1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi – Senedd Cymru ar 9 Mehefin 2021.
3. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y defnydd o arferion diswyddo ac ailgyflogi gan gwmnïau sy'n cael cyllid gan Lywodraeth Cymru? OQ56538
Hoffwn ddweud yn glir, fel y gwnaeth y Prif Weinidog ddoe, fod Llywodraeth Cymru yn condemnio’r defnydd o ddiswyddo ac ailgyflogi fel tacteg negodi ac arfer cyflogaeth. Nid yw'r bygythiad o ddileu swydd i orfodi tâl, telerau ac amodau israddol ar weithwyr yn cyd-fynd â'n gwerthoedd gwaith teg a phartneriaeth gymdeithasol, ac mae'n anghyson ag ethos y contract economaidd.
Credaf y bydd llawer ohonom yn y Siambr yn croesawu'r eglurder hwnnw. Weinidog, yn anffodus, mae'r defnydd gwrthun o ddiswyddo ac ailgyflogi ar gynnydd. Fis yn ôl yn unig, ymunodd 140 o ASau ac Arglwyddi ag ymgyrch dan arweiniad Cyngres yr Undebau Llafur ac oddeutu 20 o undebau mawr yn y wlad hon, gan gynnwys undebau Unite, GMB, Community, y Ffederasiwn Busnesau Bach—y rhan fwyaf o'r prif undebau—i atal cyflogwyr rhag ysbeilio cyflogau, torri telerau ac amodau tâl salwch a thanseilio hawliau gweithwyr yn y gwaith. Fe wnaethant alw ar Lywodraeth y DU i ddefnyddio Araith y Frenhines ym mis Mai i atal arferion diswyddo ac ailgyflogi, ond anwybyddwyd y galwadau hynny.
Nawr, nid yw cyfraith cyflogaeth, wrth gwrs, wedi'i datganoli i Gymru, ond mae gennym rai arfau pwerus wrth law, gan gynnwys y dull partneriaeth gymdeithasol a chaffael moesegol, sydd wedi tynnu sylw yn y gorffennol at gwmnïau a oedd yn defnyddio cosbrestrau adeiladu i wneud bywydau gweithwyr yn y diwydiant adeiladu yn dlotach. Felly, Weinidog, beth arall y gallwn ei wneud i gael gwared ar arferion diswyddo ac ailgyflogi yng Nghymru, lle mae cwmnïau'n derbyn arian cyhoeddus, ac a oes unrhyw beth y gallem edrych arno yn y ddeddfwriaeth partneriaeth gymdeithasol wrth symud ymlaen hefyd?
Ie, ac rwy'n cydnabod y pwynt y mae'r Aelod yn ei wneud. Pan oeddwn ar y meinciau cefn, rwy'n cofio codi materion yn ymwneud â chosbrestr gweithwyr adeiladu a’r effaith uniongyrchol roedd hynny’n ei chael ar fywydau gweithwyr yng Nghymru a thu hwnt. Felly, byddwn yn ceisio defnyddio'r ysgogiadau ymarferol a dylanwadol sydd gennym i geisio sicrhau bod cyflogwyr yng Nghymru yn deall safbwynt Llywodraeth Cymru a beth y mae hynny'n ei olygu i'w hymgysylltiad â ni. Felly, y contract economaidd, mae'n glir iawn mewn perthynas ag ymrwymo i egwyddorion gwaith teg, ac os yw pobl yn dymuno cael cymorth parhaus, bydd angen iddynt gadw hynny mewn cof. Ac er nad oes gennym bwerau deddfwriaethol, mae hyn yn mynd yn ôl at y pwynt fod gennym ysgogiadau ymarferol a ddylai ein helpu i wneud cynnydd. Ac edrychaf ymlaen at wneud cynnydd ar gaffael a phartneriaeth gymdeithasol, gan y bydd hynny'n golygu ein bod yn bwrw ymlaen â'r agenda gwaith teg, a bydd yr Aelodau'n cael cyfle i graffu ar y dull o weithredu mewn deddfwriaeth ar yr egwyddorion gwaith teg hynny a'r hyn y bydd yn ei olygu. Felly, edrychaf ymlaen at weld yr Aelodau’n cymryd rhan ac yn ymgysylltu â hynny i sicrhau bod gennym y ddeddfwriaeth orau a ddylai wneud gwahaniaeth ymarferol o ran sut y mae Llywodraeth Cymru yn trefnu cymorth ariannol, cymorth benthyciad a chymorth ymarferol i gwmnïau a busnesau, a chredaf y bydd hynny'n gwella’r byd gwaith yma yng Nghymru yn fawr.
