Part of the debate – Senedd Cymru am 3:53 pm ar 8 Mehefin 2021.
Mae'n bwysig bod pobl sy'n dymuno gwneud cais ar gyfer y cynllun hwn yn cael cynnig cymaint o gymorth â phosibl, ac, fel sydd wedi'i grybwyll eisoes, mae'r dyddiad cau'n prysur agosáu ddiwedd y mis hwn. Yn y Senedd ddiwethaf, ysgrifennodd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol at Lywodraeth Cymru gyda'u hargymhellion. Eu hargymhellion oedd i Lywodraeth Cymru ailadrodd ei chefnogaeth i'r dinasyddion hyn, eu bod yn sicrhau bod y cymorth yn ymestyn y tu hwnt i'r dyddiad cau, eu bod yn darparu cymorth hygyrchedd digidol, a'u bod yn rhoi cymorth i gyflogwyr Cymru i'w helpu i lywio'r system fewnfudo newydd.
Byddai'n ddefnyddiol clywed gan y Gweinidog a yw'r argymhellion hyn wedi'u derbyn a'u gweithredu, ac, os nad ydyn nhw, pam. Roedd problemau eisoes gyda'r cynllun; mae'r pandemig nid yn unig wedi gwneud y materion hyn yn waeth, ond mae wedi cyflwyno heriau newydd i ddinasyddion yr UE sy'n gwneud cais i'r cynllun. Mae'n bosibl gweld hyn yn y nifer sy'n manteisio ar y cais a'r gyfradd ymgeisio. Er gwaethaf y niferoedd uchel o geisiadau cychwynnol i'r cynllun, arafodd y gyfradd ymgeisio yng Nghymru yn ystod y pandemig cyntaf. A wnaiff y Gweinidog ddweud a fu arafu yn y gyfradd ymgeisio yn ystod yr ail don, fel y gwelwyd yn y gyntaf, ac a fydd hyn yn golygu y bydd rhai pobl ar eu colled?
Hefyd, yn ôl llysgennad yr UE i'r DU, mae rhai o ddinasyddion yr UE wedi adrodd bod cyfyngiadau teithio yn golygu na allen nhw gael gafael ar eu dogfennau. Mae angen y ddogfennaeth hon fel prawf eu bod yn preswylio yn y DU. A yw'r Gweinidog yn ymwybodol bod hwn yn fater eang, ac, os felly, a yw'r rhai yr effeithiwyd arnyn nhw wedi cael cynnig neu wedi cael cymorth gan Lywodraeth Cymru?
Un maes sy'n peri pryder arbennig i mi yw natur ddigidol yn unig y cais. Mae'r pandemig wedi dwysáu rhaniad digidol y DU, a gan fod y cynllun yn broses ymgeisio ddigidol yn unig, mae'n cynnig heriau penodol i grwpiau agored i niwed y mae'r bwlch digidol eisoes yn effeithio arnyn nhw, fel pobl hŷn a phobl ddigartref. Mae angen i ni gydnabod anghenion y dinasyddion mwyaf agored i niwed, yn enwedig y rheini a allai fod mewn perygl o gael eu hallgáu'n ddigidol. A wnaiff y Gweinidog amlinellu pa gamau penodol y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cymryd i geisio goresgyn a phontio'r rhaniad hwn er mwyn sicrhau nad oes neb yn cael ei adael ar ôl?
Mae adroddiadau pellach wedi amlinellu sut y gallai dinasyddion yr UE yng Nghymru ei chael hi'n anodd bod yn gymwys i gael statws preswylydd sefydlog llawn o ganlyniad i'r pandemig. Rhybuddiodd cyfarwyddwr yr Arsyllfa Ymfudo nad yw pobl sydd â statws cyn-sefydlog yn gwybod bod angen iddyn nhw drosi eu statws drwy ail gais, ac y gallen nhw anghofio'r dyddiad cau heb gael eu hatgoffa. A yw'r Llywodraeth yn ffyddiog ei bod yn gwneud popeth o fewn ei gallu i sicrhau bod y rhai y mae angen iddyn nhw wneud ail gais yn cael eu hatgoffa i wneud hynny? Yn ogystal, eglurodd llysgennad yr UE i'r DU hefyd fod rhai dinasyddion o'r UE sydd â statws preswylydd cyn-sefydlog wedi gorfod gadael y DU yn ystod y pandemig. Mae'n bosibl bod y dinasyddion hyn wedi cael eu gadael mewn gwahanol wledydd oherwydd cyfyngiadau teithio. Efallai y bydd y dinasyddion hyn yn ei chael hi'n anodd darparu'r dystiolaeth o bum mlynedd o breswylio parhaus sydd ei hangen i gael statws sefydlog. Felly, a yw Llywodraeth Cymru wedi ystyried strategaethau eraill i gefnogi dinasyddion a fethodd y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais, neu a fethodd feini prawf ymgeisio, oherwydd yr amgylchiadau a achoswyd gan COVID-19?
Wrth gwrs, mater i'r Swyddfa Gartref a San Steffan yw hwn yn y pen draw, ac rwy'n siŵr y byddwn i'n iawn wrth ddweud efallai nad y system hon a'r system fewnfudo newydd o San Steffan yw'r system yr hoffem ni na Llywodraeth Cymru ei gweld. Fodd bynnag, San Steffan sy'n rheoli'r mater hwn am y tro. O gofio y bydd rhai pobl yn colli'r cynllun hwn oherwydd y rhesymau hyn, pa gymorth arall y bydd Llywodraeth Cymru yn ei roi? Yn olaf, a wnaiff y Gweinidog annog ei chymheiriaid yn San Steffan i sefydlu proses apelio gadarn ar gyfer y bobl nad yw eu ceisiadau wedi'u cwblhau eto oherwydd effaith y pandemig, er mwyn sicrhau, yng ngeiriau'r Prif Weinidog yn ei lythyr agored at ddinasyddion yr UE,
'y bydd croeso ichi bob amser yma yng Nghymru'?
Diolch yn fawr.