Part of the debate – Senedd Cymru am 4:05 pm ar 9 Mehefin 2021.
Dwi'n falch iawn bod Plaid Cymru wedi cydgyflwyno'r ddadl yma y prynhawn yma, ac mai cynnig ar y cyd gan y gwrthbleidiau yw hyn, sy'n dangos, wrth gwrs, pa mor gryf yw teimladau ar y mater yma. Ond o'm safbwynt i, wrth gwrs, mae hwn yn gynnig sy'n cael ei osod mewn ysbryd positif, mai cychwyn proses o gyfaddawdu yw'r cynnig yma. Mae Llywodraeth Cymru, os caf i ddweud, wedi ymateb yn adeiladol gyda'u gwelliant nhw, a dwi yn synnu at natur ymosodol a chwbl negyddol rhai o'r cyfraniadau rŷm ni wedi'u clywed hyd yn hyn. Mae cyfeirio at Faes Awyr Caerdydd a trade deals gydag Awstralia yn methu'r pwynt. Nid pigo ffeit sydd angen ei wneud fan hyn heddiw, ond cychwyn y broses o ffeindio ateb gwell i broblem yr NVZs.
Cyn yr etholiad, pan gyflwynais i a Phlaid Cymru y cynnig i ddiddymu'r rheoliadau NVZ newydd, mi ddywedais i'n glir y byddwn i a fy mhlaid yn barod i weithio gyda'r Llywodraeth i edrych ar ddatrysiadau amgen i'r broblem o lygredd yn ein hafonydd ni, petai'r Llywodraeth yn barod i gymryd cam yn ôl. Fe wnaeth y Llywodraeth wrthod yr opsiwn bryd hynny, ac er ei bod hi bellach yn ymddangos bod y Llywodraeth yn barod i gyfeirio'r mater i bwyllgor perthnasol o'r Senedd, mae'n rhaid i bawb ddeall na fyddai cefnogi'r cynnig na'r gwelliant yma heddiw yn atal y rheoliadau. Wrth gwrs, mi fyddem ni i gyd yn croesawu'r cyfle i bwyllgor trawsbleidiol bwyso a mesur y rheoliadau mewn ffordd sydd ddim wedi digwydd hyd yma ac i ddod ag argymhellion ger bron er mwyn i'r Llywodraeth eu hystyried nhw, ond wrth gwrs byddai dim rheidrwydd wedyn ar y Llywodraeth i weithredu ar yr argymhellion hynny. Ond gan fod gwelliant y Llywodraeth yn caniatáu cyfeirio'r mater i bwyllgor, dwi'n cymryd o hynny y byddai'r Llywodraeth yn agored ei meddwl i newid y rheoliadau, neu hyd yn oed i ddiddymu'r rheoliadau, os yw'r achos dros hynny yn dod yn glir yng ngwaith y pwyllgor.
Felly, dwi eisiau clywed tri pheth gan y Gweinidog yn ei hymateb hi i'r ddadl y prynhawn yma. Dwi eisiau i'r Gweinidog gadarnhau y byddai hi a'i swyddogion yn y lle cyntaf yn edrych yn gwbl o ddifri ar unrhyw argymhellion fydd yn dod o waith y pwyllgor; yn ail, y bydd hi'n ymrwymo i wneud popeth y gall hi i ddiwygio'r rheoliadau yng ngoleuni’r argymhellion hynny; ac yn drydydd, iddi gadarnhau bod diddymu'r rheoliadau yn opsiwn posib, yn dilyn gwaith y pwyllgor. Yn amlwg, byddai angen gwneud achos cryf dros hynny, ac mi fuaswn i'n tybio bod angen adnabod llwybr amgen i gwrdd â'r nod o ran taclo llygredd dŵr, ond dwi eisiau clywed gan y Gweinidog y prynhawn yma fod yr opsiwn o ddiddymu ar y bwrdd, oherwydd dyna'r unig beth all brofi i fi fod y Llywodraeth yn wirioneddol barod i ystyried y mater yma, ac felly ei bod hi'n werth cyfeirio'r mater at bwyllgor o'r Senedd.
Fe fyddwch chi i gyd yn cofio na wnaeth Plaid Cymru erioed ddadlau dros beidio gweithredu i warchod ansawdd dŵr, ac mi fuasem ni wedi cefnogi rheoliadau'r Llywodraeth petaen ni'n credu eu bod nhw am weithio. Ond mae yna gymaint o wendidau a chwestiynau sydd dal heb eu hateb fel mai cymryd cam yn ôl sydd ei angen nawr. Does ond rhaid edrych, fel rŷn ni wedi clywed gan eraill, ar ganlyniadau'r approach NVZ ar draws Prydain a thu hwnt i weld nad yw e'n ryw fath o fwled arian sydd yn mynd i ddatrys y broblem dros nos. Rŷn ni hefyd yn gwybod, wrth gwrs, fod goblygiadau amgylcheddol negyddol yn mynd i godi drwy golli llawer o'r pori gwartheg, ac yn y blaen, sydd wedi cyfrannu'n allweddol at gadwraeth, a chyflwyno mwy o ddefaid, mae'n debyg, i'n hucheldiroedd ni, sydd yn mynd i olygu dirywiad amgylcheddol posib pellach. Mae proseswyr llaeth allweddol yng Nghymru wedi bod mewn cysylltiad â fi i fynegi pryderon am yr effaith ar hyfywedd y sector. Mae un wedi awgrymu bod ganddyn nhw ddadansoddiad yn dangos y bydd efallai hyd at draean o'r holl ffermydd llaeth yn rhoi'r gorau i gynhyrchu, ac un cwmni eisoes yn cynllunio i symud ei weithrediadau a dod o hyd i laeth o rywle arall, am eu bod nhw'n rhagweld yr effaith niweidiol bydd y rheoliadau hyn yn cael ar hyfywedd y sector llaeth.
Mae'r gost cyfalaf yn rywbeth rŷn ni wedi clywed amdani hi yn barod: hyd at £360 miliwn, ac mae hynny'n fwy na'r incwm cyfan o amaeth yng Nghymru mewn blwyddyn. Dyna pa mor anghymesur yw'r gofyniadau. Ac mae'r Llywodraeth, drwy gyflwyno'r rheoliadau yma, wrth gwrs, wedi slapio bil o ddegau o filiynau o bunnoedd ar ein hawdurdodau lleol ni, a fydd angen buddsoddi tua £36 miliwn ar y 1,000 o ffermydd cyngor sydd gennym ni yng Nghymru.
Felly, ie, cyflwynwch reoliadau, ond targedwch nhw lle mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn dweud bod angen nhw. Adeiladwch ar y cynlluniau gwirfoddol, fel y faner las ac, fel y clywom ni gan Cefin Campbell yn gynharach, Taclo'r Tywi yng Ngelli Aur, a datblygu risk matrix fel sy'n digwydd yn Lloegr, lle bydd cyfathrebu dyddiol gyda ffermwyr ar ba mor addas yw eu chwalu slyri, a'n galluogi ni i ddefnyddio technoleg newydd a chyfathrebu amser real, neu real time, sy'n approach llawer mwy deinamig a llawer mwy soffistigedig na rheoliadau cyntefig fel hyn sydd jest yn dilyn dyddiadau'r calendr ac a fydd, yn y diwedd, yn creu mwy o broblemau nag y byddan nhw'n eu datrys.