Part of the debate – Senedd Cymru am 6:15 pm ar 9 Mehefin 2021.
Y peth mwyaf roeddent yn ei ddweud wrthym oedd eu bod am i wneuthurwyr penderfyniadau wrando arnynt, ac felly rwy'n falch iawn o ddweud mai un o'r pethau cyntaf rydym yn ei wneud yma yng Nghymru yw gwrando, gyda phenderfyniad i weithredu. Felly, mae'r Prif Weinidog wedi dweud yn glir iawn fod yn rhaid inni ganolbwyntio yn awr ar adferiad o'r pandemig, ond hefyd adferiad o ddinistr newid hinsawdd, ac adeiladu Cymru fwy cryf, gwyrdd a theg—Cymru lle nad oes neb yn cael ei ddal yn ôl a lle nad oes neb yn cael ei adael ar ôl. Rydym wedi ymrwymo'n llwyr i'r weledigaeth honno ac yn enwedig wrth fynd i'r afael â'r sefyllfa gyda newid hinsawdd ac iechyd meddwl yng Nghymru.
Felly, mae iechyd meddwl, yn y Llywodraeth newydd, bellach yn cael ei hyrwyddo gan fy nghyd-Aelod a'm cyfaill Lynne Neagle, y gallaf ei gweld yn gwrando'n astud ar y ddadl. Mae ei chyfrifoldebau yn gyfannol hefyd, felly maent yn uno'r ddarpariaeth o wasanaethau ar draws materion iechyd meddwl, ochr yn ochr ag edrych ar ffactorau cyfrannol megis problemau gamblo, camddefnyddio sylweddau, profiadau cyn-filwyr y lluoedd arfog a digartrefedd ac yn y blaen. Ac mae'r dull cyfannol hwnnw'n dangos y pwyslais a roddwn ar les meddyliol pobl yng Nghymru. Eisoes mae Lynne a fi wedi cael cyfle i gydweithio ar rai o'r materion hynny ac fe fyddwch i gyd yn gwybod bod Lynne wedi hyrwyddo'r materion hynny yn y pumed Senedd, lle cadeiriodd y pwyllgor a fu'n edrych ar hyn. Felly, rwy'n falch iawn o'r cyfle i weithio gyda hi ar amrywiaeth o'r materion hyn hefyd. Rydym wedi buddsoddi £42 miliwn pellach mewn gwasanaethau iechyd meddwl eleni, gan ehangu'r gefnogaeth ar gyfer gorbryder ac iselder drwy fwy o gymorth ar-lein a dros y ffôn.
Felly, mae llawer o ffactorau sy'n effeithio ar iechyd meddwl yn fy mhortffolio newydd. Mae llawer o ffactorau hefyd a fydd yn ein galluogi i leddfu rhai o'r pryderon sydd gan bobl. Nid wyf am allu ymdrin â phob un ohonynt yn fy nghyfraniad heddiw, ond edrychaf ymlaen at eu harchwilio gyda phob un ohonoch yn fanylach wrth inni symud hyn yn ei flaen. Bydd llawer ohonoch y gallaf eu gweld yn cymryd rhan yn y ddadl yn gyfarwydd â'r sgyrsiau a gawsom yn y maes tai ynghylch digartrefedd, yr angen am gartref digonol, yr angen i adeiladu lle a chymuned er mwyn gwella llesiant pobl a'u hymdeimlad o gysylltedd gweithredol ledled Cymru. Mae hynny'n sicr yn rhywbeth rydym eisiau ei wneud. Rydym hefyd, wrth gwrs, am alluogi pobl i gyfrannu at y broblem fwyaf rydym wedi'i hwynebu—hyd yn oed yn y pandemig dyma'r broblem fwyaf rydym wedi'i hwynebu—sef gwrthdroi dinistr yr hinsawdd ar ein planed a gwella ei bioamrywiaeth.
Felly, rwyf am sicrhau pawb yng Nghymru ein bod yn deall yr holl bethau hynny; rydym yn deall eu pryderon. Dyma yw ein pryderon ni, a dyna pam rwy'n gwneud y gwaith hwn mewn gwirionedd, a'r swyddi roeddwn yn eu gwneud cyn i mi gael y fraint o gael fy ethol. Felly, rydym yn awyddus iawn i gefnogi'r gweithgareddau niferus sy'n rhoi cyfleoedd i bobl ifanc yn enwedig gyfrannu at fynd i'r afael â newid hinsawdd a gofod i leisio'u barn. Rydym yn darparu grantiau ar gyfer rhaglenni addysg yr amgylchedd—Eco-Ysgolion, Maint Cymru, i roi ambell enghraifft—i barhau i weithio gyda phlant a phobl ifanc i annog trafodaeth a dilysu teimladau a phryderon sy'n gysylltiedig â'r pryderon amgylcheddol, yn ogystal â'r camau angenrheidiol y gallant eu rhoi ar waith i gymryd rhan a theimlo eu bod yn gwneud rhywbeth i gyfrannu at faint y broblem sy'n ein hwynebu. Gadewch inni fod yn glir: mae gennym dasg fawr o'n blaenau—tasg gyraeddadwy os ydym i gyd yn cyd-dynnu i'w chyflawni, ond tasg fawr. Felly, fel arwydd bach o faint y dasg, ar gyfer datgarboneiddio'n unig—heb sôn am fioamrywiaeth a'r holl broblemau eraill—rhaid inni wneud yn y 10 mlynedd nesaf yr hyn a wnaethom yn y 30 mlynedd diwethaf i gyrraedd ein targed nesaf. Felly, mae'n dasg fawr. Gallwn ei gwneud, ond mae'n dasg fawr. A rhaid inni fynd â phobl Cymru gyda ni wrth inni ei gwneud. Felly, rydym wedi ymrwymo'n llwyr i gefnogi a gwrando ar ofnau a phryderon pawb, ond hefyd eu cyfraniadau ar gyfer sut i'w wneud—sut y gallant wneud y newidiadau bach, newidiadau mawr yn eu bywydau a fydd yn gwella eu bywydau ac sy'n edrych, efallai, fel anfanteision i ddechrau, ond mewn gwirionedd byddant yn gwella eu bywydau yn y pen draw?
Felly, un o'r pethau rwy'n awyddus iawn i dynnu sylw pobl ato yw'r newid ymddygiad a brofodd pob un ohonom yn ystod y pandemig. Roedd rhywfaint ohono'n ofnadwy a chafodd effeithiau ofnadwy ar bobl, ond yn bendant roedd pethau da hefyd. Mae'r ffordd yr aethom i'r afael â digartrefedd yng Nghymru yn ystod y pandemig yn destun balchder mawr i bawb yn y sector a phob un ohonom yma yn y Senedd a helpodd. Ond er enghraifft, gwelsom blant yn chwarae'n ôl ar ein strydoedd—wyddoch chi, aeth yr aer yn lanach, nid oedd pobl allan yn eu ceir, a chawsant ymdeimlad o gymuned a lle. Gwelsom hefyd rai o'r anghyfiawnderau cymdeithasol lle nad oedd gan bobl rai o'r amwynderau hynny, ac mae'n cynyddu ein penderfyniad i sicrhau eu bod yn eu cael.