Part of the debate – Senedd Cymru am 3:36 pm ar 9 Mehefin 2021.
Er bod un digwyddiad llygredd yn un yn ormod, mae polisi cyffredinol yn brifo'r diwydiant ar adeg pan fo angen cymorth arnynt. Mae'r pecyn cymorth ariannol a ddarperir gan Lywodraeth Cymru yn druenus o annigonol, gan roi beichiau cost mawr ar ein ffermwyr er mwyn iddynt ymaddasu i'r newidiadau hyn. Er gwaethaf sicrwydd—. Ar ddim llai na rhwng saith a 10 achlysur, sicrhawyd y ffermwyr gan y Gweinidog na fyddai'r dull cyffredinol hwn yn cael ei fabwysiadu yn ystod y pandemig. Ac o fewn dim, heb ymgynghori â'r diwydiant, penderfynodd y Gweinidog fwrw ymlaen a thorri addewidion unwaith eto.
Yn rhy aml o lawer, mae amaethyddiaeth yn cael y bai am gynnydd yn y nitradau yn ein hafonydd, ac eto honnodd ymchwiliad gan Panorama fod Dŵr Cymru wedi bod yn gwaredu carthion yn anghyfreithlon i Afon Wysg yn fy etholaeth. Mae'n ymddangos bod hyn yn cael ei anwybyddu. Mae data diweddar gan Dŵr Cymru ei hun hefyd yn awgrymu bod carthion amrwd wedi'u gollwng i afonydd Cymru dros 100,000 o weithiau yn 2020, am bron i 900,000 o oriau, ar draws mwy na 2,000 o weithfeydd trin dŵr ac all-lifoedd carthion. A ydym yn gweld unrhyw weithredu go iawn gan Lywodraeth Cymru ar hyn? Nac ydym. At hynny, mae data Llywodraeth Cymru ei hun yn awgrymu mai'r diwydiant dŵr, rhwng mis Ionawr a mis Tachwedd 2020, oedd yn gyfrifol am y digwyddiadau llygredd mwyaf yn ymwneud â dŵr wyneb yng Nghymru, gyda 180 wedi'u cofnodi yn ystod y cyfnod hwn. Ond pwy sy'n dal i gael y bai am lygru ein hafonydd? Rydych chi'n gywir—y ffermwyr.
Mae'r Llywodraeth hon yn honni bod newid hinsawdd yn broblem enfawr, ac nid wyf yn anghytuno. Pwy fyddai'n anghytuno? Ond mae arnaf ofn fod eich hanes o fynd i'r afael â newid hinsawdd yn amheus ar y gorau. Fe brynoch chi faes awyr, ar gost enfawr i'r trethdalwr, gan gymeradwyo gollwng mygdarth gwenwynig i'r atmosffer, ac yna fe warioch chi filiynau o bunnoedd o arian trethdalwyr ar ffordd i unman a gwrthod adeiladu ffordd liniaru'r M4, gan sicrhau, bob dydd, fod miloedd o geir yn ciwio mewn tagfeydd traffig ar hyd yr M4, gan bwmpio tocsinau gwenwynig a charbon deuocsid i'r atmosffer. Unwaith eto, rydych chi'n dweud un peth ac yn gwneud rhywbeth arall.
Drwy gydol y pandemig mae ein ffermwyr wedi bwydo'r genedl, gan sicrhau bod cyflenwadau hanfodol ar gael. Ac yn gwbl briodol, gwnaethom guro ein dwylo i ddiolch i'r GIG a'n gofalwyr. Ac yn hytrach na mynd allan a churo dwylo i ddiolch i'n ffermwyr, roedd hi'n ymddangos bod Llywodraeth Cymru yn meddwl bod slap i'r wyneb yn llawer mwy priodol. Mae ein ffermwyr yn haeddu gwell na hyn gan Lywodraeth Cymru, a chan Weinidog yr oeddwn yn ymddiried ynddi ar un adeg i gefnogi'r diwydiant.
Mae deddfwriaeth parth perygl nitradau Cymru gyfan yn annerbyniol. Fe'i disgrifiwyd fel ymgais ddiog i dorri a gludo o gyfarwyddeb 30 mlwydd oed yr UE sy'n rhoi mwy o bwysau ar ffermwyr sydd eisoes dan bwysau ac sy'n ymdopi â COVID-19. Mae'n niweidio busnesau amaethyddol, bywoliaeth pobl, ac yn rhoi straen meddyliol enfawr ar ffermwyr unwaith eto, a hynny er mwyn sicrhau manteision amheus iawn. Cawsoch eich rhybuddio gan Cyfoeth Naturiol Cymru, rheoleiddiwr Llywodraeth Cymru ei hun, ac mae wedi'i gynnig yn y rheolau dŵr newydd, ac rwy'n dyfynnu, y bydd yn arwain at 'ganlyniad gwrthnysig' o wneud ansawdd dŵr yn waeth, ac efallai nad oes ganddynt ddigon o adnoddau i allu cyflawni'r cyfundrefnau arolygu rheoleiddiol sy'n gysylltiedig â'r rheoliadau mewn modd effeithiol.
Er gwaethaf y rhybuddion, a'r straen enfawr ar iechyd meddwl a busnesau pobl a'u llesiant, fe wnaethoch fwrw ymlaen â'r parth perygl nitradau beth bynnag. Rydym wedi clywed yr adolygiadau deifiol gan holl undebau'r ffermwyr yng Nghymru, a gofynnaf i Lywodraeth Cymru: pam nad ydych yn ymddiried yn y mwyafrif llethol o ffermwyr sy'n gyfrifol, ac nad ydynt yn llygru? Yr hyn sydd ei angen arnom yw polisi mwy hyblyg sy'n seiliedig ar dystiolaeth ac sy'n ennyn cefnogaeth y diwydiant i fynd i'r afael â llygredd. Ar adeg pan ddylai Llywodraeth Cymru fod yn gweithio mewn partneriaeth â'n ffermwyr, maent yn cau'r drws ar gydweithredu ac yn hytrach, yn bwrw ymlaen â chynlluniau costus sydd wedi eu tangyllido'n druenus ac a allai yrru nifer o ffermwyr allan o'r diwydiant.
Rydym ni ar feinciau'r Ceidwadwyr yn annog y Llywodraeth ac Aelodau eraill yn y Siambr hon ac ar-lein i gefnogi ein cynnig i gael adolygiad o'r ddeddfwriaeth ddidostur hon. Gadewch inni wrando ar yr arbenigwyr a'r diwydiant, a gadael i'r pwyllgor perthnasol wneud ei waith i sicrhau bod y ddeddfwriaeth orau sy'n bosibl yn mynd drwy'r Senedd hon. Felly, gadewch i bawb ohonom symud ymlaen gyda'n gilydd a sicrhau bod ein gwlad brydferth nid yn unig yn cynnal ond yn gwella ein safonau bwyd ac amgylcheddol uchel, gan weithio gyda'n ffermwyr ac nid yn eu herbyn. Diolch.