Part of the debate – Senedd Cymru am 3:04 pm ar 8 Mehefin 2021.
A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei datganiad y prynhawn yma, a dweud bod nifer y bobl yn yr ysbyty sydd â'r coronafeirws ar ei lefel isaf ers dechrau'r pandemig? Ac fel y nododd y Gweinidog hefyd, rydym wedi gweld y cyfnod hwnnw o 10 diwrnod pan na chafwyd unrhyw farwolaethau o gwbl yn cael eu cofnodi oherwydd y feirws ar wahân i'r un farwolaeth yr adroddwyd amdani ddoe gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, gwaetha'r modd. Rwy'n credu bod y rhain yn gyflawniadau aruthrol. Rwy'n cytuno â'r Gweinidog mai gwaith caled pobl ledled Cymru yn ogystal â'r gweithwyr iechyd proffesiynol rhagorol sydd wedi cyflawni hyn. A newyddion cadarnhaol eto, yn fy marn i hefyd, yw y byddwn ni o bosibl yn gweld 100 y cant o'r boblogaeth oedolion yng Nghymru wedi cael cynnig apwyntiad ar gyfer eu brechu erbyn dydd Llun.
Fe nododd datganiad Ysgrifennydd Iechyd Gwladol Llywodraeth y DU ddoe mai dim ond 2 y cant o gleifion COVID mewn ysbytai yn Lloegr oedd wedi cael dau ddos o'r brechlyn. Tri o unigolion yn unig yw hynny. Felly, rwyf i am dorri hynny i lawr, y data hynny, i helpu gyda chyd-destun fy nghwestiwn nesaf i. Roedd data hyd at 3 Mehefin yn dangos, o'r 12,383 o achosion yn Lloegr o'r amrywiolyn delta, fod yna 126 o bobl wedi gorfod cael triniaeth ysbyty, ac o'r 126 o bobl hyn, dim ond tri oedd wedi cael dau ddos o'r brechlyn. Felly, rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog yn cytuno mai data cadarnhaol iawn yw'r rhain ac mae hynny'n rhoi optimistiaeth inni, rwy'n credu, yn hyn o beth. Yn y cyd-destun hwn, Gweinidog, a ydych chi wedi ymchwilio i'r un data ar gyfer Cymru, neu a yw Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi ymchwilio i hynny? Faint o bobl sydd wedi bod mewn ysbyty o ganlyniad i gael amrywiolyn delta? O'r bobl hynny, faint o bobl sydd wedi cael dau ddos? Mae hwn yn ddarn pwysig o wybodaeth yng nghyd-destun naill ai lacio cyfyngiadau neu gryfhau cyfyngiadau, fel bo hynny'n addas. Felly, fe fyddwn i'n ddiolchgar am unrhyw wybodaeth ynglŷn â hynny, Gweinidog.
Efallai y gwnewch chi ymhelaethu ychydig mwy ar eich asesiad chi o ran a fydd angen cyfyngiadau pellach arnom dros fisoedd yr haf neu, yn wir, a fyddwch chi'n llacio cyfyngiadau ymhellach. Fe fyddai cael unrhyw amlinelliad pellach o hynny yn fuddiol iawn heddiw. Rwy'n sylwi hefyd o'ch sylwadau chi ddoe, Gweinidog, y byddai'r cwestiynau am yr amrywiolyn delta yn ymwneud â pha mor fawr fydd y drydedd don. Fe fyddwn i'n awgrymu, efallai, mai'r cwestiwn yw pa mor ddifrifol fydd y don nesaf. Felly, fe fyddwn i'n gwerthfawrogi eich barn chi am hynny.
Yng Nghymru, rydym wedi gweld 123 o bobl mewn ysbytai ar 3 a 4 Mehefin. Dyma'r gyfradd isaf, wrth gwrs, a welsom ni ers dechrau'r pandemig. A ydych chi'n fwy hyderus nawr na fydd y drydedd don, er yn fwy, mor ddifrifol â'r don gyntaf? Roeddech chi'n sôn ddoe yn eich sylwadau am yr amrywiolyn yn ymledu o Loegr i Gymru. Yn y cyd-destun hwn, efallai y gallech ddweud hefyd a ydych chi'n ystyried unrhyw waharddiadau pellach o ran teithio o rai ardaloedd awdurdodau lleol mewn mannau eraill yn y Deyrnas Unedig.
Roedd eich datganiad heddiw yn cyfeirio at eich cynlluniau chi ar gyfer £100 miliwn o fuddsoddiad i roi hwb i'r system gofal iechyd. Rwy'n credu bod hynny i'w groesawu yn fawr hefyd. Rydym mewn sefyllfa lle mae GIG Cymru yn dechrau ailgychwyn ei wasanaethau i fynd i'r afael â'r ôl-groniadau enfawr sydd wedi bod o ran aros am driniaethau, er ei bod yn syfrdanol meddwl o hyd bod un o bob tri llwybr i gleifion yn aros dros flwyddyn am driniaeth yng Nghymru. Mae hynny'n cymharu ag un o bob 11 yn Lloegr. Felly, mae ein man cychwyn ni'n un heriol.
Ond, rwyf i yn croesawu'r cyhoeddiad hwn o £100 miliwn ar gyfer datblygiadau technolegol i helpu i leihau'r ôl-groniad sydd wedi digwydd. Rwy'n pryderu am ofid cynyddol ymysg gweithwyr proffesiynol. Maen nhw'n dweud nad oes yna ddigon o staff i ymdopi â'r gwaith. Er enghraifft, yng Nghymru, roeddem ni'n wynebu prinder difrifol eisoes o arbenigwyr canser cyn COVID-19, gyda bylchau mewn radioleg glinigol o fwy na 40 y cant yn y gorllewin a'r gogledd. Roedd gennym lai o radiolegwyr clinigol eisoes yn y DU fesul 100,000. Y pwynt rwy'n ei wneud yma yw mai newyddion da yw bod gennym y buddsoddiad hwn ond mae'n siŵr fod yna ofid ynglŷn â diffyg staff a gweithwyr iechyd proffesiynol i ddefnyddio'r dechnoleg newydd hon.
Felly, yn rhan o'ch blaenoriaethau newydd chi, pa ymdrechion a wnewch i sicrhau y bydd gan y GIG weithlu digonol i ymdopi â'r ôl-groniadau? Pa fframweithiau y byddwch chi'n eu defnyddio fel rhan o strategaeth y gweithlu i recriwtio a chadw gweithwyr meddygol proffesiynol? Hefyd, pa fesurau yr ydych chi'n eu trosglwyddo ymlaen ar unwaith o'r fframwaith ar gyfer adferiad o'r COVID i gefnogi gweithluoedd y GIG a gofal sylfaenol i sicrhau nad ydyn nhw'n wynebu lludded—sy'n fater pwysig arall hefyd? Sut ydych chi am gryfhau'r cymorth llesiant presennol sydd ar gael i'r gweithlu, fel yr amlinellir yn y fframwaith, ac a yw'r cymorth yn cael ei anelu yn y tymor byr eisoes? Diolch yn fawr.