6. Dadl Plaid Cymru: Pwerau'r Senedd

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:01 pm ar 9 Mehefin 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Huw Irranca-Davies Huw Irranca-Davies Labour 5:01, 9 Mehefin 2021

(Cyfieithwyd)

Fe wnaf yn wir—a dal i gydweithio o hyd er budd cyffredin ehangach gwledydd a rhanbarthau'r DU a'r DU gyfan.

Ddirprwy Lywydd, efallai fod gan yr hen siandri fwy o fywyd ynddi eto, ond rhaid inni osgoi sefyllfa lle rydym yn dal i fynd nes dod i stop, neu daro'r clawdd. A dyna fy mhryder gydag ymagwedd bresennol Llywodraeth y DU.