2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:38 pm ar 9 Mehefin 2021.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Russell George.
Diolch, Lywydd. Weinidog, yn fy rôl newydd, yn gyntaf hoffwn ddweud llongyfarchiadau ar eich penodiad, ac rwy'n gobeithio gweithio'n adeiladol gyda chi, yn enwedig mewn perthynas â'r heriau sydd o'n blaenau, heriau y mae'n rhaid inni eu hwynebu gyda'n gilydd fel gwlad.
Mae fy nghyd-Aelodau a minnau wedi croesawu'r cyhoeddiad o £1 biliwn i helpu'r GIG i adfer o'r pandemig, a'r gyfran gyntaf o £100 miliwn a gyhoeddwyd ar gyfer technoleg a staff newydd. Mae sawl mis wedi mynd heibio bellach ers cyhoeddi fframwaith Llywodraeth Cymru ar gyfer adferiad y GIG ac rydym yn dal i aros i weld ble y caiff y £900 miliwn arall ei wario. A allwch ddweud wrthym heddiw sut a ble y caiff yr arian hwn ei dargedu o fewn gofal sylfaenol ac eilaidd yng Nghymru?
Wel, diolch yn fawr iawn, ac a gaf innau hefyd longyfarch Russell George unwaith eto? Rwy'n credu fy mod wedi llongyfarch yn gynamserol y tro diwethaf. Yn gyntaf oll, rwy'n siŵr eich bod chi, fel fi, yn croesawu'r £1 biliwn ychwanegol y byddwn yn ei ddarparu yn benodol ar gyfer ceisio mynd i'r afael â'r materion sydd wedi codi o ganlyniad i'r pandemig. Fel y gŵyr yr Aelod, mae ôl-groniad sylweddol o waith y bydd angen mynd i'r afael ag ef, a gadewch i ni ei wynebu, nid ydym wedi cefnu ar y pandemig COVID ar hyn o bryd. Felly, mae cyfyngiadau difrifol o hyd ar ein gallu i ddychwelyd at wasanaeth arferol.
Rydym eisoes wedi cyhoeddi'r £100 miliwn. Mae hwnnw wedi'i ddosbarthu i bob un o'r byrddau iechyd yng Nghymru. Rwyf wedi gofyn yn awr i'r awdurdodau iechyd gyflwyno eu cynigion ar gyfer sut y credant y dylem fynd i'r afael â'r ôl-groniad. Felly, mae'r cynigion hynny'n cael eu dadansoddi gan fy swyddogion ar hyn o bryd. Byddwn yn llunio cynlluniau blynyddol gyda hwy, ac yn sgil hynny, byddwn yn gwneud cais i'r Gweinidog cyllid i ryddhau'r cyllid ychwanegol. Felly, mae'n rhaid inni sicrhau cydbwysedd cywir rhwng bod yn benodol iawn ynglŷn â'r hyn y byddwn yn ei wneud, sut rydym yn mynd i sicrhau darpariaeth yn ddaearyddol, ond hefyd ein bod yn cyrraedd yr achosion anoddaf a'r achosion clinigol blaenoriaethol cyn gynted ag y gallwn hefyd. Felly, y cyllid ychwanegol hwnnw, rwy'n awyddus iawn i ddechrau gwario, fel y gallwch ddychmygu, ond mae'n rhaid inni weithio mewn partneriaeth â'r byrddau iechyd a sicrhau ein bod yn deall beth yw eu blaenoriaethau hwy hefyd.
