llun fod fy nghyd-Aelod Julie Morgan wedi gallu gwneud cyhoeddiadau penodol, gan ddefnyddio arian yr ydym ni wedi ei neilltuo. Yr oedd ym maniffesto fy mhlaid i fy hun i sicrhau y gellir gwella gofal seibiant i ofalwyr yma yng Nghymru.
Yn y trefniadau partneriaeth gymdeithasol yr ydym ni wedi cytuno arnyn nhw yn ystod y 12 mis diwethaf, rydym ni wedi sefydlu fforwm gofal cymdeithasol newydd. Mae'n rhan o'r fforwm partneriaeth gymdeithasol, ac mae'n tynnu ynghyd y cyflogwyr, yr awdurdodau lleol a'r undebau llafur. Maen nhw'n rhoi cyngor i ni ar sut y gallwn ni sicrhau bod yr arian y byddwn yn ei fuddsoddi fel Llywodraeth, i sicrhau bod pobl yn y sector yn cael y cyflog byw gwirioneddol, yn cyrraedd y gweithwyr hynny yn hytrach na chyfrannu at elw cwmnïau preifat. Dyna'r unig oedi a fydd yn y system.
Mae'n ymwneud â sicrhau, gyda dros 1,000 o gyflogwyr gwahanol yn y sector—. Nid yw'r un fath ag yn y gwasanaeth iechyd. Pan oeddwn i'n Weinidog iechyd, roeddem ni'n gallu cytuno ar y cyflog byw gwirioneddol i gyflogwyr y gwasanaeth iechyd, ac mae'n syml iawn. Mae nifer y cyflogwyr yn fach, mae system genedlaethol, mae'r arian yn mynd i mewn ar un pen ac rydych chi'n gwybod i ble mae'n mynd ar y pen arall. Nid yw'n debyg iawn i hynny o gwbl yn y sector gofal cymdeithasol, o ystyried nifer y cyflogwyr sydd yn bodoli, y raddfa wahanol a'r ffordd wahanol y maen nhw'n gweithredu. Bydd y fforwm gofal cymdeithasol yn ein helpu i sicrhau bod gennym ni'r dulliau ar waith i sicrhau bod yr arian y bydd Llywodraeth Cymru yn ei fuddsoddi at y dibenion yr ydym ni'n eu rhannu â'r Aelod ac yn eu rhannu â Phlaid Cymru, wrth i'r ddau ohonom fod wedi gwneud hyn yn flaenoriaeth yn ein maniffestos—mae angen i ni sicrhau, mewn ffordd ymarferol, fod yr arian hwnnw yn cyrraedd ble yr ydym ni'n awyddus iddo ei gyrraedd. Cyn gynted ag y byddwn yn ffyddiog bod y dulliau yno, byddwn yn gallu bwrw ymlaen â'r gwaith hwnnw.