Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:51 pm ar 9 Mehefin 2021.
Dwi'n ddiolchgar am yr ymrwymiad positif yna, ac, er gwybodaeth i chi, edrych mae Ynys Môn ar gyflwyno UVC mewn ystafelloedd lle mae hi'n anodd sicrhau llif da o awyr drwy agor ffenestri.
Yn olaf, mae'r wythnos yma yn Wythnos Gofalwyr, a dwi am gymryd y cyfle yma i dalu teyrnged a diolch i ofalwyr ar hyd a lled Cymru sy'n gweithio'n ddygn yn dawel i ofalu am anwyliaid a theulu, a, drwy eu gwaith, sicrhau bod yr NHS yn gallu gweithredu o gwbl ac arbed biliynau o bunnau. Rhywbeth mae gofalwyr wedi sôn wrthyf i maen nhw eisiau ei gael ydy un pwynt cyswllt. Mae gofalwyr yn gorfod siarad efo'r bwrdd iechyd, gwahanol adrannau o'r bwrdd iechyd, gwasanaethau cymdeithasol, y trydydd sector hyd yn oed, ac mae hynny'n rhoi straen ychwanegol arnyn nhw. Allaf i ofyn i chi ba gamau y gallwch chi, mewn cydweithrediad efo'r Dirprwy Weinidog dros ofal, eu cymryd i drio cydlynu gwasanaethau a datblygu un pwynt cyswllt er mwyn rhoi cymorth i bobl sydd wir, wir yn ei haeddu fo?