1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi – Senedd Cymru am 1:44 pm ar 9 Mehefin 2021.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Paul Davies.
Diolch, Lywydd. Weinidog, a gaf fi achub ar y cyfle hwn i'ch llongyfarch ar eich penodiad newydd, a dweud o'r cychwyn fy mod yn edrych ymlaen at weithio'n adeiladol gyda chi lle gallaf wneud hynny, i amddiffyn, cefnogi a thrawsnewid ein heconomi wrth inni gefnu ar y pandemig hwn?
Nawr, Weinidog, honnodd Llywodraeth Cymru ei bod hi wedi cynnig y pecyn cymorth mwyaf cynhwysfawr yn y DU i fusnesau drwy gydol pandemig COVID, ac er bod llawer o fusnesau wedi cael cymorth i oroesi, mae rhai busnesau, ac yn wir, rhai unigolion wedi bod ar eu colled yn gyfan gwbl. Mae rhai wedi teimlo eu bod wedi llithro drwy'r bylchau mewn pecynnau cymorth i fusnesau ac eraill yn teimlo bod awdurdodau lleol wedi defnyddio eu disgresiwn i beidio â darparu cymorth ariannol. Felly, o ystyried peth o'r dystiolaeth, ar ba sail y credwch fod Llywodraeth Cymru wedi darparu’r pecyn cymorth mwyaf cynhwysfawr yn y DU i fusnesau yng Nghymru? Yng ngoleuni effaith barhaus COVID-19 ar fusnesau a swyddi, beth fydd eich gweithred gyntaf yn eich swydd newydd i sicrhau adferiad cryf yn y farchnad lafur?
Mae'n ffaith, nid mater o farn, ein bod wedi darparu £2.3 biliwn o gymorth i fusnesau a'r economi yma yng Nghymru, yn dilyn cyllid canlyniadol o £1.9 biliwn gan Lywodraeth y DU. Mae'r £400 miliwn ychwanegol yn ddewis rydym wedi'i wneud i roi rhagor o gymorth i fusnesau yma yng Nghymru. Bydd yr Aelod yn gwybod, er enghraifft, fod rhyddhad ardrethi busnesau bach yn parhau am flwyddyn lawn yma yng Nghymru; un chwarter o ryddhad llawn a geir yn Lloegr, ac mae’n lleihau yn raddol ar ôl hynny.
Bydd yr Aelod hefyd wedi clywed y Prif Weinidog yn y Siambr hon yn tynnu sylw at enghraifft y gwahanol fusnesau lletygarwch a'r hyn y byddent yn ei dderbyn dros y ffin. Ar gyfer busnes â 10 gweithiwr ers mis Rhagfyr yng Nghymru, gallech fod wedi derbyn £52,500; byddai'r busnes cyfatebol yn Lloegr wedi derbyn £26,000. Mae'n amlwg a heb amheuaeth yn gynllun mwy hael yma yng Nghymru.
Edrychaf ymlaen at adeiladu ar y sgyrsiau rwyf eisoes wedi'u cael gyda sefydliadau busnes ynglŷn â sut rydym yn darparu mwy o sicrwydd yn ein hamgylchedd masnachu yn y dyfodol. Nid yw pob un o’r materion hynny yn nwylo Llywodraeth Cymru. Mynychais y cyngor partneriaeth heddiw rhwng Llywodraeth y DU a'r Comisiwn Ewropeaidd ac mae'r ansicrwydd yn ffactor allweddol yn y berthynas rhyngom. Ond edrychaf ymlaen at gam nesaf y cymorth i fusnesau i edrych ar yr hyn y mae angen i ni ei wneud i gefnogi busnesau na allant fasnachu fel arfer, yn ogystal â buddsoddi yn y dyfodol ac yn enwedig y gallu i fuddsoddi mewn gwella sgiliau yn y gweithlu, ac yn wir, mewn rolau arwain a rheoli.
