Part of the debate – Senedd Cymru am 2:58 pm ar 8 Mehefin 2021.
Felly, er bod y sefyllfa o ran iechyd y cyhoedd yn parhau i fod yn dda yng Nghymru, mae'r amrywiolyn delta yn dod â lefel newydd o ansicrwydd yn ei sgil. Yn y cyd-destun hwn y digwyddodd yr adolygiad diweddaraf o gyfyngiadau coronafeirws, ar 3 Mehefin. Ac er bod Cymru yn newid i lefel rhybudd 1, fel y nodwyd eisoes, erbyn hyn, fe fyddwn ni'n gwneud hynny fesul cam. Felly, fe fydd y newidiadau i'r rheoliadau o 7 Mehefin yn canolbwyntio ar lacio'r cyfyngiad ar ddigwyddiadau a gweithgareddau awyr agored. Mae'r perygl o drosglwyddiad yn llawer llai yn yr awyr agored, ac fe fydd y newidiadau hyn yn caniatáu i bobl fanteisio ar dywydd braf yr haf, gyda gobaith.
Fe all hyd at 30 o bobl gyfarfod yn yr awyr agored erbyn hyn, gan gynnwys mewn gerddi preifat, lletygarwch awyr agored a mannau cyhoeddus. Mae modd cynnal cynulliadau a digwyddiadau mwy a drefnir yn yr awyr agored i hyd at 4,000 o bobl ar eu traed a 10,000 o bobl mewn eisteddleoedd hefyd. Mae hyn yn cynnwys cyngherddau, gemau pêl-droed, a gweithgareddau chwaraeon fel grwpiau rhedeg a drefnir. Mae'n rhaid i bob un sy'n trefnu'r rhain gynnal asesiad risg llawn a rhoi mesurau ar waith i atal ymlediad coronafeirws, gan gynnwys cadw pellter cymdeithasol.
Yn olaf, mae'r ddarpariaeth erbyn hyn yn caniatáu i aelwydydd estynedig gynnwys tair aelwyd sy'n gallu cyfarfod a chael cysylltiad dan do. Mae hynny'n un yn fwy na'r ddwy aelwyd a ganiatawyd yn flaenorol. Fe fyddwn ni'n ystyried newidiadau pellach i'r rheoliadau o ran gweithgareddau dan do yn ddiweddarach yn ystod y mis pe byddai'r sefyllfa o ran iechyd y cyhoedd yn caniatáu hynny. Yn unol â'r cynllun rheoli coronafeirws yn ôl lefel rhybudd 1, fe fyddai hynny'n golygu y byddai'r rheol o chwech yn gymwys ar gyfer cyfarfod dan do mewn cartrefi preifat ac mewn llety gwyliau. Fe fyddwn ni'n ystyried niferoedd cynyddol hefyd ar gyfer cynulliadau dan do ac ailgychwyn digwyddiadau dan do. Fe fydd y dull graddol hwn yn rhoi amser i fwy o ddata fod ar gael am effaith yr amrywiolyn delta. Fe fydd yn rhoi mwy o amser i ragor o bobl gael eu brechu hefyd, sy'n parhau i fod y llwybr gorau allan o'r pandemig.
Rwy'n ddiolchgar dros ben i dimau brechu'r byrddau iechyd, partneriaid lleol a'r llu o wirfoddolwyr ledled y wlad am y cynnydd anhygoel yn ein rhaglen frechu. Mae mwy nag 85 y cant o'r boblogaeth oedolion wedi cael eu dos cyntaf o'r brechlyn erbyn hyn ac mae bron hanner wedi cael eu cwrs llawn o ddau ddos.
Ddoe, fe gyhoeddais i'r wybodaeth ddiweddaraf am ein strategaeth frechu COVID-19. Mae'n nodi ein disgwyliad ni o fod wedi cyrraedd erbyn diwedd mis Mehefin—felly, fis yn gynharach na'r disgwyl—garreg filltir 3, sef cynnig y dos cyntaf i bob oedolyn gydag o leiaf 75 y cant yn manteisio ar y cynnig hwnnw. Mae'r strategaeth a gafodd ei diweddaru yn nodi paratoadau ar gyfer yr hyn a allai ddod nesaf, gan gynnwys pigiad atgyfnerthu i'r bobl sydd fwyaf agored i niwed a brechlyn i blant o bosibl, ac wrth gwrs mae hynny'n ddibynnol ar gyngor gan y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu a phenderfyniad gan y Cabinet. Rydym yn bwriadu cynnig y brechlyn unwaith eto hefyd i'r rhai na fanteisiodd ar y cynnig gwreiddiol. Fe fydd gweinyddu'r ail ddosau yn parhau hefyd. I atgyfnerthu'r ddarpariaeth hon, fe fydd system ar-lein yn cael ei sefydlu yn yr hydref i ganiatáu i bobl drefnu apwyntiadau ar amser sy'n gyfleus iddyn nhw.
Cafodd gwasanaeth profi, olrhain a diogelu llwyddiannus ei sefydlu yng Nghymru flwyddyn yn ôl. Mae Llywodraeth Cymru wedi dyrannu £32 miliwn ychwanegol i fyrddau iechyd ac awdurdodau lleol i ymestyn y gwaith o olrhain cysylltiadau hyd ddiwedd mis Mawrth 2022. Mae hyn yn cynyddu cyfanswm buddsoddiad Llywodraeth Cymru mewn olrhain cysylltiadau yn ystod y flwyddyn ariannol hon hyd at £92 miliwn. Ar 2 Mehefin, cyhoeddwyd strategaeth profi, olrhain a diogelu wedi'i hadnewyddu yn nodi sut y bydd y gwasanaeth yn addasu ac yn ymateb i'r pandemig yn y misoedd i ddod. Mae hyn yn cynnwys olrhain amrywiolion sy'n peri pryder yn fwy gofalus a chadarn, yn ogystal â rheoli a gosod dan gwarantîn y bobl sy'n dychwelyd i Gymru o wledydd yn y rhestr goch ac ambr.
Ar 20 Mai, fe nodais gynlluniau ar gyfer £100 miliwn o fuddsoddiad i roi hwb cychwynnol i adferiad y system iechyd a gofal o bandemig COVID-19. Fe fydd yr arian hwn yn darparu ar gyfer offer, staff a thechnoleg newydd ac yn ymgorffori'r ffyrdd newydd o weithio i helpu byrddau iechyd i gynyddu capasiti a lleihau amseroedd aros. Wrth inni ailgychwyn gofal nad yw'n ofal brys yn dilyn y pandemig, mae gennym y cyfle i greu system iechyd a gofal sy'n addas i'r dyfodol. Heddiw, rwyf i wedi disgrifio rhai o'r datblygiadau diweddaraf yn ein hymdrechion parhaus i fynd i'r afael â phandemig y coronafeirws. Ac mae'n hanfodol ein bod ni'n parhau i weithio gyda'n gilydd i gadw ein gilydd yn ddiogel a chadw Cymru yn ddiogel. Diolch, Llywydd.