Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:57 pm ar 15 Mehefin 2021.
Dwi’n croesawu’r ffaith bod yna Weinidog Newid Hinsawdd. Roeddwn i’n gwrando ar y cyfweliad cyntaf gwnaeth hi ar y BBC—roedd yna lot o siarad am drafnidiaeth a ffyrdd, ac mi fydd y Prif Weinidog yn gwybod fy mod i’n eiddgar iawn i annog symudiad tuag at gerbydau trydan a’r math yna o beth. Felly, mae hyn i gyd yn bwysig, ond mae adeiladau yn defnyddio mwy o ynni na thrafnidiaeth.