Weinidog, awgrymaf wrthych mai'r unig ffordd y gallwn farnu a ydych yn darparu'r pecyn cymorth mwyaf hael yw os gwelwn ffigurau gwirioneddol ar gyfer y busnesau rydych wedi'u cefnogi. Yn ddiweddar, cafodd yr Aelod dros Flaenau Gwent gadarnhad gan y Prif Weinidog rai wythnosau yn ôl fod Llywodraeth Cymru’n bwriadu cyhoeddi dadansoddiad o lefel y cymorth a ddarparwyd i fusnesau yr effeithiwyd arnynt gan COVID-19 yn ôl sector, yn ôl daearyddiaeth ac yn ôl elfen yn rhaglen yr adferiad economaidd. Mae'r data hwn yn gwbl hanfodol er mwyn deall lle mae cymorth wedi'i roi ac efallai lle na chafodd ei roi. Mewn ysbryd o ddidwylledd a thryloywder, mae’n rhaid sicrhau bod y wybodaeth honno ar gael cyn gynted â phosibl. Weinidog, a allwch gadarnhau'n bendant pa bryd y bydd y data hwnnw'n cael ei gyhoeddi? O ystyried sylwadau diweddar y Prif Weinidog ynglŷn ag ailraddnodi cymorth i fusnesau wrth symud ymlaen, a allwch ddweud wrthym, ac yn wir wrth fusnesau ledled Cymru, beth yw cynlluniau Llywodraeth Cymru i gefnogi busnesau wrth symud ymlaen?
Mae dwy ran benodol i'r cwestiwn hwnnw. Y cyntaf yw cyhoeddi pa gymorth i fusnesau a ddarparwyd eisoes. Rydym eisoes wedi cyhoeddi peth o'r wybodaeth honno ynglŷn â chymorth blaenorol a ddarparwyd gennym yn gynharach yn y pandemig. Nid wyf am ddweud unrhyw beth ar hyn o bryd, gan fod angen imi wirio, ond rwy'n fwy na pharod i sicrhau bod yr holl Aelodau'n ymwybodol o ba bryd y byddwn, nid os byddwn, yn cyhoeddi’r wybodaeth honno. Felly, mae'n gwbl agored a thryloyw, oherwydd yn sicr, nid oes unrhyw ymdrech i guddio'r symiau a ddarparwyd. Roedd hynny’n rhan o'r amodau ar gyfer darparu’r cymorth. Mae pob busnes sy'n derbyn cymorth yn gwybod y byddwn yn cyhoeddi'r symiau a ddarparwyd.
Ar eich pwynt olaf ynglŷn â sut y byddwn yn cefnogi busnesau wrth symud ymlaen, rwy'n disgwyl dychwelyd i'r lle hwn i amlinellu camau nesaf y cymorth i fusnesau. Ac wrth ailraddnodi'r hyn a wnawn, mae'n rhaid i hynny roi ystyriaeth i'r sefyllfa rydym ynddi, gyda’r llwybr i lacio’r cyfyngiadau—ac rydym mewn sefyllfa dda, ar ôl cyhoeddi'r newid graddol i lefel rhybudd 1 yn llawn dros yr wythnosau nesaf. Mae hynny'n dal i olygu y bydd rhai cyfyngiadau ar waith. Yna, mae angen inni feddwl am gam nesaf y cymorth i fusnesau, fel y nodais yn fy ateb cyntaf, gan ein bod mewn sefyllfa o argyfwng o hyd—nid ydym yn ôl i’r hen normal. Mae cadw pellter cymdeithasol, golchi dwylo, gwisgo masgiau a'r mesurau sylfaenol hynny gyda ni o hyd, yn ogystal â chyfyngiadau ar nifer y bobl sy'n gallu mynychu amrywiaeth o fusnesau. Ochr yn ochr â hynny, rwyf am edrych ar fuddsoddi yn y dyfodol—buddsoddi yn yr adferiad pellach—a chredaf y byddwn yn gallu gwneud hynny dros yr ychydig fisoedd nesaf, ond yn hollbwysig, pan fydd Llywodraeth y DU yn darparu adolygiad cynhwysfawr o wariant yn y dyfodol gan roi mwy o sicrwydd i ni ynghylch ein gallu i fuddsoddi ar sail amlflwydd.
