5. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.2 i roi cyfarwyddiadau i bwyllgor priodol mewn perthynas â pharth perygl nitradau Cymru gyfan

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:15 pm ar 9 Mehefin 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 4:15, 9 Mehefin 2021

(Cyfieithwyd)

Fel Llywodraeth, rydym yn cefnogi uchelgais ffermwyr Cymru i fod y mwyaf ystyriol o hinsawdd a natur yn y byd, uchelgais a fydd yn cael mwy o ysgogiad drwy fynd i'r afael â'r niwed sy'n cael ei achosi gan lygredd amaethyddol eang flwyddyn ar ôl blwyddyn. Rwy'n llwyr gydnabod bod nifer yn ffermio yn ôl safonau amgylcheddol uchel, ond rhaid inni wneud cynnydd cyflymach ar leihau llygredd o amaethyddiaeth ar draws y diwydiant cyfan ac ar draws Cymru gyfan.

Er gwaethaf y cyhoeddusrwydd sylweddol y mae'r rheoliadau newydd hyn wedi'i ddenu, a'r cyfyngiadau ar allu CNC i ymchwilio i achosion lle ceir amheuaeth o lygredd oherwydd COVID-19, mae 76 achos o lygredd amaethyddol wedi'u profi hyd yma eleni, sydd, ar gyfartaledd, yn parhau i fod yn fwy na thri achos yr wythnos. Mae'r diffyg ystyriaeth parhaus i'r effaith negyddol ar ein hamgylchedd a'n cymdeithas yn annerbyniol.

Mae lefelau llygredd a achosir gan nitradau, ffosfforws ac amonia yn uwch na throthwyon critigol ledled Cymru, ac mae angen lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr o amaethyddiaeth er mwyn mynd i'r afael â'r argyfwng newid hinsawdd. Mae'r llygryddion hyn yn niweidiol i ansawdd ein hamgylchedd, iechyd y cyhoedd a datblygu economaidd. 

Mae'r rheoliadau rheoli llygredd amaethyddol, sy'n debyg i'r rhai yng ngweddill y DU ac Ewrop, yn galw am ddefnyddio arferion ffermio y profwyd eu bod yn sicrhau manteision i'r amgylchedd a chynhyrchiant ffermydd. Mae llawer o ffermwyr yn deall yr angen i weithredu ac maent eisoes yn cymryd camau i gynnal safonau amgylcheddol uchel ar eu ffermydd. Mae ffermwyr Cymru yn gwbl abl i weithio yn ôl y safonau sylfaenol hyn ac mae llawer eisoes yn rhagori arnynt.

Cyn y gall y diwydiant honni ei fod y mwyaf ystyriol o hinsawdd a natur yn y byd, yn gyntaf rhaid i bob un o'n ffermydd fabwysiadu safonau cynhyrchu sy'n seiliedig ar arferion da cydnabyddedig. Mae'r rheoliadau'n dilyn dull o weithredu fesul cam dros gyfnod o dair blynedd, gan roi amser i ffermwyr addasu a gwella, a byddwn yn parhau i'w cefnogi i wneud hynny.

Mae ystod eang o adnoddau cymorth yn parhau i gael eu darparu drwy wasanaeth cynghori Cyswllt Ffermio i helpu busnesau fferm i fynd i'r afael â phroblemau llygredd a chefnogi'r rheoliadau rheoli llygredd amaethyddol. Gyda chefnogaeth Cyswllt Ffermio, mae dros 5,000 o fusnesau fferm wedi datblygu cynlluniau rheoli maetholion, seilwaith a busnes, ac mae dros 2,500 o fusnesau fferm wedi mynychu digwyddiadau Cyswllt Ffermio sy'n canolbwyntio ar y camau y gallant eu cymryd i leihau allyriadau amaethyddol. 

Rydym wedi gweld diddordeb mawr yn y cyfnodau ymgeisio diweddar am y grantiau cynhyrchu cynaliadwy a'r cynlluniau gorchuddio iardiau. Mae hyn yn cynnwys cymorth ar gyfer atebion syml, costeffeithiol i reoli tail yn well, megis gwahanu dŵr glân a dŵr budr. Mae'r cynlluniau hyn yn rhan o'r £44.5 miliwn y mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi'i ddarparu i gefnogi arferion ffermio cynaliadwy. Penderfynir ar gymorth ariannol yn y dyfodol pan fydd cyllidebau wedi'u cytuno yn dilyn adolygiad cynhwysfawr o wariant Llywodraeth y DU.

