Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:08 pm ar 8 Mehefin 2021.
Llywydd, eleni, mae'r gyllideb refeniw trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol wedi cael cynnydd o fwy nag 8 y cant o'i gymharu â'r flwyddyn cyn y pandemig. Mae dros £0.5 miliwn o'r arian hwn wedi ei gyfeirio at gynllunio strategol a darparu gweithgareddau yn uniongyrchol i ddioddefwyr a goroeswyr du, Asiaidd ac o leiafrifoedd ethnig.