Part of the debate – Senedd Cymru am 4:16 pm ar 8 Mehefin 2021.
Mae ymchwil gan Ofalwyr Cymru yn dangos bod gofalwyr di-dâl sy'n gofalu am aelodau o'r teulu neu ffrindiau anabl, sâl neu oedrannus wedi arbed £33 miliwn i Lywodraeth Cymru bob dydd ers dechrau pandemig COVID-19. Yn y cyd-destun hwnnw, nid yw'r ddarpariaeth o £3 miliwn yn ystod 2021-22 i gyd—wedi ei rhannu'n ddau gam, gyda cham cyntaf o £1.75 miliwn wedi ei rannu ymhellach rhwng 22 awdurdod lleol yng Nghymru—yn ein twyllo ni rhag sylweddoli bod hyn yn fwy o ateb dros dro yn hytrach nag ymgais i gael ateb hirdymor.
Mae ymchwil Gofalwyr Cymru yn dangos hefyd fod y pandemig wedi effeithio'n ddifrifol ar allu gofalwyr i gymryd seibiant, sy'n effeithio ar eu hiechyd a'u lles. Mae bron i saith o bob 10 o ofalwr yng Nghymru yn dweud bod eu hiechyd meddwl wedi gwaethygu oherwydd diffyg seibiant wrth ofalu yn ystod pandemig COVID-19. Dywedodd 68 y cant o ofalwyr fod eu hiechyd corfforol wedi dirywio yn ystod y pandemig. Eglurodd y Dirprwy Weinidog fod y cyllid hwn ar gyfer gofal seibiant brys, yn bennaf i'r rhai hynny sydd mewn argyfwng, ac nid yw'n rhoi fawr o hyder i ni fod y Llywodraeth yn deall yn wirioneddol y pwynt canolog—y dylai gofalwyr gael seibiant fel mater o drefn, ac y dylid eu cydnabod yn briodol ym mhob cyd-destun, gan gynnwys yn ariannol.
Mae Plaid Cymru wedi dadlau ers tro byd dros greu gwasanaeth iechyd a gofal cymdeithasol cenedlaethol di-dor, ac ailystyried ein dull o ddarparu iechyd a gofal, a chanolbwyntio ar atal. Un pwynt mynediad canolog i wasanaeth o'r fath fyddai dileu biwrocratiaeth a chaniatáu i ni ganolbwyntio ar anghenion dinasyddion. Mae'n rhaid i ni sicrhau hefyd fod gennym ni'r gallu yng Nghymru i wobrwyo gofalwyr yn briodol ac i ganiatáu gweithredu trawsnewidiol, fel y byddem yn gallu ei wneud trwy geisio'r pwerau i roi incwm gofalwr cyffredinol yn lle'r lwfans gofalwr—heb brawf modd ac sydd o leiaf yn cyfateb i lefel y lwfans ceisio gwaith—i bob gofalwr sy'n darparu mwy na 35 awr o ofal. A wnaiff y Gweinidog gadarnhau safbwynt Llywodraeth Cymru ar y mater penodol hwn? A yw'n rhywbeth y mae'r Llywodraeth yn ei ystyried?
Rydych yn cyfeirio yn eich datganiad at y gronfa yn darparu hyblygrwydd ychwanegol, ac y bydd yn datblygu mathau mwy hyblyg ac arloesol o seibiant sydd wedi eu teilwra i angen unigol. A wnewch chi ymhelaethu ar y pwynt hwn? Rwyf i wedi clywed gan nifer o ofalwyr di-dâl am eu profiadau a'r angen i fynd trwy'r felin a llenwi pentyrrau o waith papur er mwyn cael gofal seibiant. A wnewch chi ddweud mwy wrthym am y broses a sut y gall gofalwyr di-dâl gael gafael ar wasanaethau seibiant o'r gronfa hon? Hefyd, faint o ofalwyr ydych chi'n gobeithio eu cyrraedd gyda'r gronfa hon?
Mae ffigurau'n dangos nad yw tri chwarter y gofalwyr wedi cael seibiant o gwbl. Un peth yw canmol gwaith gofalwyr di-dâl, ond faint o bobl fydd yn elwa ar y swm cymharol fach hwn o arian? A fy nghwestiwn olaf: sut y bydd cysondeb yn cael ei sicrhau wrth gyflawni'r cynllun, ac wrth ddosbarthu cyllid, yn enwedig yn absenoldeb model iechyd a gofal cymdeithasol cenedlaethol cyson, unedig, y mae Plaid Cymru wedi ei argymell ers tro byd? Diolch yn fawr.