Weinidog, pa newidiadau bynnag a wnewch yn y dyfodol i gymorth i fusnesau, mae’n rhaid eu gwneud mewn modd clir, ac mae’n rhaid ymgysylltu â busnesau a sicrhau eu bod yn deall cyfeiriad teithio Llywodraeth Cymru, felly edrychaf ymlaen at ddatganiadau pellach gennych maes o law. Credaf fod cyhoeddi data hefyd yn hanfodol er mwyn gallu deall dull Llywodraeth Cymru o weithredu a dysgu gwersi ar gyfer y dyfodol. Felly, gobeithio'n wir y byddwch yn gwrando ar y Prif Weinidog. Mae’r Prif Weinidog wedi dweud yn gwbl glir ei fod am i'r wybodaeth honno gael ei chyhoeddi, felly edrychaf ymlaen at weld y wybodaeth honno wedi'i chyhoeddi maes o law.
Fe fyddwch hefyd yn ymwybodol o adroddiad diweddar Iechyd Cyhoeddus Cymru a ddangosodd fod gweithwyr ifanc rhwng 16 a 24 oed yn llawer mwy tebygol o fod wedi'u cyflogi mewn sectorau sydd ar gau, o gymharu â grwpiau oedran eraill. Dangosodd yr un adroddiad hefyd fod gweithwyr iau yn teimlo’n fwy ansicr am y dyfodol, yn enwedig pan ddaw cynlluniau’r Llywodraeth i ben, a’r hyn y gallai hynny ei olygu o ran rhagolygon swyddi. Addawodd maniffesto Senedd eich plaid warant i bobl ifanc sy’n gwarantu cynnig o waith, addysg, hyfforddiant neu hunangyflogaeth i bawb o dan 25 oed. Weinidog, beth yw eich neges i weithwyr ifanc yng Nghymru heddiw ynglŷn â’u hofnau ynghylch rhagolygon swyddi yn y dyfodol? Ac a allwch nodi pryd yn union y bydd y warant i bobl ifanc yn cael ei chyflwyno fel y gall Cymru symud ymlaen o'r pandemig gydag economi sy'n gweithio ac sy’n cefnogi pobl ifanc? Oherwydd dyna mae'n ei ddweud yn eich maniffesto.
Dyna'n union y byddwn yn ei wneud. Edrychaf ymlaen at roi datganiad i'r Aelodau a'r cyhoedd ynglŷn â sut rydym yn bwrw ymlaen â'r warant i bobl ifanc. Nodaf yr hyn a ddywedodd yr Aelod ynglŷn â diddymu cymorth i ddiwydiant. Wrth i'r cynllun ffyrlo ddechrau dod i ben yn raddol, bydd busnesau'n gwneud dewisiadau cyn hynny ac wrth i gymorth Llywodraeth y DU ddirwyn i ben yn raddol, mae perygl y bydd rhai busnesau’n dewis peidio â pharhau gyda'r un nifer o weithwyr ag sydd ganddynt ar hyn o bryd. Mae honno'n her, ac mae'n her benodol i weithwyr iau. Gwyddom eu bod wedi cael eu heffeithio'n arbennig mewn sectorau o'r economi lle maent yn fwy tebygol o fod wedi eu cyflogi. Byddwn yn dweud wrth unrhyw weithwyr ifanc neu bobl ifanc sy'n awyddus i fynd i fyd gwaith ein bod yn deall bod hwn yn gyfnod ansicr a dyna'n union pam ein bod yn mynd i ddarparu gwarant i bobl ifanc i sicrhau nad oes cenhedlaeth goll o ganlyniad i'r pandemig. Edrychaf ymlaen at roi datganiad ac ateb cwestiynau yma yn y Siambr hon wrth inni geisio gwneud hynny—nid yn unig y cyhoeddiad cychwynnol, ond sut rydym yn bwrw ymlaen â'r gwaith hwnnw, gan gynnwys, yn hanfodol, gweithio gyda busnesau, ein gwasanaethau cynghori a'r bobl ifanc eu hunain er mwyn deall sut y bydd gennym y cynnig mwyaf llwyddiannus ac ymarferol ar gael yng Nghymru.
