Part of the debate – Senedd Cymru am 2:42 pm ar 15 Mehefin 2021.
Rwy'n galw am ddadl neu ddatganiad llafar yn amser Llywodraeth Cymru ar ofal i bobl ag anableddau dysgu a/neu awtistiaeth. Yr unfed ar ddeg ar hugain o Fai oedd pen-blwydd 10 mlynedd sgandal Winterbourne View, pan amlygwyd cam-drin pobl ag anableddau dysgu a/neu awtistiaeth. Ym mis Ionawr 2013, cyhoeddodd Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol Llywodraeth Cymru ddatganiad gweinidogol yn nodi cynlluniau Llywodraeth Cymru i sicrhau na fyddai sefyllfa debyg yn digwydd yng Nghymru. Fodd bynnag, mae llawer o bobl ag anableddau dysgu a/neu awtistiaeth yn dal i gael eu lleoli ymhell o ble mae eu teuluoedd yn byw. A'r wythnos diwethaf, clywsom honiadau brawychus hefyd fod plant awtistig yn cael eu cam-drin mewn cartref preswyl yng Nghymru—yn cael eu cosbi oherwydd ymddygiad awtistig.
Mae'r consortiwm anabledd dysgu, gan gynnwys Anabledd Dysgu Cymru a Mencap Cymru, yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud chwe pheth. Mae hynny'n cynnwys ymrwymo i weithio gyda phartneriaid allweddol ar y strategaeth i sicrhau y gallwn ni ddod â phobl ag anableddau dysgu sydd wedi'u lleoli ym mhob gwasanaeth preswyl y tu allan i'r ardal yn ôl yn agos at eu teuluoedd a'u ffrindiau, os ydyn nhw'n dymuno gwneud hynny; amlinellu pa sicrwydd sydd gan Lywodraeth Cymru bod pobl ag anableddau dysgu yn cael adolygiadau gofal rheolaidd; a mesur pa gyfle sydd gan bobl ag anableddau dysgu i ddefnyddio gwasanaethau eirioli a sut mae'r wybodaeth honno'n cael ei chyfleu i Lywodraeth Cymru. Rwy'n galw am ddadl neu ddatganiad llafar ar y mater brys hwn gan Lywodraeth Cymru yn unol â hynny, oherwydd mae'r mater brys hwn yn haeddu amser y Llywodraeth i'r Senedd graffu'n briodol arno.