6. Dadl Plaid Cymru: Pwerau'r Senedd

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:10 pm ar 9 Mehefin 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Heledd Fychan Heledd Fychan Plaid Cymru 5:10, 9 Mehefin 2021

Hoffwn ganolbwyntio, fel rhan o fy nghyfraniad i’r ddadl, dros yr angen i ddatganoli darlledu. Mae’n faes sydd wedi ei ddatganoli mewn gwledydd datganoledig eraill, megis Gwlad y Basg a Chatalwnia, ac mae’r pwerau wedi cael eu defnyddio er lles eu hieithoedd nhw.

Darganfu pwyllgor trawsbleidiol comisiwn Silk, a sefydlwyd gan Lywodraeth Prydain ei hunan, ynghyd ag arolwg barn YouGov yn 2017, bod dros 60 y cant o bobl Cymru o blaid datganoli darlledu i Gymru. Felly, mae cefnogaeth y cyhoedd yn ddiamheuol. Fodd bynnag, mae Llywodraeth Prydain wedi gwrthod gweithredu argymhelliad y comisiwn i ddatganoli i Lywodraeth Cymru yr ychydig filiynau o bunnau’n unig sydd yn cael eu casglu gan drethdalwyr i ariannu S4C. A oes unrhyw wlad arall yn y byd lle mae’r pŵer dros ei phrif sianel a’i darlledwr cyhoeddus yn perthyn i wlad arall? Dywedodd pwyllgor cyfathrebu'r pumed Senedd ei bod yn 'sefyllfa anarferol' bod y pwerau dros S4C yn gorwedd yn Llundain yn hytrach na’r wlad ble mae’r iaith sydd i’w chlywed yng nghynnwys y sianel yn cael ei siarad. Rhaid i hynny newid.

Mae nifer cynyddol o gyrff a sefydliadau eraill hefyd wedi galw ar Lywodraeth Prydain i fynd ymhellach ac yn gweld rhinwedd y ddadl dros ddatganoli darlledu yn ei gyfanrwydd. Byddai datganoli darlledu yn helpu’r bobl sy’n byw yma yng Nghymru i ddeall yn well yr hyn sy’n digwydd yn eu gwlad eu hunain, nid derbyn camwybodaeth gan y cyfryngau Llundeinig sy’n methu’n deg â deall datganoli. Mae’n bwysig nid yn unig er lles ein democratiaeth ond, fel mae’r pandemig wedi dangos, er lles ein hiechyd cyhoeddus bod pobl Cymru yn derbyn gwybodaeth sy'n berthnasol i'w bywydau hwy yma yng Nghymru. Byddai datganoli darlledu hefyd yn rhoi’r cyfle i ddatblygu’r cyfryngau Cymreig amrywiol sy’n adlewyrchu anghenion a buddiannau’r Gymru fodern. Mae papurau newydd Cymreig lleol yn crebachu, fel y mae papurau newydd ym mhobman, ac er mai BBC Radio 2 yw’r orsaf radio gyda’r mwyaf o wrandawyr yma yng Nghymru, prin ac anaml iawn yw’r sôn am Gymru arni.

Bu sefydlu S4C yn hwb aruthrol nôl yn 1982—hwb aruthrol i'n cenedl, i'n hunaniaeth ac i'n diwylliant—ond mae angen llawer mwy. Rydym ni eisiau adeiladu ar lwyddiant bodolaeth S4C mewn hinsawdd wleidyddol hynod o fregus, lle mae goroesiad ein cenedl ein hunain o dan fygythiad. Mae Cymru yma i bawb, p'un ai ydyn nhw'n siarad Cymraeg ai peidio. Mae S4C yn wych, ac fel mam i fachgen ifanc, mae Cyw wedi bod yn fendith, ond mae angen mwy na dim ond S4C i hyrwyddo hunan-barch 3 miliwn o bobl a hyrwyddo datblygiad cenedl gyfan. Mae'n bryd i Gymru gael llais, ac i ni, fel pobl, allu cael y sgyrsiau cenedlaethol i wella'r ffordd y mae'r wlad yn cael ei llywodraethu. Bydd datganoli darlledu yn hanfodol i hyn.

Dylid datganoli cyfrifoldeb dros ddarlledu a chyfathrebu yn eu cyfanrwydd i’r Senedd hon. Byddai hyn yn rhoi grym rheoleiddio’r holl sbectrwm darlledu i ni yma yng Nghymru, gan gynnwys cyfrifoldeb dros y ffi drwydded. Gellir wedyn hefyd sefydlu fformiwla ariannol statudol ar gyfer ein sianeli a llwyfannau a fydd yn cynyddu yn unol â chwyddiant, gan gynnig sicrwydd ariannol hirdymor i’r darlledwyr a’r maes darlledu yma yng Nghymru. Mae Plaid Cymru wedi dadlau ers tro mai yn nwylo’r Senedd hon y dylai grym dros ddarlledu yng Nghymru fod ac nid yn nwylo San Steffan sy’n gwybod braidd dim ac yn poeni hyd yn oed yn llai am ein cymunedau. A rŵan, am y tro cyntaf yn hanes gwleidyddiaeth Cymru, mae gennym gonsensws trawsbleidiol o blaid datganoli darlledu.

Ar ddiwedd y Senedd ddiwethaf, cyhoeddodd y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu, a oedd yn cynnwys Aelodau nid yn unig o Blaid Cymru, ond o'r Blaid Lafur a'r Blaid Geidwadol, adroddiad ar y mater hwn. A'u casgliad: y dylid datganoli darlledu, gyda rhai yn cytuno y dylid gwneud yn ei gyfanrwydd, ac eraill eisiau ei weld yn rhannol. Mae datganoli darlledu yn allweddol i'n democratiaeth. Mae gennym ni gonsensws trawsbleidiol. Rŵan yw'r amser i weithredu.