Llefarydd Plaid Cymru, Luke Fletcher.
Diolch, Lywydd. Hoffwn ddechrau drwy longyfarch y Gweinidog ar ei swydd newydd. Nid wyf wedi cael cyfle i ddweud hynny wrtho wyneb yn wyneb eto, ond rwy'n siŵr ei fod mor gyffrous â minnau i gael perthynas adeiladol wrth symud ymlaen.
Ers cychwyn datganoli ym 1999 a phwerau deddfu llawn yn 2011, nid oes unrhyw Lywodraeth yng Nghymru wedi llunio deddfwriaeth wedi'i hanelu'n benodol at fynd i'r afael ag economi a busnesau Cymru. Gyda'r sefydliadau democrataidd yng Nghymru wedi hen ennill eu plwyf bellach, credwn mai nawr yw'r amser iawn. Mae angen cynigion clir a hirdymor ar fentrau bach a chanolig i'w helpu i ddarparu sylfaen gref ar gyfer datblygiad economaidd yng Nghymru. Felly, hoffwn ofyn i'r Gweinidog: pa opsiynau deddfwriaethol y bydd Llywodraeth Cymru yn eu hystyried dros dymor nesaf y Senedd a fyddai'n helpu i gynnal y mesurau a'r bensaernïaeth sydd eu hangen i gefnogi datblygiad economaidd yng Nghymru a all sicrhau hirhoedledd a sefydlogrwydd ein gwasanaethau cymorth a chyngor i fusnesau, ac ymateb i gefnogi busnesau pan fydd argyfyngau'n digwydd, fel y gwelwyd gyda COVID-19?
Diolch am eich cyflwyniad caredig. Edrychaf ymlaen at weithio gydag ef ar draws y Siambr, yn y Siambr a thu allan iddi hefyd.
O ran eich pwynt ynglŷn â deddfwriaeth, credaf mai'r her yw a fydd deddfwriaeth yn gwneud gwahaniaeth. Dyna'r prawf gwirioneddol, does bosibl; nid yn unig fod gennym y pwerau, ond y gellir defnyddio'r pwerau i ddeddfu mewn ffordd ystyrlon. Os edrychwch ar y ffordd y mae'r lle hwn wedi ymateb i ddigwyddiadau yn y gorffennol, er enghraifft, pan oedd y Dirprwy Brif Weinidog blaenorol o'ch plaid eich hun yn ei swydd, mewn ymateb i argyfwng 2007-08 ar y pryd, yr ymateb arwyddocaol a gafwyd gan Lywodraeth Cymru dan arweiniad Rhodri Morgan oedd drwy gynlluniau ReAct a ProAct, nad oedd yn galw am newid i'r ddeddfwriaeth. Roedd yn ymwneud mewn gwirionedd â sut roedd y pwerau a oedd yma eisoes a’r cyllidebau'n cael eu defnyddio mewn ffordd greadigol a oedd yn cynnwys rhanddeiliaid o fyd busnes—Cydffederasiwn Diwydiant Prydain yn benodol, a Chyngres Undebau Llafur Cymru hefyd. Daethom at ein gilydd mewn ffordd y cytunwyd arni i ddiogelu cymaint o waith â phosibl. Drwy gydol y pandemig COVID, rydym wedi gallu gwneud rhywbeth tebyg, a defnyddio ein pwerau, gan weithio gyda rhanddeiliaid a chyda'n dull partneriaeth gymdeithasol. Rydym yn mynd i ddeddfu’r bartneriaeth gymdeithasol ar gyfer y dyfodol. Credaf hefyd ei bod yn bwysig cydnabod y ddeddfwriaeth gaffael a phartneriaeth gymdeithasol, gan y bydd gwella faint o wariant caffael a gedwir yng Nghymru yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol. Nid yw hynny yr un peth â deddfu, i bob pwrpas, i geisio deddfu ar gyfer swyddi; dyna sut y cawn yr enillion ariannol mwyaf a gwella cysylltiadau.
