Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:48 pm ar 9 Mehefin 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 2:48, 9 Mehefin 2021

Diolch am yr ateb. Dwi'n meddwl eich bod chi'n dal i fethu'r pwynt rhywfaint. Gofyn ydw i nid sut rydym yn cyflymu'r ail frechiad yn gyffredinol—mae pethau'n mynd yn grêt o ran y brechiad—ond sut mae canolbwyntio mwy o gyflenwad yn yr ardaloedd lle mae angen surge vaccination. Ac os daw'r cais yna gan fwrdd iechyd, dwi'n gobeithio y gallwch chi, fel Llywodraeth, sicrhau cyflenwad pellach iddyn nhw. Mae'r twf yr amrywiolyn delta yn ein hatgoffa ni wrth gwrs fod hwn yn bandemig sydd yn dal efo ni. Mae'n rhaid cario mlaen i chwilio am ffyrdd i ymateb iddo fo a diogelu bywyd.

Rŵan, mi wnes i grybwyll efo chi bythefnos yn ôl y potensial o fuddsoddi mewn mesurau diheintio yn defnyddio golau uwchfioled—UVC—fel rhan o'r frwydr yn erbyn COVID. Dwi'n deall bod Llywodraeth Iwerddon bellach wedi cytuno i ddarparu a sicrhau awyr glân mewn ysgolion yn Iwerddon trwy UVC a hidlo awyr. Yma yng Nghymru, dwi'n deall fod sir Gaerfyrddin yn barod i beilota hyn mewn ysgolion. Mae Cyngor Sir Ynys Môn hefyd, dwi'n gwybod, yn eiddgar iawn i dreialu hyn—llawer o waith wedi bod yn cael ei wneud yno—ond mi fydd angen cefnogaeth Llywodraeth. A wnewch chi edrych, felly, ar gymeradwyo cynlluniau peilot fel hyn i ddechrau ar frys, ac wedyn sicrhau, wrth gwrs, fod yr arian yn cael ei glustnodi fel y gallwn ni edrych tuag at ddefnyddio UVC, sydd ddim yn dechnoleg newydd o gwbl ond sydd â defnydd newydd pwysig iddo fo yn sgil y pandemig?