Part of the debate – Senedd Cymru am 4:10 pm ar 9 Mehefin 2021.
Rwyf wedi cymryd rhan mewn dadleuon yn y gorffennol ar y ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn cyflwyno parth perygl nitradau, felly rwy'n mynd i ddefnyddio fy amser heddiw i raddau helaeth i dynnu sylw at drafferthion ac enghraifft un teulu ffermio penodol a sut y bydd y rheoliadau hyn yn effeithio arnynt hwy. Ond er eglurder, rwy'n ailadrodd fy marn hirsefydlog na ddylai'r rheoliadau hyn erioed fod wedi'u cyflwyno; maent yn ddiangen, yn anghymesur ac yn ddinistriol i'r diwydiant ffermio.
Mae cynnig y Ceidwadwyr wedi'i gyflwyno gan fy nghyd-Aelod James Evans, ac fel y nododd Llyr, ni fydd y cynnig hwn heddiw yn dileu'r rheoliadau hynny, ond rwy'n gobeithio'n fawr y bydd cefnogaeth yn y Siambr hon y prynhawn yma i ddechrau proses a allai arwain yn y pen draw at ddileu a diddymu'r rheoliadau gwarthus hyn.
Hoffwn dynnu sylw at drafferthion un teulu o denantiaid fferm yn fy etholaeth fy hun: Brian Jones, ei wraig, Susan, a'i fab, Andrew. Fel ffermwyr Coed y Parc yng Nghaersŵs, fferm laswelltir 105 erw, sy'n gartref i fuches odro gaeedig o 85 o wartheg, maent wedi bod yn ffermio yno ers 1973 ar gytundeb tenantiaeth gydol oes. Mae Brian Jones wedi rhoi rhai sylwadau at ei gilydd ac rwy'n mynd i ddarllen yr hyn y mae wedi'i ddweud.
Dyma ei eiriau: 'Rwyf wedi bod yn godro gwartheg ar hyd fy oes, gan ddechrau o'r adeg pan oeddwn ond yn 12 oed, ac eleni byddaf wedi bod yn ffermio llaeth ers 66 o flynyddoedd. Dyma a wnawn fel teulu. Dyma yw ein bywyd. Nid ydym erioed wedi cael digwyddiad llygredd yma.' Dywedaf hynny eto. Gan rywun sydd wedi bod yn ffermio ar y fferm honno ers 66 mlynedd—gobeithio bod Joyce Watson yn gwrando hefyd—'nid ydym erioed wedi cael digwyddiad llygredd yma.' Aiff ymlaen i ddweud: 'Mae CNC, drwy eu hasesiad eu hunain, wedi cadarnhau nad oes llygredd yma, ond mae'n dal i fod angen i ni gydymffurfio â'r rheoliadau newydd hyn a gwneud gwaith am gost enfawr o tua £70,000.' 'Pwy sy'n mynd i dalu am hynny?', gofynna Mr Jones. Efallai y gallai Joyce Watson, sydd hefyd yn ei gynrychioli, ysgrifennu ato a rhoi gwybod iddo, o ystyried sylwadau Joyce y prynhawn yma.
Aeth ymlaen i ddweud: 'Mae'r landlordiaid wedi gwrthod ac nid yw'r banc am roi benthyg yr arian i ni i wneud y gwaith ar eiddo nad ydym yn berchen arno. Rwyf ar ben fy nhennyn ac yn ofni, ymhen tair blynedd, y gallem yn hawdd weld diwedd ar ein bywyd fel fferm deuluol yma. Nid oes gennyf wrthwynebiad i bolisi sy'n gwneud i'r llygrwr dalu, ond mae hyn yn mynd i andwyo'r diwydiant os nad oes dim yn newid. Rhaid i Lywodraeth Cymru ystyried goblygiadau ariannol y rheoliadau hyn ar fusnesau fferm bach a chanolig a ffermwyr tenant fel mater o frys.'
Rwyf wedi clywed safbwyntiau y prynhawn yma, a chlywais sylwadau Joyce Watson am ragrith, ac rwy'n cytuno gyda Joyce: mae digon o ragrith yma gan Lywodraeth Cymru. Roeddwn yn falch iawn o glywed safbwyntiau Jane Dodds y prynhawn yma—y rhan fwyaf ohonynt, nid pob un ohonynt. Mae'n swnio fel pe bai Jane yn mynd i gefnogi'r cynnig hwn heddiw hefyd, ac rwy'n croesawu hynny'n fawr. Roedd llawer o'r hyn a ddywedodd Jane wedi'i roi at ei gilydd yn dda iawn yn fy marn i. Ond yr hyn a ddywedodd Jane, wrth sôn amdanom ni fel Ceidwadwyr Cymreig, yw bod yn rhaid inni ddefnyddio ein lleisiau i berswadio ein cymheiriaid yn San Steffan ar X, Y a Z. Wel, rwy'n dweud hyn yn garedig wrth Jane: mae'n drueni mawr na allai Jane ddefnyddio ei llais i berswadio'r unig Aelod o'r Democratiaid Rhyddfrydol yma i bleidleisio yn erbyn diddymu'r rheoliadau ar ddiwedd y Senedd ddiwethaf.
Nid cymhelliad gwleidyddol syml sydd wrth wraidd y safbwyntiau hyn; nid dadl wleidyddol syml yw hon y prynhawn yma, fel y mae rhai Aelodau'n awgrymu. Bywyd go iawn yw hyn. Felly, rwy'n gobeithio y bydd y Llywodraeth a'r Aelodau'n cefnogi ein cynnig, ac rwy'n gobeithio'n fawr y bydd hyn yn mynd â ni ar y llwybr tuag at broses i ddiddymu'r rheoliadau ofnadwy hyn. Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd.