Y Niferoedd sydd wedi Manteisio ar y Brechlyn COVID-19

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 3:19 pm ar 9 Mehefin 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Buffy Williams Buffy Williams Labour 3:19, 9 Mehefin 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch, Weinidog. Yn fy etholaeth i, Rhondda, mae'r rhan fwyaf o drigolion yn mynychu eu hapwyntiadau brechu, sy'n newyddion anhygoel, ond mae gennym nifer uwch na'r cyfartaledd o bobl nad ydynt yn mynychu, a hynny am amryw o resymau. Rwy'n gwybod bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn gweithio gyda thrigolion ar draws ein cymunedau i ymchwilio i'r rhesymau hyn, gan geisio dod o hyd i atebion. Felly, gan weithio gyda byrddau iechyd ledled Cymru, pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i gynyddu cyfraddau brechu mewn ardaloedd heriol?