2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru ar 9 Mehefin 2021.
2. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar y rôl y mae cyfleusterau meddygol cymunedol wedi'i chwarae yn ystod pandemig y coronafeirws? OQ56565
Diolch, Joel, am y cwestiwn.
Mae cyfleusterau meddygol cymunedol wedi chwarae ac yn parhau i chwarae rhan hanfodol drwy gydol y pandemig. Mae swyddogion yn parhau i weithio gyda byrddau iechyd i lywio'r gwaith o gynllunio ar gyfer brechlynnau atgyfnerthu ac i sicrhau bod mynediad at wasanaethau gofal sylfaenol ehangach yn gytbwys er mwyn sicrhau bod y boblogaeth yn cael ei hamddiffyn rhag COVID.
Diolch i chi, Weinidog. A hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i gofnodi fy niolch a fy ngwerthfawrogiad i bawb sy'n gweithio yn y maes hwn ac sydd wedi mynd y tu hwnt i'r galw i helpu i ddiogelu a gwasanaethu eu cymunedau yn ystod y pandemig ofnadwy hwn.
Fel yr amlygwyd ddoe yn y Siambr, ac mewn sesiwn friffio ddiweddar gan Gymdeithas Feddygol Prydain, roedd rhai meddygfeydd yng Nghymru mewn sefyllfa i addasu yn ystod y pandemig a sicrhau eu bod yn parhau i ddarparu gwasanaethau diogel ac effeithiol i gleifion. Mae'r rhain nid yn unig wedi cynnwys parhau ag apwyntiadau wyneb yn wyneb, ond hefyd elfen o ymgynghori ar-lein a chyfunol. Fodd bynnag, nid yw pob meddygfa wedi gallu addasu, ac mae'r practis Cwm Taf yng Nghilfynydd wedi'i gau ers dechrau'r pandemig, gan adael llawer o drigolion y pentref heb ddarpariaeth ddigonol a'r angen i wneud trefniadau amgen mewn mannau eraill. Yn anffodus, nid yw ymyrraeth y bwrdd iechyd a'r cyngor iechyd cymuned wedi gallu newid y sefyllfa, a hoffwn ofyn i'r Gweinidog ymyrryd ar ran y trigolion, cysylltu â rheolwyr y practis, a cheisio sicrhau bod y feddygfa hon yn weithredol cyn gynted â phosibl.
Diolch yn fawr iawn, Joel, ac rwy'n ategu eich diolch am ymdrechion aruthrol ein gweithwyr GIG yn ystod y pandemig. Credaf fod cleifion yn deall bod angen i bopeth newid ac addasu yng ngoleuni'r pandemig, ac wrth gwrs, roedd nifer y cleifion a gâi eu caniatáu y tu mewn i safleoedd yn bwysig er mwyn lleihau'r risg i bawb. Credaf fod cyflwyno technoleg newydd wedi bod yn fuddiol mewn rhai amgylchiadau, ac yn sicr roedd rhai cleifion yn teimlo bod y defnydd o eConsult a brysbennu ar y ffôn yn eithaf defnyddiol. Ond rydych chi'n llygad eich lle: pan fydd pobl angen ymgynghori wyneb yn wyneb, mae'n bwysig ein bod yn hwyluso hynny hefyd.
Rydym yn clywed am wahanol achosion ledled Cymru, ac rydym yn cadw llygad ar y sefyllfa honno. Rwy'n credu bod yn rhaid i ni ystyried y dysgu, y gwersi cadarnhaol rydym wedi'u dysgu o'r pandemig, ond byddaf yn edrych yn benodol ar y practis Cwm Taf. Os nad oes cyfle o gwbl i weld meddyg teulu, credaf fod hynny'n amlwg yn codi rhai cwestiynau. Felly, fe ofynnaf i fy swyddogion edrych ar yr achos hwnnw yn benodol.
Yn dilyn y cwestiwn a ofynnwyd yn awr, tybed a all roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni ynglŷn ag a wnaeth nifer fawr fanteisio ar y £9.2 miliwn ychwanegol o gyllid ar gyfer gwella ymateb dros y ffôn a fideo. Nawr, deallwn fod y pwysau ar ein cyfleusterau meddygol cymunedol yn enfawr yn ystod y pandemig, ond rydym am eu gweld yn dod allan o hyn a bod cleifion yn gallu cael ymgynghoriad dros y ffôn, e-ymgynghoriad neu e-ymgynghoriad fideo, neu'n syml i gael eu galwad wedi'i hateb hefyd.
Felly, byddai'n dda gwybod yn fy ardal fy hun beth sydd wedi bod yn digwydd gyda hynny, ac a wnaeth nifer fawr fanteisio ar hyn, ond credaf y byddai pob Aelod yma yn hoffi gwybod hefyd a yw eu practisau meddygon teulu a'u cyfleusterau meddygol cymunedol eu hunain wedi gwneud defnydd ohono wrth ddychwelyd at ryw normalrwydd newydd, lle mae pobl yn gwybod y gallant gael ymateb, y gallant gael apwyntiad, hyd yn oed os mai defnyddio'r negeseuon eConsult newydd yw'r apwyntiad hwnnw, ac y gallant wneud hynny'n gyflym. Felly, faint sydd wedi manteisio ar y £9.2 miliwn?
Diolch yn fawr iawn. Rwy'n credu bod yr Aelod yn llygad ei le wrth siarad am y normal newydd, oherwydd nid wyf yn credu ei bod yn iawn inni ddychwelyd at yr hen ffyrdd o weithio. Mae angen inni fanteisio ar dechnoleg newydd, ac rwy'n falch o ddweud bod llawer iawn wedi manteisio ar y cyllid o £9.2 miliwn a oedd ar gael hyd at fis Mawrth eleni. Rwy'n croesawu diddordeb yr Aelod yn y pwnc hwn. Fe fydd yn ymwybodol fod gennym rai safonau mynediad hefyd a gyhoeddwyd gan y Gweinidog iechyd blaenorol, ac roeddent yn ymwneud â sicrhau bod pobl yn gwybod beth oedd y disgwyliad. Felly, pan fyddent yn cysylltu â'r meddyg teulu, roeddent yn gwybod am y safonau darparu gwasanaeth a ddisgwylid, ac roedd cymhelliad yno i feddygon teulu, ac os ydynt yn cyrraedd y safonau, rhoddir taliadau ychwanegol iddynt. Nawr, rydym yn aros i glywed canlyniadau hynny, ac felly, bydd y canlyniadau hynny'n cael eu cyhoeddi ym mis Mehefin, ac os ydynt wedi cyrraedd y safonau, byddant yn cael y cymorth ariannol ychwanegol hwnnw. Felly, byddaf yn ysgrifennu at yr Aelodau gyda'r wybodaeth am safonau mynediad, a chyflawni'r gwasanaethau hynny ledled Cymru, pan fydd y data hwnnw ar gael ddiwedd mis Mehefin.