8. Dadl Fer: Effaith y newid yn yr hinsawdd ar iechyd meddwl

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:20 pm ar 9 Mehefin 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Julie James Julie James Labour 6:20, 9 Mehefin 2021

(Cyfieithwyd)

Ond mae wedi'i ddangos i ni fod teithio llesol, y gallu i ddefnyddio ein strydoedd fel mwy na dim ond lle i roi eich car, yn gwella iechyd corfforol a meddyliol mewn gwirionedd. Mae cynyddu coetiroedd, bioamrywiaeth a mynediad at yr amgylchedd naturiol yn cael effaith fuddiol ar iechyd meddwl, ac os teimlwch eich bod yn gallu gwella eich amgylchedd naturiol, mae'n cael mwy fyth o effaith ar wella iechyd meddwl.

Un o'r pethau rwy'n mynd i'w sleifio i mewn fel profiad personol yma yw: bydd rhai ohonoch yn gwybod fy mod wedi cael canser y fron yn gynnar yn fy ngyrfa wleidyddol, a byddwn yn mynd i ganolfan Maggie yn Abertawe gryn dipyn; bu o gymorth mawr i mi. Yr hyn sydd ganddynt wrth gwrs yw gardd goetir y tu allan, a gallwch weithio yn yr ardd a'r coetir a'i wella, ac mae o ddifrif yn gwneud i chi deimlo'n well; nid oes dwywaith amdani. Gall wneud i chi deimlo'n well hyd yn oed pan fyddwch yn wynebu heriau personol mawr. Mae hefyd yn helpu dynion i siarad â'i gilydd pan fyddant yn garddio, rhywbeth a oedd yn fantais ychwanegol yn fy marn i; roedd y mudiad Siediau Dynion yn rhan o hynny. Felly, mae'r holl bethau hyn yn gwneud gwahaniaeth go iawn.

Bydd gennym fanteision lluosog o'r pethau hynny. Mae'n gwella iechyd meddwl a llesiant pobl, ond hefyd, mae cael pobl allan o'u ceir ar gyfer teithiau byr, a theithio mewn ffordd sy'n gwella eu hiechyd, yn uchelgeisiol. Rydym i gyd wedi disgyn mewn cariad gyda'r car dros ugeinfed ganrif a dechrau'r unfed ganrif ar hugain, ond gwyddom i gyd ei fod yn creu manteision lluosog—aer glanach, ffyrdd llai prysur, gwell lles meddyliol, siopau lleol prysurach. Felly, bydd ein hagenda uchelgeisiol i sicrhau bod gennym 30 y cant o bobl yn gweithio o bell—ac nid yw hynny'n golygu gartref yn unig; mae'n golygu yn eu cymunedau lleol, mewn hybiau ac yn y blaen—yn helpu cyfres gyfan o agendâu.

Rydym wedi gweld prosiectau'n darparu modelau cynaliadwy ar gyfer iechyd a llesiant. Ceir grwpiau cerdded, er enghraifft ym menter Dewch i Gerdded gorllewin Cymru Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro. Gwn fod rhai ohonoch wedi bod yn gysylltiedig â hynny ac yn cymryd rhan yn y ddadl. Ceir gwaith gyda phractisau meddygon teulu a lleoliadau cymunedol eraill ledled Cymru, gan sicrhau bod gan y practis meddygol—rwy'n amharod i ddefnyddio'r term 'presgripsiynu cymdeithasol', ond mae'n ymwneud â chysylltu pobl â'u cymunedau lleol a mynediad at gefn gwlad fel rhan o'r fenter llesiant. Mae prosiect Agor Drysau i'r Awyr Agored y Bartneriaeth Awyr Agored, er enghraifft, yn dod â gweithwyr iechyd proffesiynol ac arbenigwyr gweithgareddau awyr agored at ei gilydd i gynyddu lefelau gweithgarwch corfforol, gwella iechyd meddwl ac iechyd corfforol, cysylltu clybiau cymunedol lleol â thimau iechyd meddwl, gan alluogi cleifion i fyw bywydau annibynnol yn hirdymor oherwydd eu cysylltiad cynyddol â'u cymuned a'r byd naturiol o'u cwmpas.  