Diolch i chi, Weinidog. Rwy'n gwerthfawrogi eich ateb. Rwy'n tybio nad yw'n fater o'r awdurdodau iechyd yn unig, ond gweithwyr iechyd proffesiynol eraill y mae angen i chi weithio gyda hwy yn ogystal, ac mae llawer o'r rhai y siaradais â hwy dros yr wythnosau diwethaf yn teimlo'n siomedig nad ydynt eto wedi cael y cyllid hwnnw wedi'i ddyrannu a'i gyhoeddi. Rwy'n derbyn y broses rydych wedi'i chrybwyll a'i hamlinellu, ond rwy'n credu mai eu pryder yw bod rhestrau aros yn parhau i dyfu wrth i amser fynd yn ei flaen. Fel y soniais wrthych ddoe, mae Cymru bellach yn edrych ar restr aros o un o bob tri yn aros dros flwyddyn, o'i gymharu ag un o bob 11 yn Lloegr, ac nid COVID-19 yn unig sydd ar fai yma: cyn y pandemig, roedd nifer y rhai a oedd yn aros dros flwyddyn am driniaeth yn deirgwaith y nifer ar gyfer Lloegr gyfan.
Felly, er fy mod yn gwerthfawrogi yr hyn a ddywedoch chi, Weinidog—rwy'n deall i raddau yr hyn a ddywedoch chi—fe fyddwch yn amlwg yn ymwybodol o ymrwymiadau eich rhagflaenydd hefyd y byddai'n cymryd tymor seneddol llawn i glirio'r ôl-groniad o gleifion. Fe sonioch chi yn eich ateb cyntaf i mi ei bod yn mynd i gymryd amser i wneud hyn, a chredaf ein bod i gyd yn cydnabod ac yn deall hynny. Felly, a allwch roi unrhyw amserlenni i ddarparwyr y GIG allu gwybod pryd y byddant yn cael y cymorth ariannol hwn, fel y gallant gynllunio ble i'w dargedu? Rwy'n gwerthfawrogi'r broses rydych wedi'i hamlinellu, ond a allwn gael dyddiadau ynghlwm wrth hynny o bosibl?
Diolch yn fawr. Wel, dyma'r broses: mae'r byrddau iechyd yn cyflwyno eu cynlluniau blynyddol, nid ydym yn disgwyl derbyn y cynlluniau blynyddol hynny tan ddiwedd yr wythnos hon, a chyn gynted ag y bydd hynny wedi'i wneud, yn amlwg byddwn yn dadansoddi'r rheini. Byddwn yn edrych ar ble y credwn y dylai'r blaenoriaethau fod ac yna byddwn yn gwneud cyflwyniad i'r Gweinidog cyllid i weld a allai fod yn bosibl, efallai, ei gael mewn cyllideb atodol yn ddiweddarach eleni hyd yn oed, fel y gallwn ddechrau'r broses o wario arian. Rydym yn ymwybodol iawn os ydym am glirio'r ôl-groniad fod angen inni roi pethau ar waith, a'r ffordd orau o wneud hynny yw gwario'r arian ymlaen llaw ar ddechrau'r flwyddyn. Hefyd, wrth gwrs, un o'r pethau y maent yn awyddus i'w wybod yw a fydd hwn yn gyllid untro neu'n gyllid amlflwydd, ac mae hynny'n gwneud gwahaniaeth mawr o ran eu parodrwydd i ymrwymo ac i ba raddau. Felly, mae'r holl sgyrsiau hynny'n parhau.
Diolch, Weinidog. Rwy'n gwerthfawrogi eich bod wedi rhoi ychydig mwy o fanylion am yr amserlen. Fe gyfeirioch chi at gael y wybodaeth yn ôl gan y byrddau iechyd erbyn wythnos nesaf, rwy'n credu ichi ddweud. Ac mae'n debyg mai'r cwestiwn wedyn yw amserlenni ynghylch y broses o pryd y byddwch yn gwneud yr ymrwymiadau hynny, a chyflwyno'r cynigion hynny i'r Gweinidog cyllid, a phryd y credwch y bydd y Gweinidog cyllid mewn sefyllfa i ddweud wrth y Siambr sut y bydd y £900 miliwn hwnnw'n cael ei ddyrannu.