Fe sonioch chi am gymorth i fusnesau; dyna un o fy mhryderon allweddol a dyna pam y soniais fy mod yn dymuno cael perthynas fwy adeiladol â Llywodraeth y DU yn fy ateb i Paul Davies. Mae Busnes Cymru yn un brand ar gyfer cymorth i fusnesau, un drws i fynd drwyddo ar hyn o bryd. Cafodd ei ariannu i raddau helaeth o gronfeydd blaenorol yr Undeb Ewropeaidd sy'n dod i ben. Gallai'r cronfeydd newydd i gymryd eu lle, os cânt eu gweinyddu yn y ffordd y mae Llywodraeth y DU yn ei nodi ar hyn o bryd, danseilio ein gallu i barhau i ariannu'r gwasanaeth hwnnw mor effeithiol ag y buom yn ei wneud, ac ystod o feysydd eraill. Felly, mae gwaith i'w wneud yma, gyda'r cyfrifoldebau sydd gennym, ac os oes gan yr Aelod gynigion allweddol a fyddai'n golygu y gall deddfwriaeth fod yn effeithiol, rwy’n fwy na pharod i’w trafod gydag ef. Ond mae ein perthynas, ein pwerau a bodolaeth y lle hwn, a'r cyfrifoldebau y mae pobl Cymru wedi dewis eu rhoi i ni, yn ffactor allweddol yn y ffordd y gweithiwn gyda Llywodraeth y DU, rwy'n gobeithio, yn hytrach na dull mwy gwrthdrawiadol, sef y llwybr rydym arno ar hyn o bryd.
Diolch am eich ateb, Weinidog, ac rwy’n falch o glywed am y Ddeddf partneriaeth gymdeithasol. Fel y gŵyr, mae Plaid Cymru wedi bod yn gefnogol iawn i hynny drwy gydol y broses, ac rwy'n edrych ymlaen at weithio gydag ef ar y pwynt hwnnw, a hefyd, at edrych, o bosibl, ar rai opsiynau deddfwriaethol wrth symud ymlaen.
Os caf droi at broblem hyder rydym yn ei gweld gyda busnesau bach a chanolig ar hyn o bryd, roedd yn dda cael cyfle i gyfarfod â Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru yr wythnos diwethaf a thrafod sut y gall y Senedd a Llywodraeth Cymru weithio gyda'i gilydd dros y pum mlynedd nesaf i gefnogi busnesau bach. Mae eu cymorth diweddar, ‘Yr Hyn Ydym Yn Rhoi Gwerth Arno’, yn amlinellu sut y gall busnesau bach a chanolig fod yn allweddol i’r gwaith o ailadeiladu economi a chymunedau Cymru. Yn ogystal â chyfrannu at gadernid cymunedau a darparu gwasanaethau hanfodol, mae busnesau bach yn gyflogwyr hanfodol. Mae 99.4 y cant o fusnesau yng Nghymru yn fusnesau bach a chanolig, ac yn cyfrannu 62.4 y cant o gyflogaeth y sector preifat a 37.9 y cant o'r trosiant. Fel cymaint o sectorau eraill, mae’r pandemig wedi effeithio’n andwyol ar fusnesau bach a chanolig ac roedd arnynt angen cymorth sylweddol gan y Llywodraeth.
