Part of the debate – Senedd Cymru am 2:56 pm ar 8 Mehefin 2021.
Diolch yn fawr, Llywydd. Dwi'n siŵr bydd Aelodau'n falch o nodi mai yng Nghymru mae'r gyfradd isaf o achosion o'r coronafeirws yn y Deyrnas Unedig o hyd. Mae nifer yr achosion sydd wedi cael eu cadarnhau yma yng Nghymru yn 10.4 fesul 100,000 o bobl ar hyn o bryd. Mae nifer y bobl sydd yn yr ysbyty gyda'r coronafeirws ar ei lefel isaf ers i'r pandemig ddechrau. Rŷm ni wedi gweld cyfnod o 10 diwrnod yn ddiweddar pan na chafodd yr un farwolaeth newydd o'r feirws ei chofnodi, ond yn anffodus fe adroddodd Iechyd Cyhoeddus Cymru am un farwolaeth ddoe. Mae'r llwyddiannau hyn yn adlewyrchu gwaith caled pobl ym mhob cwr o Gymru i'w cadw nhw eu hunain a'u teuluoedd yn ddiogel.
Dros yr wythnosau diwethaf, rŷm ni wedi gweld datblygiadau sy'n ymwneud â'r amrywiolyn newydd sy'n peri pryder, a nodwyd gyntaf yn India, neu amrywiolyn delta, fel mae Sefydliad Iechyd y Byd yn ei alw erbyn hyn. Mae'r datblygiadau hyn wir yn achosi gofid. Maen nhw'n brawf pellach nad yw'r coronafeirws wedi diflannu. Rŷm ni wedi bod yn monitro'r amrywiolyn newydd hwn yn ofalus. Mae'n ymddangos ei fod e'n lledaenu mewn sawl rhan o Loegr. Yma yng Nghymru, rŷm ni wedi sylwi ar gynnydd yn nifer yr achosion. Heddiw, mae'n cyrraedd 178 o bobl, gan gynnwys clwstwr o achosion yng Nghonwy—clwstwr sy'n destun ymchwiliad manwl ar hyn o bryd.
Mae potensial gan amrywiolyn delta i ddatblygu i fod y straen amlycaf o'r feirws yn y Deyrnas Unedig, ond rŷm ni'n gobeithio y gallwn ni reoli'r achosion ac atal yr amrywiolyn hwn rhag lledaenu ymhellach. Ond dwi'n meddwl bod rhaid inni fod yn realistig, ac mae disgwyl gweld mwy o gynnydd eto yn nifer yr achosion yng Nghymru.