Part of the debate – Senedd Cymru am 3:10 pm ar 15 Mehefin 2021.
Felly, mae ein rhaglen lywodraethu ni, yn bennaf oll, yn ymwneud ag adferiad o'r pandemig, o ran sicrhau y gall ein GIG ni ofalu am bawb sydd angen ei gymorth, yn enwedig pawb sy'n cael trafferth gyda phroblemau iechyd meddwl a phoen am gyfnod maith. Mae'n ymwneud hefyd â chefnogi plant a phobl ifanc yr amharwyd ar eu haddysg dros y 15 mis diwethaf. Nid oes neb sydd yma, ar draws y Siambr hon i gyd, sy'n dymuno gweld dyfodol un plentyn yn cael ei andwyo oherwydd y pandemig. A dyna pam y ceir rhaglen dal i fyny ar gyfer addysg ac y ceir gwarant yn y rhaglen lywodraethu hon sy'n rhoi cynnig o hyfforddiant, addysg neu waith i bob unigolyn ifanc dan 25 oed. Ac am fod hwn wedi bod yn argyfwng economaidd yn ogystal ag argyfwng iechyd cyhoeddus, mae'r rhaglen lywodraethu yn nodi hefyd ein penderfyniad i ddal ati i gefnogi busnesau hyd nes y byddant wedi adfer yn llwyr, a llunio'r dyfodol economaidd tecach hwnnw i Gymru wedyn lle nad oes neb yn cael ei adael ar ôl a lle nad oes neb yn cael ei ddal yn ôl.
Ac yna, wrth galon y rhaglen lywodraethu hon, Llywydd, ac wrth galon y Llywodraeth hon, mae taer angen ymateb i argyfwng mawr arall ein dyddiau ni: argyfwng colli bioamrywiaeth a newid hinsawdd. Chwe wythnos yn ôl, sefydlwyd gweinidog newid hinsawdd, gan ddwyn tai, trafnidiaeth, cynllunio, ynni a'r amgylchedd at ei gilydd—arwydd clir y byddwn ni'n defnyddio'r holl bwerau sydd gennym i chwarae ein rhan wrth fynd i'r afael â'r argyfyngau o ran hinsawdd a byd natur.
Mae'r rhaglen lywodraethu hon yn nodi'r meysydd allweddol lle byddwn ni'n gweithredu'r gwahaniaethau mwyaf wrth lunio dyfodol Cymru, a'r camau y byddwn ni'n eu cymryd i gyflawni'r newid am fod cyflawni hynny wedi cael ei roi yn ein gofal ni. Fe fydd diwydiannau gwyrdd y dyfodol yn creu swyddi a chyfleoedd newydd i bobl ym mhob rhan o Gymru. Fe fydd y Llywodraeth hon yn buddsoddi yn y diwydiannau hyn ac yn adeiladu economi werdd newydd ar sylfeini gwaith teg, cydraddoldeb, a chynaliadwyedd. Fe fyddwn ni'n lansio cynllun buddsoddi seilwaith 10 mlynedd newydd i Gymru i gefnogi economi ddi-garbon, ac yn cyflawni ein strategaethau trafnidiaeth a digidol ni ar gyfer adfywio cymunedau a llunio Cymru sy'n wlad well a gwyrddach i fyw a gweithio ynddi. Fe fydd y trawsnewid gwyrdd hwn yn cynnwys hyrwyddo ynni adnewyddadwy a gynhyrchir yn lleol, a chyflwyno'r Ddeddf aer glân hon i Gymru a sefydlu'r parc cenedlaethol newydd cyntaf yng Nghymru ers 65 o flynyddoedd. Fe fyddwn ni'n hyrwyddo mannau gwyrdd lleol, yn lleihau gwastraff, ac yn parhau â'n gwaith ni ynghylch coedwig genedlaethol a fydd yn ymestyn ledled Cymru. Fe fyddwn ni'n sicrhau bod gan ein ffermwyr swyddogaeth allweddol yn ein dyfodol gwyrdd ni, ac fe fydd y cartrefi y byddwn ni'n eu codi nhw'n gartrefi carbon isel. Fe fyddwn ni'n hyrwyddo ac yn cefnogi cynlluniau Cyngres Undebau Llafur Cymru ar gyfer cynrychiolwyr gwyrdd ym mhob gweithle, gan ymestyn ein hagenda partneriaeth gymdeithasol i gipio cyfraniad hanfodol gweithwyr a gweithleoedd i fynd i'r afael â newid hinsawdd.