Rhaid inni gael adferiad gwirioneddol wyrdd a glas. Rhaid inni wella ein bioamrywiaeth, cynnal ein heconomi, gwella ein hamgylchedd a helpu ein hiechyd a'n llesiant. Soniodd Heledd yn bennaf, rwy'n credu, am y llifogydd. Rydym yn ymwybodol iawn o'r mathau hynny o broblemau hinsawdd sydd gennym i ddod. Rhaid inni wneud ein hunain yn fwy gwydn i wrthsefyll hynny. Rhaid inni wneud ein ffyrdd o fyw yn fwy gwydn. Rhaid inni sicrhau nad yw ein hinsawdd yn gwaethygu, a rhaid inni sicrhau bod gennym yr holl strategaethau ar waith i sicrhau bod pobl yn ddiogel ac yn iach yn eu cartrefi eu hunain ac yn gallu manteisio ar hynny. Nid wyf yn credu y byddai'n beth da i mi esgus, wrth siarad â chi yn awr, ein bod yn annhebygol o gael llifogydd dramatig dros y gaeaf nesaf yma yng Nghymru. Yn anffodus, rwy'n credu ei bod hi'n debygol iawn y byddwn yn eu cael. Rydym wedi dod allan o'r 14 mis diwethaf gyda'r mis Chwefror gwlypaf y llynedd, a'r mis Mai poethaf; eleni, y mis Chwefror oeraf a'r mis Mai gwlypaf. Mae'r hinsawdd wedi cael effaith ddofn ar y ffordd rydym ni'n byw ein bywydau dros y 14 mis diwethaf, heb sôn am weddill y byd. 

Yn ystod yr uwchgynhadledd ieuenctid ar yr hinsawdd ddoe, galwodd un o'r cyfranwyr y gwledydd bach sy'n ynysoedd yr effeithir arnynt fwyaf gan newid hinsawdd yn fyd-eang—nid ydynt yn hoffi cael eu galw'n hynny, mae'n debyg, dywedwyd wrthym neithiwr; maent yn hoffi cael eu galw'n 'wledydd y cefnfor mawr' nid 'gwledydd bach sy'n ynysoedd'. Roeddwn yn meddwl bod honno'n ffordd hyfryd o feddwl amdano, oherwydd mae'n gwneud ichi sylweddoli pa mor eithriadol o bwysig yw'r cefnfor i gymunedau ym mhob rhan o'r byd, ac nid yw Cymru yn eithriad wrth gwrs. Felly, mae edrych eto ar ein parthau cadwraeth morol, y ffordd rydym yn helpu ein pysgodfeydd bach cynaliadwy, ein pysgodfeydd ar y glannau ac yn y blaen, yn ffordd wych o annog pobl i gymryd rhan yn y gwaith o wella ein bioamrywiaeth a'n nodau datgarboneiddio. 

Rwy'n credu fy mod wedi rhuthro braidd drwy'r holl faterion sy'n codi. Yn fyr, rydym eisiau diogelu ein hamgylchedd, adeiladu economi werdd, darparu cartrefi cynaliadwy, a chreu'r cymunedau creu lleoedd llesiant cenedlaethau'r dyfodol sy'n gwella ein hiechyd meddwl a'n llesiant, ond hefyd ein cydlyniant cymunedol—ein hymdeimlad ohonom ein hunain a'n gwlad a'n cenedl. Ac yn bendant, gallwn wneud hynny.

Wrth sefydlu'r portffolio newydd hwn, mae'r Prif Weinidog wedi gofyn imi roi'r amgylchedd, colli bioamrywiaeth a newid hinsawdd wrth wraidd popeth a wnawn fel Llywodraeth—nid fy mhortffolio fy hun yn unig. Drwy ddod â chyfrifoldebau tai, trafnidiaeth, cynllunio, ynni a'r amgylchedd at ei gilydd, gallwn fynd i'r afael â pheryglon newid hinsawdd a gwella ein hasedau naturiol i'r eithaf, gallwn adeiladu'r dyfodol gwyrdd a chynaliadwy y mae pawb ohonom yn gobeithio ei weld ar gyfer Cymru. Ond ni allwn wneud hynny ar ein pen ein hunain fel Llywodraeth; rhaid inni fynd â phobl Cymru gyda ni, rhaid inni fynd â phob un ohonoch chi gyda ni, rhaid inni fynd â chymaint o bobl â phosibl gyda ni, a bod o ddifrif ynglŷn â'n busnesau, ein corfforaethau a'n cyfrifoldeb byd-eang.

Rwy'n mynd i fynd yn ôl a neilltuo dwy funud olaf fy nghyfraniad i ddweud y byddwch i gyd yn gwybod hefyd fy mod wedi sôn ers tro am wella, diogelu a chreu coetiroedd fel un o fy ymgyrchoedd mawr—creu cartrefi cynaliadwy o bren Cymru, gan sicrhau bod y cadwyni cyflenwi'n gynaliadwy, y gall ein ffermwyr a'n diwydiannau amaethyddol gyfrannu atynt, ac wrth wneud hynny, gwella bioamrywiaeth a harddwch naturiol Cymru. Felly, bydd gennym raglen y goedwig genedlaethol i greu'r rhwydwaith o goetiroedd ar hyd y wlad o un pen i'r llall, ond byddwn hefyd yn creu diwydiant pren cynaliadwy i gyd-fynd â hynny.

