Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi – Senedd Cymru am 1:36 pm ar 9 Mehefin 2021.
Ydw, ac a gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei gwestiwn hefyd, a chytuno ag ef? Ac rwy’n sicr yn llongyfarch y cyfleuster yn ei etholaeth a'i ranbarth yn Nyffryn Clwyd. Mae'r sefydliadau bach hyn yn elfen allweddol o'r sector diwylliannol ac mae angen inni eu cefnogi ac rydym am iddynt ffynnu yn y byd ôl-bandemig hefyd. Mae'r gronfa adferiad diwylliannol, wrth gwrs, wedi bod o gymorth sylweddol i nifer o'r sefydliadau yn y sector hwnnw, ac rwy'n gobeithio y bydd hynny'n parhau. Ac fel y dywedais mewn ymateb i gwestiwn Heledd Fychan, bydd y sefydliadau hyn yn rhan annatod o'r broses o adfer ar ôl COVID.