Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:47 pm ar 15 Mehefin 2021.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, rydych chi wedi dweud yn y gorffennol na fydd eich Llywodraeth chi yn codi cyfraddau treth incwm Cymru o leiaf tan fod effaith economaidd coronafeirws wedi mynd heibio, ond rydych chi hefyd wedi dweud na wnewch chi ddiystyru cynnydd i drethi cyn diwedd tymor y Senedd. A fyddwch chi'n codi treth incwm rywbryd yn ystod tymor y Senedd hon?