Nodais bryderon ddoe hefyd am y gweithlu, a sut y mae'n hanfodol cael strategaeth y gweithlu i wrthsefyll y prinder difrifol yn ein gweithlu GIG, fel nad ydym yn wynebu problem staff wedi ymlâdd wrth geisio mynd i'r afael â'r ôl-groniad cynyddol o driniaethau, a gwn eich bod yn deall ac yn cytuno â'r pryder hwnnw. Nawr, rwy'n gwybod ym maniffesto'r Blaid Lafur eich bod wedi cyfeirio at 12,000 o feddygon, nyrsys a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol perthynol, ond yr hyn na ddywedai'r maniffesto, felly rwy'n gobeithio y gallwch ddweud wrthym heddiw, ni roddai lawer o fanylion inni ynglŷn â'r dadansoddiad o bwy y bwriadech ei recriwtio i fynd i'r afael â'r ôl-groniad. Felly, rwy'n credu ei bod yn hanfodol o ran diogelwch cleifion ac o ran y gofynion cyfreithiol hefyd o dan Ddeddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016 fod gennym ddigon o staff ar ein wardiau hefyd wrth gwrs. Rwy'n gwybod y byddwch yn cytuno â hynny.
Felly, a allwch amlinellu heddiw, Weinidog, faint o feddygon a nyrsys y byddwch yn eu recriwtio, faint o amser y credwch y bydd yn ei gymryd i'w gyflawni, a faint o'r £900 miliwn y byddwch yn ei wario'n benodol ar recriwtio? Nawr, rwy'n sylweddoli y gallai rhywfaint o'r ateb hwn ymwneud â'r wybodaeth rydych yn aros i'w chael, ond byddem yn ddiolchgar os gallwch roi unrhyw oleuni ar hynny i ni, Weinidog.
Wel, rwy'n siŵr y bydd yr Aelod yn ymwybodol fod Llywodraeth Cymru eisoes wedi cynhyrchu strategaeth y gweithlu iechyd, gan weithio'n agos gydag Addysg a Gwella Iechyd Cymru i nodi lle mae'r bylchau mewn perthynas â lle mae gwir angen inni ganolbwyntio ein hymdrechion, a gwnaed llawer iawn o waith gyda'r sefydliad hwnnw dros y misoedd diwethaf. Ar y 12,000 o bobl y byddwn yn eu recriwtio ar gyfer hyfforddiant, mae rhywfaint o'r gwaith hwnnw eisoes ar y gweill ac rwy'n hapus i ysgrifennu at yr Aelod gyda dadansoddiad pellach o ble yn union y credwn y bydd y rheini.FootnoteLink Mae gwahaniaeth mawr—. Nid oes unrhyw bwynt dweud ein bod yn mynd i benodi x o feddygon newydd os nad ydynt yn y broses o hyfforddi, mae'r cyfan yn wastraff amser. Felly, y peth cyntaf i ddigwydd yw bod yn rhaid i chi eu hyfforddi ac yna gwneud yr ymrwymiad ariannol i sicrhau y gellir rhoi swydd iddynt ar ddiwedd y broses honno.
Yn amlwg, rydym yn pryderu'n fawr ynglŷn â sicrhau ein bod yn cadw at y lefelau staffio rydym wedi'u pennu yn y gyfraith wrth gwrs, ac fe fyddwch yn ymwybodol ein bod wedi gwneud llawer yn y Llywodraeth hon i sicrhau ein bod yn gwneud popeth yn ein gallu i gynhyrchu ein pobl leol ein hunain. Felly, mae'r fwrsariaeth i nyrsys, er enghraifft, yn rhywbeth y gwnaethom ei gadw yn y Blaid Lafur yng Nghymru, ac mae arnaf ofn fod Senedd San Steffan, eich Llywodraeth chi, y Blaid Geidwadol, wedi penderfynu tynnu'r gefnogaeth honno yn ôl.