Mae fy nghyd-Aelod Lee Waters yn gwrando ar y ddadl hon hefyd. Fe fydd yn arwain y ffordd i edrych ar unwaith ar yr hyn y mae angen inni ei wneud i ddileu'r rhwystrau i allu gwireddu rhai o'r uchelgeisiau hynny, a dod â'r hyn y byddwn am ofyn i bob un ohonoch gymryd rhan ynddo yn ôl i lawr y Senedd er mwyn gwireddu'r pethau hynny. Bydd rhai ohonoch yn gwybod am rai o'r rhwystrau ar lawr gwlad eisoes. Felly, byddwn yn ceisio gweithio ar draws y pleidiau, gyda phob un ohonoch, i sicrhau ein bod yn gallu dileu'r rhwystrau hynny ac adeiladu'r coetiroedd rydym eu heisiau yng Nghymru, a gwn eich bod chi i gyd eu heisiau hefyd.

Byddwn yn gallu diogelu ein rhwydwaith o ardaloedd o harddwch naturiol eithriadol, safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig, safleoedd natur gwarchodedig, ardaloedd cadwraeth arbennig afonol, a'r holl fathau hynny o bethau. Ond rwyf am fynd ymhellach na hynny. Rydym am roi rhaglenni adfer ar waith. Rydym am adfer ein dyffrynnoedd afon. Rydym eisiau gwneud yn siŵr bod prosiectau fel prosiect Pumlumon, i fyny uwchben Machynlleth, y bydd rhai ohonoch yn gyfarwydd â hwy, rwy'n siŵr—adfer y migwyn ar ben uchaf Afon Hafren i'n helpu i atal y llifogydd ofnadwy a welsom yn ein hafonydd, fel ein bod yn adfer dalgylchoedd afonydd yn dda yr holl ffordd drwy Gymru.

Mae llawer iawn i'w wneud i wella ein hamgylchedd, diogelu ein rhywogaethau sydd mewn perygl, a darparu mannau ar gyfer cyfoethogi emosiynol wrth inni wneud hynny. Nid oes dim yn well i'ch iechyd meddwl na gwybod eich bod wedi gwneud gwahaniaeth sylweddol yn bersonol ac yn eich cymuned i'r amgylchedd sydd gennych, a'ch bod wedi gallu cymryd rhan a chyfranogi yn y ffordd honno. Felly, gallaf eich sicrhau, Delyth, ein bod yn ddiolchgar iawn i chi am ddwyn hyn i'n sylw, wedi rhoi cyfle inni ei drafod, a dechrau'r sgwrs, am mai dyna'r cyfan y gallwn ei wneud heno. Gobeithio y gallwch weld ein bod yn ymrwymedig i hyn eisoes, y bydd Lynne a minnau yn arbennig yn edrych ymlaen at weithio gyda chi, ac ar draws y pleidiau, i sicrhau bod yr agendâu hyn yn gweithio i bob un ohonom. Rydym yn genedl fach, mae gennym ymrwymiad hirsefydlog a balch i arwain yn y maes hwn, gartref ac ar lwyfan rhyngwladol. Felly, rydym yn falch iawn o ddatblygu hynny.

Un peth olaf yr hoffwn ei grybwyll yw ein prosiect coed Uganda. Un o'r pethau rydym wedi bod yn llwyddiannus iawn yn ei wneud yw plannu mwy nag 1 filiwn o goed allan yn Uganda. Mae wedi bod yn brosiect arbennig o lwyddiannus. Un o'r ffyrdd y gwnaethom hynny'n syml iawn oedd gofyn i bawb blannu coeden, ac yna gwnaethom yn siŵr y gallent gael gafael ar y coed brodorol cywir i wneud hynny. Felly, syniadau diddorol fel hynny, sydd wedi gweithio mewn mannau eraill—a fyddent yn gweithio i ni? Y mathau hynny o bethau—dyna rydym am edrych arno, camau bach iawn: yr hyn y mae angen inni ei wneud i wella ein meithrinfeydd coed; yr hyn y mae angen inni ei wneud i wneud ein swyddi'n gynaliadwy o ganlyniad i hynny; yr hyn y mae angen inni ei wneud i sicrhau bod Cymru fel rydym eisiau iddi fod.

Rwy'n falch iawn o allu dechrau'r sgwrs honno o leiaf, Delyth, ac rwy'n ddiolchgar iawn i chi am ei chyflwyno mor gynnar yn y chweched Senedd. Diolch yn fawr.