Ac fe fydd y Llywodraeth hon yn parhau i herio strwythurau pŵer sydd wedi gwreiddio ac yn pwyso am gyflog teg. Fe fyddwn ni'n rhoi ein cynllun gweithredu cydraddoldeb hiliol ar waith, ac yn mynd i'r afael ag achosion systemig hiliaeth, yn mynd i'r afael â stigma HIV ac yn mynd i'r afael â'r strwythurau sy'n analluogi llawer gormod o'n cyd-ddinasyddion. Fe fyddwn ni'n parhau i drysori'r iaith Gymraeg a'r diwylliant Cymreig hefyd, yn ogystal â'n diwydiannau twristiaeth, chwaraeon, a chelfyddydau deinamig a bywiog. Rydym ni am barhau i weithio tuag at ein nod ni o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, gan gymryd camau deddfwriaethol i wneud hynny, a chefnogi pobl i ddod o hyd i dai fforddiadwy yn y cymunedau y cawsant eu magu ynddynt.
Llywydd, mae eleni wedi dangos gwerth llawn y traddodiad amlwg o wirfoddoli a threfniadaeth gymunedol yng Nghymru, ac fe fyddwn ni'n parhau i sicrhau ffyniant sefydliadau lleol a democratiaeth leol. Fe fydd ein cynlluniau ni i wreiddio, a hynny'n barhaol, yr arferion gweithio o bell a ddysgwyd dros y 15 mis diwethaf yn ein galluogi ni i wneud ein cymunedau yn lleoedd gwell eto i fyw a hefyd i weithio ynddynt.
Fe fydd y Llywodraeth hon yn arwain sgwrs flaengar a chynhwysol gyda phobl Cymru hefyd o ran ein dyfodol cyfansoddiadol ni, gan gynnwys drwy gomisiwn annibynnol. Ar yr un pryd, fe fyddwn ni'n parhau i gryfhau ein safle ar lwyfan byd, gan ddefnyddio ein rhwydweithiau byd-eang i weithio tuag at Gymru well a dyfodol gwell i'r byd.
Ar draws y meysydd hyn i gyd, fe fydd angen inni fod yn radical, yn flaengar ac yn benderfynol o ran cyflawni'r newid pellgyrhaeddol sy'n angenrheidiol. Dyna pam, Llywydd, mae'r rhaglen lywodraethu yn cynnwys bron 100 o ymrwymiadau allweddol a thrawsbynciol sy'n gofyn am sylw a gweithredu gan y Llywodraeth gyfan. Fe gaiff tua 150 o ymrwymiadau eto, sydd yr un mor bwysig, eu nodi ar gyfer eu datblygu gan Weinidogion yn eu portffolios eu hunain. Fe fydd pob un o'r ymrwymiadau hyn yn ein helpu ni i gyflawni'r addewidion a wnaed yn ein maniffesto, gan weithredu o ran y newidiadau ymarferol hynny sy'n sicrhau newid i bobl ledled ein gwlad.
Llywydd, gadewch imi orffen yn y fan lle dechreuais. Mae'r rhaglen lywodraethu hon yn atgyfnerthu'r pwysigrwydd y mae'r Llywodraeth hon yn ei roi ar Ddeddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol, ei saith nod hi a'i phum ffordd o weithio. Mae'r amcanion llesiant a'r datganiad llesiant sy'n cyd-fynd â nhw'n amlygu ein hymrwymiad ni i wneud i'r Ddeddf gydio nid yn unig ym mhrosesau'r Llywodraeth, ond yn y camau y byddwn ni'n eu cymryd drwy gydol y tymor Seneddol hwn. Er y bydd eraill yn y Siambr hon yn awyddus i weithio'n adeiladol i fynd ar eu trywydd nhw ac, yn wir, i wella'r cynigion sy'n cael eu cyflwyno, fe welan nhw fod y Llywodraeth hon yn un sy'n awyddus i ymgysylltu yn gadarnhaol â nhw. Felly, mae'r camau hyn a nodir yn y rhaglen yn blaenoriaethu cymwynasgarwch a chydweithredu dros ben ymraniad a chystadleuaeth. Fe gânt eu gwreiddio yn y blaenoriaethau a'r dewisiadau a wnaeth pobl yng Nghymru ar 6 Mai, ac yn yr ysbryd hwnnw, Llywydd, rwy'n cymeradwyo'r ddogfen i'r Senedd.