Llefaryd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Weinidog, mi wnes i ofyn i chi ddoe wrth ymateb i’r datganiad ar y diweddaraf ar y coronafeirws ba gynlluniau oedd yna ar y gweill ar gyfer cyflymu brechu neu surge vaccination mewn ardaloedd haint uchel, ac yn enwedig ardaloedd, wrth gwrs, lle mae'r amrywiolyn delta yn achosi pryder. Dwi ddim yn teimlo fy mod wedi cael ateb fel yr oeddwn i eisiau i'r cwestiwn hwnnw, felly gadewch i mi ofyn yn y ffordd yma: os ydy bwrdd iechyd mewn ardal lle mae yna bryder—ac rydym yn sôn am Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ar hyn o bryd—yn gallu dangos bod ganddyn nhw'r capasiti i wneud mwy o frechu, a fyddwch chi fel Llywodraeth yn gwneud yn siŵr eu bod nhw'n gallu cael cynnydd mewn cyflenwad o'r brechiad er mwyn gallu cyflymu'r broses?
Wel, diolch yn fawr. Wrth gwrs, beth rŷn ni wedi'i wneud yw rhoi lot fwy o ryddid i'r byrddau iechyd gael yr hyblygrwydd sydd ei angen arnyn nhw i wneud rhai o'r penderfyniadau yna os oes angen. Felly, rŷn ni eisoes wedi rhoi caniatâd iddyn nhw os ydyn nhw'n gweld bod angen iddyn nhw gynyddu faint maen nhw'n brechu a ble maen nhw'n brechu. Wedyn, mae'r hyblygrwydd gyda nhw i ymateb yn y ffordd yna. Ar hyn o bryd, does dim problem o ran cyflenwad. Dwi newydd ddod o gyfarfod gyda'r Gweinidog yn Llundain sy'n gyfrifol am gyflenwad y brechlyn a does yna ddim problem ar hyn o bryd rŷn ni'n ei rhagweld. Felly, rŷn ni'n hyderus ein bod ni mewn sefyllfa lle, os oes angen i'r bwrdd iechyd gyflymu'r broses—. Ac, wrth gwrs, rŷn ni mewn sefyllfa anhygoel yma yng Nghymru lle mae bron bob un dros 18 oed wedi cael cynnig y brechlyn cyntaf. Wrth gwrs, mae hynny'n golygu y gallwn ni nawr ganolbwyntio ar yr ail frechlyn yna, sydd mor bwysig i ddiogelu pobl rhag yr amrywiolyn newydd delta yma.
Diolch am yr ateb. Dwi'n meddwl eich bod chi'n dal i fethu'r pwynt rhywfaint. Gofyn ydw i nid sut rydym yn cyflymu'r ail frechiad yn gyffredinol—mae pethau'n mynd yn grêt o ran y brechiad—ond sut mae canolbwyntio mwy o gyflenwad yn yr ardaloedd lle mae angen surge vaccination. Ac os daw'r cais yna gan fwrdd iechyd, dwi'n gobeithio y gallwch chi, fel Llywodraeth, sicrhau cyflenwad pellach iddyn nhw. Mae'r twf yr amrywiolyn delta yn ein hatgoffa ni wrth gwrs fod hwn yn bandemig sydd yn dal efo ni. Mae'n rhaid cario mlaen i chwilio am ffyrdd i ymateb iddo fo a diogelu bywyd.
Rŵan, mi wnes i grybwyll efo chi bythefnos yn ôl y potensial o fuddsoddi mewn mesurau diheintio yn defnyddio golau uwchfioled—UVC—fel rhan o'r frwydr yn erbyn COVID. Dwi'n deall bod Llywodraeth Iwerddon bellach wedi cytuno i ddarparu a sicrhau awyr glân mewn ysgolion yn Iwerddon trwy UVC a hidlo awyr. Yma yng Nghymru, dwi'n deall fod sir Gaerfyrddin yn barod i beilota hyn mewn ysgolion. Mae Cyngor Sir Ynys Môn hefyd, dwi'n gwybod, yn eiddgar iawn i dreialu hyn—llawer o waith wedi bod yn cael ei wneud yno—ond mi fydd angen cefnogaeth Llywodraeth. A wnewch chi edrych, felly, ar gymeradwyo cynlluniau peilot fel hyn i ddechrau ar frys, ac wedyn sicrhau, wrth gwrs, fod yr arian yn cael ei glustnodi fel y gallwn ni edrych tuag at ddefnyddio UVC, sydd ddim yn dechnoleg newydd o gwbl ond sydd â defnydd newydd pwysig iddo fo yn sgil y pandemig?