Wrth edrych ymlaen, ceir safbwyntiau gwahanol iawn am y rhagolygon ar gyfer busnes a'r economi ehangach yng Nghymru dros y pum mlynedd nesaf. Er bod 63 y cant o berchnogion busnesau bach yn obeithiol iawn neu'n weddol obeithiol am eu menter eu hunain, mae optimistiaeth yn lleihau wrth ystyried yr economi ehangach. Mae optimistiaeth, mewn gwirionedd, yn cwympo i 57 y cant wrth ystyried y sector neu'r diwydiant perthnasol, tra bo hyd yn oed llai o berchnogion busnesau bach yn obeithiol am y sector busnesau bach yng Nghymru neu economi Cymru dros y pum mlynedd nesaf. Sut y mae'r Gweinidog, felly, yn bwriadu ymgysylltu â busnesau bach a chanolig i leihau'r diffyg hyder hwn a darparu'r eglurder angenrheidiol ar amcanion hirdymor ymarferol i helpu busnesau bach a chanolig i gyfrannu at yr adferiad economaidd yng Nghymru?
Mae'r Aelod yn tynnu sylw at un o'r problemau: pan ofynnir i bobl am eu busnes, maent yn hyderus, ond pan ofynnir iddynt yn fwy cyffredinol, mae ganddynt lai o hyder. Mae'r un peth yn wir mewn nifer o feysydd eraill: lle mae gan bobl brofiad personol, maent yn teimlo bod ganddynt fwy o reolaeth, a llai o hyder wrth feddwl am bersbectif ehangach. Felly, mae rhywfaint o hyn yn ymwneud â chydweddu’r hyn y mae pobl yn ei weld ar lawr gwlad. Wrth gyfarfod ag ystod o sefydliadau busnes, gan gynnwys y Ffederasiwn Busnesau Bach, cefais sgwrs gychwynnol ynglŷn â’r hyn y gallwn ei wneud ac edrychaf ymlaen at barhau i weithio gyda hwy, gan y credaf mai'r unig ffordd i greu'r hyder hwnnw yw drwy’r sgyrsiau a gawn, ond hefyd yn y penderfyniadau a wnawn, ac a all y busnesau hynny ddarparu dyfodol iddynt eu hunain sy'n ymwneud â chynnal busnesau sy'n bodoli yn ogystal â helpu rhai busnesau i dyfu. Bydd rhai busnesau bob amser yn fusnesau bach; gall eraill dyfu i fod yn fusnesau canolig a busnesau mwy o faint. Mae angen inni fod yn fwy llwyddiannus yng Nghymru a gweld mwy o fusnesau canolig a mwy o faint yn datblygu yma yng Nghymru, ynghyd â'r pwynt am fusnesau newydd. Rydym yn cydnabod bod angen inni gael cyfradd uwch o fusnesau newydd hefyd, felly edrychaf ymlaen at weithio gyda hwy ar agenda sy’n gadarnhaol yn fy marn i, lle rydym yn cydnabod ein bod fwy neu lai yn yr un lle o ran deall yr heriau sy’n ein hwynebu, ac yna'r angen i ddeall sut rydym yn cydweithio'n llwyddiannus, gyda phŵer cynnull y Llywodraeth a'r ysgogiadau sydd ar gael inni ar hyn o bryd.
Diolch, Weinidog. Y gwir amdani yng Nghymru, wrth gwrs, yw mai'r un sefydliad a all roi hyder i fusnesau bach a chanolig yw'r Llywodraeth. Gwyddom fod gan y busnesau bach a chanolig eu hunain ysfa ac entrepreneuriaeth; maent yn adnodd hanfodol oherwydd eu hysfa, eu hangerdd a'u harbenigedd yn eu priod feysydd. Fodd bynnag, er mwyn diogelu’r ysfa a'r buddsoddiad hwn, mae angen sicrwydd ar fusnesau bach a chanolig. Mae'n debygol fod cynlluniau busnes hirdymor a grëwyd cyn y pandemig wedi'u diddymu, neu o leiaf fod angen eu hadolygu ar frys, ac mae'n ddealladwy pam. A yw Llywodraeth Cymru yn barod i fynd ymhellach na’u cymorth cyfredol a bod yn barod i fuddsoddi ym musnesau bach a chanolig Cymru er mwyn darparu sicrwydd, ennyn hyder yn y sector a chreu’r amodau sy’n angenrheidiol ar gyfer twf a fydd yn hybu economi Cymru?
