Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 3:18 pm ar 9 Mehefin 2021.
Mae'r nifer sydd wedi manteisio ar y cynllun hyd yma wedi bod yn anhygoel o uchel, gyda dros 85 y cant o'r boblogaeth oedolion wedi manteisio ar y cynnig o ddos cyntaf. Ond mae'n hanfodol bwysig fod cymaint ag sy'n bosibl o bobl yn manteisio ar y brechlyn, ac rydym yn monitro'r niferoedd yn ofalus i sicrhau nad oes unrhyw rwystrau.