Part of the debate – Senedd Cymru am 2:32 pm ar 8 Mehefin 2021.
Diolch, Mabon ap Gwynfor, am y cwestiwn hwnnw. Byddwch chi'n ymwybodol bod yna raglen cyfleusterau cymunedol ar gael. Dyna ein prif gynllun ers blynyddoedd nawr, ac mae wedi bod yn dda iawn gweld nifer yr adeiladau cyhoeddus sy'n dod yn ôl i berchnogaeth, a chymunedau'n cymryd drosodd y gwaith o gynnal yr adeiladau hynny. Rwy'n deall y bydd y cylch ariannu nesaf ar gael yn y dyfodol agos iawn.