6. Dadl Plaid Cymru: Pwerau'r Senedd

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:39 pm ar 9 Mehefin 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhys ab Owen Rhys ab Owen Plaid Cymru 5:39, 9 Mehefin 2021

Sioned Williams yn dweud wrthym ni dydyn ni ddim yn moyn pwerau jest er mwyn pŵer. Nid rhyw ego boost yw hwn i'r Senedd. Rŷn ni'n moyn pwerau er mwyn gwella bywydau pobl Cymru. Pam na ddylem ni ddatganoli lles i'r un lefel â'r Alban? Pam nad oes modd i ni gael consensws am hyn nawr? Pam nad oes modd i ni ofyn am hyn nawr? Ddylai plant Cymru, fel dywedodd Sioned Williams, ddim gorfod aros ymhellach am hyn.