Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi – Senedd Cymru am 2:01 pm ar 9 Mehefin 2021.
Hoffwn ddweud yn glir, fel y gwnaeth y Prif Weinidog ddoe, fod Llywodraeth Cymru yn condemnio’r defnydd o ddiswyddo ac ailgyflogi fel tacteg negodi ac arfer cyflogaeth. Nid yw'r bygythiad o ddileu swydd i orfodi tâl, telerau ac amodau israddol ar weithwyr yn cyd-fynd â'n gwerthoedd gwaith teg a phartneriaeth gymdeithasol, ac mae'n anghyson ag ethos y contract economaidd.