Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:46 pm ar 9 Mehefin 2021.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Weinidog, mi wnes i ofyn i chi ddoe wrth ymateb i’r datganiad ar y diweddaraf ar y coronafeirws ba gynlluniau oedd yna ar y gweill ar gyfer cyflymu brechu neu surge vaccination mewn ardaloedd haint uchel, ac yn enwedig ardaloedd, wrth gwrs, lle mae'r amrywiolyn delta yn achosi pryder. Dwi ddim yn teimlo fy mod wedi cael ateb fel yr oeddwn i eisiau i'r cwestiwn hwnnw, felly gadewch i mi ofyn yn y ffordd yma: os ydy bwrdd iechyd mewn ardal lle mae yna bryder—ac rydym yn sôn am Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ar hyn o bryd—yn gallu dangos bod ganddyn nhw'r capasiti i wneud mwy o frechu, a fyddwch chi fel Llywodraeth yn gwneud yn siŵr eu bod nhw'n gallu cael cynnydd mewn cyflenwad o'r brechiad er mwyn gallu cyflymu'r broses?