5. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.2 i roi cyfarwyddiadau i bwyllgor priodol mewn perthynas â pharth perygl nitradau Cymru gyfan

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:49 pm ar 9 Mehefin 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Joyce Watson Joyce Watson Labour 3:49, 9 Mehefin 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch i'r Ceidwadwyr Cymreig am gyflwyno'r cynnig hwn. Mae'n rhoi cyfle cynnar i'r Senedd hon drafod pwnc hollbwysig, sef iechyd a dyfodol dyfrffyrdd ein gwlad. Mae'r cynnig yn gofyn inni nodi effaith andwyol polisi'r Llywodraeth ar amaethyddiaeth yng Nghymru. Rwy'n credu rywsut fod hynny'n chwerthinllyd gan blaid a fyddai'n troi cefn ar ffermwyr Cymru am gytundeb masnach rydd gydag Awstralia, a phlaid sydd wedi gwneud toriad o £137 miliwn yng nghyllideb y DU ar gyfer cymunedau gwledig Cymru.

Ond rwyf am osod y rhagrith hwnnw o'r neilltu, oherwydd y pwynt amlwg i'w ddadlau heddiw yw na fydd parth perygl nitradau Cymru gyfan yn cael effaith andwyol o'r fath, ac nid yw'r safonau yn y rheoliadau yn ormodol o gwbl yn fy marn i. Yn hytrach, maent yn pennu safonau sylfaenol ar gyfer cynhyrchu yng Nghymru sy'n debyg i weddill y DU ac Ewrop hefyd. A bydd yr aliniad hwnnw'n hanfodol i fasnach yn y dyfodol, yn enwedig os yw Cymru am farchnata cynnyrch brand Cymru yn seiliedig ar gynaliadwyedd.

Rydym wedi clywed eto heddiw pam y mae angen y rheoliadau ar frys. Ar ôl cynrychioli Canolbarth a Gorllewin Cymru ers 2007, rwyf wedi colli golwg ar nifer yr achosion o lygredd difrifol mewn afonydd o amaethyddiaeth yn y cyfnod hwnnw. Ond roeddwn yn dal i synnu wrth ddarllen y ffigurau mewn du a gwyn: bron i 3,000 o achosion o lygredd sy'n gysylltiedig ag amaethyddiaeth wedi'u profi yng Nghymru ers 2001; cyfartaledd o 148 y flwyddyn am yr 20 mlynedd diwethaf; a mwy na thri achos yr wythnos yn y tair blynedd diwethaf yn unig. Yn sicr, nid yw hynny'n dderbyniol, nid yw'n gynaliadwy, ond mae'n gwbl ataliadwy, a'n dyletswydd foesol ni yma yw gwneud rhywbeth amdano.

Mae'r dystiolaeth hefyd yn dangos yn glir fod hon yn broblem i Gymru gyfan ac mae'n galw am ateb cenedlaethol beiddgar, clir. Mae 'Adroddiad Cyflwr Adnoddau Naturiol' 2020 yn nodi bod dwy ran o dair o'n cyrff dŵr afonydd wedi methu cyflawni statws ecolegol da o dan ddosbarthiad cyfarwyddeb y fframwaith dŵr. Mae tystiolaeth a gyhoeddwyd gan CNC ym mis Ionawr ar ein naw ardal cadwraeth arbennig afonol yn nodi bod amaethyddiaeth yn cyfrannu'n helaeth at lefelau llygryddion yn y dyfroedd cenedlaethol pwysig hyn sy'n uwch na'r terfynau cyfreithiol. Mae mwy na 60 y cant o afonydd gwarchodedig yng Nghymru yn cynnwys llygredd ffosffad sy'n uwch na'r terfynau, felly rwy'n credu ei bod braidd yn ffuantus i Aelodau Plaid Cymru awgrymu y gallwn gyflawni'r manteision amgylcheddol hanfodol y maent yn dweud eu bod am eu gweld drwy chwarae gydag ymylon y broblem gyda rheoliadau gwirfoddol a lleol.

Y gwir amdani yw, oni bai ein bod yn cymryd camau brys i reoli llygredd yn y tarddiad, bydd yn rhy hwyr i adfer ecosystemau ein hafonydd. Mae rheoleiddio parthau perygl nitradau Cymru gyfan yn arf cwbl gymesur a fydd yn helpu i fynd i'r afael â'r argyfwng natur a hinsawdd ac felly'n cefnogi ffermio cynaliadwy yn awr ac yn y dyfodol.