Part of the debate – Senedd Cymru am 4:14 pm ar 9 Mehefin 2021.
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Mae gan ffermio yng Nghymru enw da gyda defnyddwyr am safonau cynhyrchu uchel mewn perthynas â lles anifeiliaid a diogelu'r amgylchedd. Gan mai'r sector amaethyddol sy'n rheoli'r rhan helaethaf o dir Cymru, mae ffermwyr Cymru yn chwarae rhan hanfodol yn diogelu'r dreftadaeth naturiol a rannwn.