Diolch. Rŷm ni eisoes wedi rhoi arian tuag at ysbytai sydd angen mwy o help o ran ventilation. Felly, er enghraifft, yn ysbyty Llandochau, rŷm ni wedi buddsoddi £830,000 yn ychwanegol i'w helpu nhw gyda'u systemau nhw, ac, wrth gwrs, mae'n bwysig bod ni'n deall y pwysigrwydd yna o ventilation. Nawr, o ran y syniadau yma am UVC, dwi ddim yn ymwybodol ein bod ni wedi edrych mewn iddyn nhw mewn unrhyw fanylder eto, ond dwi'n hapus i fynd i ffwrdd ac i edrych ar hynny.
Mae hefyd yn bwysig, dwi'n meddwl, ein bod ni'n ystyried ysgolion. Nawr yw'r amser i ni sicrhau bod yr ysgolion yn agor eu ffenestri ac yn defnyddio'r cyfle yna. Bydd pethau'n wahanol iawn erbyn y gaeaf, a phwy â wŷr ba sefyllfa fyddwn ni ynddi ar yr adeg yna. Felly, mae'n rhywbeth, dwi'n meddwl, sy'n werth edrych mewn iddo o ran sut rŷm ni'n mynd i helpu'r sefyllfa, achos mae'n rhaid i ni ddysgu byw gyda'r feirws yma, fel rŷch chi'n dweud.
Dwi'n ddiolchgar am yr ymrwymiad positif yna, ac, er gwybodaeth i chi, edrych mae Ynys Môn ar gyflwyno UVC mewn ystafelloedd lle mae hi'n anodd sicrhau llif da o awyr drwy agor ffenestri.
Yn olaf, mae'r wythnos yma yn Wythnos Gofalwyr, a dwi am gymryd y cyfle yma i dalu teyrnged a diolch i ofalwyr ar hyd a lled Cymru sy'n gweithio'n ddygn yn dawel i ofalu am anwyliaid a theulu, a, drwy eu gwaith, sicrhau bod yr NHS yn gallu gweithredu o gwbl ac arbed biliynau o bunnau. Rhywbeth mae gofalwyr wedi sôn wrthyf i maen nhw eisiau ei gael ydy un pwynt cyswllt. Mae gofalwyr yn gorfod siarad efo'r bwrdd iechyd, gwahanol adrannau o'r bwrdd iechyd, gwasanaethau cymdeithasol, y trydydd sector hyd yn oed, ac mae hynny'n rhoi straen ychwanegol arnyn nhw. Allaf i ofyn i chi ba gamau y gallwch chi, mewn cydweithrediad efo'r Dirprwy Weinidog dros ofal, eu cymryd i drio cydlynu gwasanaethau a datblygu un pwynt cyswllt er mwyn rhoi cymorth i bobl sydd wir, wir yn ei haeddu fo?
Diolch yn fawr, a dwi eisiau diolch hefyd am y gwaith anhygoel mae gofalwyr yn ei wneud ar draws ein gwlad ni yn diogelu ein henoed, ond hefyd pobl ifanc sydd â phroblemau difrifol. Dwi'n deall mai beth mae'n rhaid i ni ei wneud yw gwneud popeth rŷm ni'n gallu i helpu i wneud bywydau'r gofalwyr yma yn haws. A dwi'n deall y pwynt, os oes rhaid iddyn nhw gysylltu gyda llu o fudiadau gwahanol, fod hynny'n cymhlethu pethau. Dwi'n hapus i siarad ac i gael gair gyda'r Dirprwy Weinidog i weld a oes yna unrhyw gamau y gallwn ni eu gwneud yn y maes yna. Dwi'n siŵr ei bod hi lot yn fwy ymwybodol o'r hyn sydd ar gael eisoes, ond hefyd i weld a oes yna ffordd o symlhau'r system.