6. Dadl Plaid Cymru: Pwerau'r Senedd

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:43 pm ar 9 Mehefin 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhys ab Owen Rhys ab Owen Plaid Cymru 5:43, 9 Mehefin 2021

(Cyfieithwyd)

Mae'n drueni mawr—fe  sonioch chi fod tir cyffredin—mae'n drueni mawr pan gawsom ein cyfle cyntaf i gydweithio fod Llafur wedi llithro'n ôl eto a dweud 'dileu popeth'. Mae gennym gyfle yma i gael y ffederaliaeth bellgyrhaeddol honno. Pam na allwn ni ddweud yn awr beth rydym ei eisiau? Nid yw'n newydd. Roedd Keir Hardie yn sôn amdano'n ôl ar ddechrau'r ganrif ddiwethaf ac iddo ef—iddo ef, i Keir Hardie—roedd ymreolaeth yn golygu yr un lefel â Chanada, Seland Newydd, ac felly nid oes dim yn newydd. Pam na allwn ddatgan yn glir yn awr, 'Dyma'r pwerau sydd eu hangen arnom ar gyfer pobl Cymru'? Pam ein bod yn gohirio pethau unwaith eto? Nid oes arnom angen comisiwn arall i ymdrin â materion lle ceir consensws.

A gaf fi annog yr Aelodau felly i gefnogi cynnig Plaid Cymru heddiw—cefnogwch gynnig Plaid Cymru—dros Senedd gryfach a Chymru gryfach, fel y gellir grymuso ein Senedd i gyflawni dros holl bobl Cymru? Diolch yn fawr.