Part of the debate – Senedd Cymru am 2:43 pm ar 15 Mehefin 2021.
Rwy'n credu y byddem ni i gyd yn cytuno y dylai plant a phobl ifanc ag anableddau dysgu gael eu haddysgu a chael gofal mor agos i'w cartrefi â phosibl. Rwy'n siŵr bod y Gweinidog addysg yn ymwybodol o'r adroddiad, ac y bydd yn ystyried beth yw'r argymhellion ac yn cyflwyno rhagor o wybodaeth ar yr adeg fwyaf priodol.FootnoteLink