Yn gyntaf oll, hoffwn eich llongyfarch ar eich penodiad, Weinidog. Ni chredaf fy mod wedi cael cyfle i wneud hynny eto, felly llongyfarchiadau i chi.
Wrth gwrs, codwyd y mater hwn ddoe yn y cwestiynau i'r Prif Weinidog, ac mae'n fater pwysig. Cawsom gyfraniadau cadarnhaol gan Mr Hedges a Mr Davies, fy nghyd-Aelodau yma, ac yn amlwg, fe ymatebodd y Prif Weinidog ddoe, ond roedd hyn cyn i Lywodraeth y DU wneud ymrwymiadau a chynigion pellach yn y Senedd brynhawn ddoe. Ac rwy'n siŵr eich bod yn falch o glywed ymrwymiad parhaus Llywodraeth y DU i gael gwared ar yr arferion diegwyddor hyn. Ac yn wir, ddoe, cyfeiriodd Prif Weinidog Cymru at y gobaith y byddai Llywodraeth y DU yn ystyried adolygiad y Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu gan arwain at gamau deddfwriaethol, a chadarnhaodd Llywodraeth y DU eu hymrwymiad i’r Bil cyflogaeth ddoe, ac i un corff gorfodi hefyd. Rwy'n siŵr y byddech yn croesawu'r camau hynny gan Lywodraeth y DU. Felly, yng ngoleuni hynny, ac yng ngoleuni'r datganiadau ddoe gan Lywodraeth y DU, pa drafodaethau pellach y byddwch yn eu cael gyda Llywodraeth y DU i barhau â'r gwaith da hwn er mwyn sicrhau y daw y ddeddfwriaeth hon i rym?
Credaf fod—. Yn aml, rhoddir arwyddion cadarnhaol, fel yn yr achos hwn—a chroesawaf yr Aelod i'r Siambr ac i’r cwestiynau; edrychaf ymlaen at weithio gydag ef yn y rôl hon, yn dilyn ei gyfnod fel arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy. Edrychwch, rwy'n croesawu'r ffaith, os daw’r un corff gorfodi yn weithredol, y bydd hynny'n beth da. Byddai hynny'n helpu nid yn unig yn y maes hwn, ond mewn ystod o rai eraill hefyd. Bil cyflogaeth sy'n helpu i symud pethau ymlaen—byddai hynny, unwaith eto, yn beth da, ac yn dibynnu ar y mesurau, gallai fod cefnogaeth gan Lywodraeth Cymru i'r mesurau hynny. Yr her, serch hynny, yw bod adroddiad y Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu wedi nodi bod opsiynau deddfwriaethol ar gael, a heddiw, mae Prif Weinidog y DU wedi cadarnhau unwaith eto, er ei fod yn credu y gall diswyddo ac ailgyflogi fod yn arfer diegwyddor, nad oes ymrwymiad ar hyn o bryd i gynigion deddfwriaethol penodol. A'r perygl yw, wrth ofyn i’r Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu adolygu'r canllawiau, na fydd hynny o reidrwydd yn newid yr hyn sy'n digwydd yn ymarferol. Fel y dywedodd Huw Irranca-Davies, gan nad yw cyfraith cyflogaeth wedi'i datganoli, os nad yw'n anghyfreithlon, nid yw hyd yn oed materion sy'n gysylltiedig ag arferion da o reidrwydd yn mynd i atal cyflogwyr sydd hyd yn oed yn awr wedi bwrw ymlaen a gwneud dewisiadau anodd iawn sy'n amlwg yn ymwneud â gwanhau telerau ac amodau. Felly, mae rhai pwyntiau y gallwn eu croesawu ac rwy'n fwy na pharod i wneud hynny, mae pwyntiau eraill lle rydym yn dal i feddwl bod angen i Lywodraeth y DU fynd ymhellach, gan gynnwys deddfu i wahardd arferion diegwyddor diswyddo ac ailgyflogi.