Mae'r rheoliadau'n cyd-fynd â'r egwyddorion amgylcheddol a hyrwyddir gan yr Aelodau o'r Senedd drwy fabwysiadu dull rhagofalus lle mae'r llygrwr yn talu. Mae'r dull rydym wedi'i ddefnyddio yn ymwneud â mwy na llygredd nitradau yn unig, yn wahanol i'r hyn y mae James Evans i'w weld yn ei gredu. Mae'n cydnabod ac yn integreiddio cyngor Pwyllgor y DU ar y Newid yn yr Hinsawdd ac uchelgais yr NFU i gyrraedd allyriadau sero net yng Nghymru a ledled y DU. Mae rheoli allyriadau amaethyddol yn rhan annatod o gyrraedd y targed hwn.

Mae'r dull hefyd yn cydnabod effaith allyriadau amonia ar gynefinoedd sensitif ac iechyd y cyhoedd. Mae'n cydnabod effaith ffosfforws ar ein hardaloedd cadwraeth arbennig afonol, gan gynnwys ar ddatblygu economaidd yn yr ardaloedd hynny. Ni allwn fynd i'r afael â'n hargyfwng natur heb fynd i'r afael â'r holl lygryddion hyn.

Rydym yn gwneud cynnydd yn y pethau hyn, a bydd un set o safonau sylfaenol clir yn ein galluogi i sicrhau'r cynnydd hwnnw a gwneud y datblygiadau pellach y mae dirfawr angen inni eu gwneud. Hoffwn atgoffa Russell George ac Aelodau eraill fod CNC wedi croesawu'r holl reoliadau Cymru gyfan yn gyhoeddus.

Heb amheuaeth, bydd addasu i'r safonau sylfaenol hyn yn heriol i rai yn y diwydiant, ac rwy'n cydnabod bod pob busnes fferm yn wahanol ac efallai y bydd ffyrdd eraill o gyflawni ein hamcan o leihau allyriadau a diogelu pobl a natur yng Nghymru. Dyma pam y rhoddais gyfle i'r diwydiant ddatblygu mesurau amgen, a gwnaed darpariaeth ar gyfer hyn yn y rheoliadau. Rwyf am barhau i weithio gyda'n holl randdeiliaid i sicrhau y bydd unrhyw fesurau amgen yn gweithio'n effeithiol i fusnesau fferm a'r amgylchedd y mae pawb ohonom yn dibynnu arno. Felly, galwaf ar yr holl randdeiliaid eto, gan gynnwys undebau'r ffermwyr, sydd wedi cefnogi dull amgen ers amser maith, i gyflwyno cynigion dichonadwy ar gyfer mesurau amgen a fydd yn sicrhau yr un faint neu fwy o ostyngiadau yn y lefelau llygredd. Rhaid sefydlu unrhyw ddull gweithredu mewn cyfraith. Mae dulliau gwirfoddol yn chwarae rhan bwysig wrth ddiogelu ein hamgylchedd, ond mae safonau sylfaenol statudol yn elfen hanfodol.

Mae'r Llywodraeth hon yn cydnabod yn llawn nad amaethyddiaeth yn unig sy'n achosi llygredd. Mae rheoleiddio i ddiogelu'r amgylchedd rhag llygredd amaethyddol yn sicrhau bod y sector yn cyd-fynd yn agosach â diwydiannau eraill lle mae lefel uchel o reoleiddio'n digwydd. Rhaid i ffermio yng Nghymru wynebu'r dyfodol â breichiau agored a manteisio ar gyfleoedd masnach, ac er mwyn gwneud hynny, mae angen iddo fabwysiadu dull cynaliadwy gyda safonau cynhyrchu priodol, ac mae'r sylfaen reoleiddiol newydd yn helpu i ddiogelu ein sefyllfa fasnachu ar gyfer ffyniant y diwydiant amaethyddol yn y dyfodol. Craffwyd yn drylwyr ar y rheoliadau cyn iddynt ddod i rym, ond rwy'n cefnogi'r alwad gan y Ceidwadwyr Cymreig a Phlaid Cymru i bwyllgor perthnasol roi ystyriaeth bellach i weithredu rheoliadau'n effeithiol er mwyn cryfhau gwytnwch ein cymunedau ffermio a chryfhau gwytnwch yr amgylchedd naturiol. Felly, am y rhesymau hyn rwy'n cynnig disodli pwynt cyntaf y cynnig a byddaf yn pleidleisio i gadw'r ail os mabwysiadir y gwelliannau. Diolch.