Llygredd Aer

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:31 pm ar 15 Mehefin 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 1:31, 15 Mehefin 2021

(Cyfieithwyd)

Llywydd, mae'r rhaglen lywodraethu, sy’n cael ei chyhoeddi heddiw, yn ailadrodd ein hymrwymiad i Ddeddf aer glân i Gymru. Mor gynnar â'r wythnos hon, byddwn yn cefnogi ac yn hyrwyddo Diwrnod Aer Glân Cymru, gan godi ymwybyddiaeth o lygredd aer a'r rhan y gall pob un ohonom ni ei chwarae i wneud yr aer yn lanach ac yn iachach.