Part of the debate – Senedd Cymru am 5:42 pm ar 9 Mehefin 2021.
Ac ar Ystâd y Goron—fel yr oedd Delyth yn sôn, enghraifft arall o arian yn cael ei fethu, Cymru yn cael ei methu, dro ar ôl tro. A'r tidal lagoon roedd y Ceidwadwyr yn ei gefnogi am sbel, ac yna ddiflannu i'r difancoll.
Cwnsler Cyffredinol, a gaf i eich llongyfarch chi ar eich apwyntiad? Dwi'n gwybod am y gwaith rŷch chi wedi'i wneud yn hyrwyddo datganoli ers y 1970au, a dwi'n gwybod am eich dyhead i gael Prydain fwy radical a mwy ffederal.