Ceir ystod o ffactorau, fel y dywedais wrth Paul Davies, lle mae gan Lywodraeth Cymru rôl, yn sicr, yn y broses o greu'r amodau hynny, ac eraill lle mae angen inni weithio ochr yn ochr â Llywodraeth y DU. Mae'r cysylltiadau masnachu parhaus gyda'r Undeb Ewropeaidd yn ffactor allweddol i ni. Pe baem yn siarad am borthladdoedd, byddem yn wynebu her benodol gyda’r porthladdoedd yn sir Benfro ac yng Nghaergybi, a'r berthynas newydd, gyda'r ffordd y mae masnach yn cael ei dargyfeirio. Mae gennym rai o'r heriau hynny i weithio drwyddynt, lle ceir cymysgedd o gyfrifoldebau a gedwir yn ôl a chyfrifoldebau sydd gennym yma.
Felly, mae hynny'n rhan o'r gymysgedd. Mae a wnelo hefyd â’r dewisiadau y gallwn eu gwneud yma. Dyna pam nad ydym yn sôn yn unig am y warant i bobl ifanc, ond rydym yn awyddus i sôn am sgiliau ac am gymorth i fusnesau. Bydd cael eglurder ynglŷn â’n gallu i ddarparu hynny yn hynod bwysig, er mwyn helpu busnesau llai i fuddsoddi yn sgiliau eu gweithluoedd, eu harweinwyr a'u rheolwyr. Mae'n un o'r ffactorau allweddol wrth helpu busnesau i dyfu, ac yn amlwg, mae gennym sylfaen lwyddiannus i adeiladu arni, gyda rhaglen brentisiaethau lwyddiannus, ymrwymiad allweddol i wneud mwy ar hynny, a sut rydym yn gweithio ochr yn ochr â busnesau bach i ddeall y ffordd orau o ddiwallu eu hanghenion.
Y ffactor allweddol arall, serch hynny, o ran hyder i fusnesau bach, yw ymddygiad cwsmeriaid. Ac fe fyddwch yn cofio’r consortiwm manwerthu yn sôn am y ffaith bod ymddygiad cwsmeriaid yn dal i fod yn fater sy'n newid, lle rydym yn dal i ddeall sut y bydd cwsmeriaid yn ymddwyn. Mae'n ymwneud â'r bobl sy’n awyddus i ddychwelyd i amgylchedd swyddfa ac am ba hyd, beth y mae hynny'n ei olygu i fusnesau lle mae eu model yn golygu eu bod yn dibynnu ar y bobl hynny, yn ogystal ag ar y manwerthwr ar y stryd fawr, ac a ydym yn mynd i weld niferoedd digonol i sicrhau bod gan y busnesau hynny ragolygon mwy hyderus ar gyfer eu dyfodol eu hunain. A rhan o'r her a'r gonestrwydd yw ein bod am ddarparu sicrwydd mewn byd sydd ychydig yn ansicr o hyd. Rwy'n dweud 'ychydig yn ansicr', ac rwy'n gobeithio, dros yr wythnosau nesaf, y byddwn yn datblygu mwy o sicrwydd ynglŷn â hynny wrth inni barhau â'r mesurau y bydd fy nghyd-Aelod Eluned Morgan yn siŵr o sôn amdanynt yn y man, ynglŷn â chyflwyno ein rhaglen frechu a'r diogelwch y dylai hynny ei roi. Felly, mae'r llwybr parhaus allan o'r pandemig yn ffactor allweddol o ran darparu'r amodau ar gyfer sicrwydd i fusnesau a'r cyhoedd yn ehangach wneud eu dewisiadau eu hunain.