6. Dadl Plaid Cymru: Pwerau'r Senedd

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:38 pm ar 9 Mehefin 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhys ab Owen Rhys ab Owen Plaid Cymru 5:38, 9 Mehefin 2021

(Cyfieithwyd)

Roeddwn yn falch o'ch clywed yn dweud am y berthynas rhwng elfennau cydradd. Os felly, pam na allwn ddatgan yn awr pa bwerau rydym eu heisiau? Rydym wedi cael consensws. Pam na allwn ni ddechrau'r broses yn awr? Rydych chi'n dweud, gyda llaw, fod annibyniaeth wedi'i gwrthod yn y blwch pleidleisio. Dylech gael gair gyda chriw Llafur Cymru dros annibyniaeth am hynny, a Chanolfan Llywodraethiant Cymru, a ganfu fod dros 40 y cant o gefnogwyr annibyniaeth wedi pleidleisio dros y Blaid Lafur yn yr etholiad diwethaf.