6. Dadl Plaid Cymru: Pwerau'r Senedd

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:02 pm ar 9 Mehefin 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Sioned Williams Sioned Williams Plaid Cymru 5:02, 9 Mehefin 2021

Ein rôl ni i gyd sy'n cynrychioli pobl Cymru yw sicrhau'r bywyd gorau posibl i drigolion ein cenedl; i wneud popeth posib i greu Cymru lewyrchus, deg a chyfiawn, sy'n gofalu am bob un sy'n galw Cymru'n gartref. Os na wnawn ni hyn, yna nid ydym yn haeddu eistedd yn y Siambr hon, na chwaith yn deilwng o gynrychioli'r cymunedau sydd wedi rhoi eu ffydd ynom i'w gwasanaethu.

Ers 2010, mae Llywodraeth Geidwadol y Deyrnas Gyfunol wedi mynd ati i ailstrwythuro'n system les mewn modd llym ac anghyfiawn. Er bod ganddi'r adnoddau i sicrhau nad yw ein teuluoedd a'n plant tlotaf yn llwglyd ac yn cwympo drwy rwyd y wladwriaeth les, mae'n methu â gwneud hynny. Ochr yn ochr â hyn, rhaid gosod effaith methiant Llywodraeth Lafur Cymru i ddileu tlodi plant erbyn 2020. Erbyn hyn, mae gan Gymru'r gyfradd uchaf o dlodi plant o unrhyw genedl yn y Deyrnas Gyfunol, gydag un o bob tri phlentyn yn byw mewn tlodi. Mae'n sgandal cenedlaethol; yn adlewyrchiad damniol o effaith llymder y Ceidwadwyr ac 20 mlynedd o ddiffyg Llafur yng Nghymru i wneud fawr mwy na rheoli tlodi.

Ers 2016, mae gan yr Alban reolaeth dros 11 o fudd-daliadau lles a'r gallu i greu budd-daliadau nawdd cymdeithasol newydd o fewn meysydd polisi datganoledig. Felly y cwestiwn yw: pam nad oes gennym y grymoedd yma yng Nghymru? Hyd yn oed os yw Llywodraeth Cymru yn erbyn datganoli lles yn ei chyfanrwydd i Gymru, y lleiaf y gallant ei wneud heddiw yw dechrau'r broses i sicrhau cydraddoldeb i Gymru ar yr un lefel â'r Alban. Mae'r farn gyhoeddus o blaid hynny. Mae arolygon barn wedi dangos bod mwyafrif o blaid datganoli pwerau lles i'n Senedd. Mae pwyllgor trawsbleidiol o'r Senedd ddiwethaf, o dan gadeiryddiaeth Aelod o'r Blaid Lafur, o blaid hynny. Mae'r arbenigwyr cyllid o blaid hynny hefyd. Yn ôl tîm Dadansoddi Cyllid Cymru yng Nghanolfan Llywodraethiant Cymru, gall datganoli lles yn yr un modd â'r Alban roi hwb o £200 miliwn i gyllideb Cymru. Ac fe fyddai'n cael effaith gadarnhaol, fesuradwy ar fywydau'r rhai mwyaf anghenus yn ein gwlad.