Part of the debate – Senedd Cymru am 3:41 pm ar 9 Mehefin 2021.
Cyn inni symud ymlaen at y siaradwr nesaf, a gaf fi—? Cefais fy atgoffa gan Huw Irranca-Davies nad yw ymyriadau mewn dadleuon yn rhan o'r broses ar hyn o bryd, fel y byddem fel arfer wedi ymyrryd, oherwydd bod cynifer o Aelodau nad ydynt yn gallu gwneud hynny yn y system hybrid. Ond gall Aelodau gysylltu â'r ddesg yma i roi gwybod i ni os ydynt yn dymuno gwneud ymyriad a gallwn eu galw ar y diwedd, cyn y siaradwr olaf. Dim ond i egluro hynny. Rwy'n deall awydd yr Aelod i ymyrryd—rwyf wedi bod yno droeon. [Torri ar draws.] O'r gorau.