Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:55 pm ar 15 Mehefin 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 1:55, 15 Mehefin 2021

Diolch, Llywydd. Yng ngeiriau’r Gweinidog Newid Hinsawdd, mae angen i Gymru wneud dwywaith cymaint i daclo newid hinsawdd yn y degawd nesaf ag y gwnaeth hi yn y 30 mlynedd ddiwethaf. Y Llynedd, mi ddywedodd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, sy’n cynghori Llywodraethau’r Deyrnas Gyfunol, bod absenoldeb strategaeth eglur i’r economi gyfan ar gyfer 2050, ar lefel Llywodraethau Cymru a’r Deyrnas Unedig, yn golygu nad yw Cymru ar y ffordd i gyrraedd y targed o 80 y cant, heb sôn am net zero. Os edrychwn ni'n ôl, 31 y cant mae allyriadau wedi gostwng yng Nghymru ers 1990, o’i gymharu efo 41 y cant ar draws y Deyrnas Gyfunol. Pam ydych chi’n meddwl bod Cymru ar ei hôl hi?