Part of the debate – Senedd Cymru am 3:17 pm ar 15 Mehefin 2021.
Diolch, Prif Weinidog, am eich datganiad chi'r prynhawn yma a'r ddogfen a ryddhawyd y bore yma yr ydym ni wedi cael cyfle nawr i'w darllen—bob un o'r 17 tudalen o'r rhaglen lywodraethu sydd ar gael i'r Aelodau ac i'r cyhoedd. Yn amlwg, fe wnaeth y cyhoedd bleidleisio ar 6 Mai dros Lywodraeth gan y Blaid Lafur yma, rwy'n derbyn hynny, a'r cwestiynau—[Torri ar draws.] Rwy'n cydnabod hynny; nid wyf i'n anghytuno â hynny, a'r cwestiynau a ofynnaf ichi heddiw—[Torri ar draws.] Nid yw'r cwestiynau a ofynnaf ichi heddiw yn tarddu o ddiffyg moesgarwch, ond yn ceisio rhagor o wybodaeth am yr ymrwymiadau a wnaethoch chi yn eich rhaglen lywodraethu, yn arbennig o ran iechyd, er enghraifft, lle nad yw'r rhaglen lywodraethu hyd yn oed yn sôn am y 12,000 o aelodau ychwanegol o staff y GIG yr ydych chi'n gwybod y bydd eu hangen ar y GIG. A wnewch chi roi rhagor o wybodaeth inni ynghylch a fyddan nhw'n dod ar ddechrau'r tymor Seneddol hwn, yn hytrach na'ch bod chi'n ceisio recriwtio'r 12,000 o weithwyr ychwanegol hyn dros y tymor cyfan i helpu ein GIG rhagorol ni, oherwydd fe wyddom fod y niferoedd ar y rhestrau aros yn enfawr? A hefyd, a wnewch chi roi gwybodaeth inni ynghylch pa raglen y mae'r Llywodraeth yn ei rhoi ar waith i ymdrin â'r amseroedd aros hyn, oherwydd nid yw'r rhaglen lywodraethu yn sôn am gynlluniau penodol ynghylch ymdrin â bron 600,000 o bobl sydd ar restrau aros yma yng Nghymru.
O ran addysg, mae'r rhaglen lywodraethu yn sôn am roi 1,800 o diwtoriaid yn y system addysg yma yng Nghymru. A wnewch chi roi syniad eto inni pryd mae'r tiwtoriaid hynny'n debygol o gael eu hintegreiddio i'r sefydliadau addysgol yma yng Nghymru? Oherwydd fe wyddom fod taer angen y rhaglen dal i fyny hon yng Nghymru, ac, unwaith eto, mae'r gweithwyr ychwanegol hynny yn ein system addysg ni'n hanfodol fel y gall disgyblion sydd wedi colli allan dros y 12 mis diwethaf elwa ar y rhaglen dal i fyny hon yr oeddech chi'n cyfeirio ati. Hefyd, mae'r rhaglen lywodraethu'n sôn am ddiwygio'r diwrnod ysgol a thymhorau ysgol. Ai dim ond rhan arbennig o'r rhaglen dal i fyny yw hynny, yn hytrach na bod yn newid mwy sylfaenol i'r ffordd y caiff addysg ei chyflwyno yma yng Nghymru? Os yw hwn yn newid mwy sylfaenol, a wnewch chi ddweud wrthym sut y caiff y newid hwnnw ei gyflawni ac ar ba bwynt yn nhymor y Senedd y bydd mwy o gynigion yn cael eu cyflwyno, fel y gallwn ni graffu ar y cynigion hynny?
O ran yr economi, fe soniodd maniffesto Llafur am weithlu mwy grymus yng Nghymru sy'n ennill cyflogau gwell. Mae'n hanfodol inni ddeall sut y bydd y cynigion o fewn y rhaglen lywodraethu yn cau'r bwlch cyflogau sy'n bodoli rhwng gweithwyr Cymru a gweithwyr eraill yn y Deyrnas Unedig, y gwyddom ei fod wedi ehangu dros 21 mlynedd gyntaf datganoli. Felly, a wnewch chi egluro sut y bydd y rhaglen lywodraethu hon yn cau'r bwlch cyflog hwn sydd bellach yn achosi gwahaniaethu yn erbyn gweithwyr Cymru ac yn ffafrio gweithwyr eraill o rannau eraill o'r Deyrnas Unedig? Ac a wnewch chi roi syniad inni beth fydd cyfradd gwerth ychwanegol crynswth yn 2026, ar ddiwedd y tymor Seneddol hwn? Pan oeddech chi'n gynghorydd i Lywodraeth Cymru a'r Prif Weinidog ar y pryd, fe osododd y Llywodraeth Lafur gyntaf dargedau GYC fel y gallem ni, yn yr wrthblaid, graffu ar gynnydd y Llywodraeth benodol honno. Rwy'n sylwi o'r rhaglen lywodraethu arbennig hon na cheir targedau ynddi, yn ddigalon iawn, ac fe fyddai hi'n dda iawn gennym ni gael deall, yn enwedig felly o ran yr economi, faint o uchelgais sydd gennych chi o ran yr economi yma yng Nghymru.
Mae adeiladu tai yn hollbwysig os ydym yn awyddus i gau'r bwlch yn nyheadau pobl sy'n dymuno byw ar eu haelwyd eu hunain a bod gan bobl do gwirioneddol uwch eu pennau nhw. Rwy'n croesawu'r pwynt bod 20,000 o dai cymdeithasol newydd yn rhan o'r rhaglen lywodraethu, ond a wnewch chi ddweud wrthym: a yw'r 20,000 o gartrefi cymdeithasol hyn yn rhai ychwanegol a fyddai'n cael eu hadeiladu yn ôl cyfarwyddiadau Llywodraeth Cymru, neu a ydynt yn rhan o'r broses gynllunio gyffredinol sy'n golygu mai rhwymedigaethau adran 106 a fydd yn cyfarwyddo adeiladwyr i adeiladu'r cartrefi hynny? Oherwydd fe wyddom ni fod y farchnad, ar sail gwerthiannau a gwblhawyd yma yng Nghymru, yn brin yn ei chyflenwad ar hyn o bryd. Mae angen cwblhau tua 10,000 i 12,000 o dai bob blwyddyn, ac ar hyn o bryd, dim ond tua 6,000 o dai sy'n cael eu cwblhau yma yng Nghymru. Mewn gwirionedd, ceir mwy o gartrefi gwag yng Nghymru nag o ail gartrefi. Mae'n bwysig inni ddeall pa bolisi sydd gan y Llywodraeth i sicrhau bod y cartrefi gwag hynny'n cael eu defnyddio'n fuddiannol. Ac rwy'n nodi nad oes unrhyw sôn o gwbl yn y rhaglen lywodraethu am yr agwedd arbennig honno.
O ran llywodraeth leol, mae'r rhaglen lywodraethu yn sôn am ddiwygio'r dreth gyngor ac, yn wir, am ddiwygio'r system bleidleisio. A ydych chi mewn sefyllfa'r prynhawn yma i'n goleuo ni ynghylch sut beth fydd y diwygiadau hyn? Gan eu bod nhw'n hanfodol i wneuthuriad llywodraeth leol yma yng Nghymru ac, yn benodol, gan fod gennym ni etholiadau llywodraeth leol yma yng Nghymru, rwy'n tybio y bydd diwygiadau o'r fath yn canolbwyntio ar etholiadau llywodraeth leol 2027, yn hytrach nag ar etholiadau llywodraeth leol 2022.
Rydym ni'n cefnogi'n llwyr y Ddeddf aer glân. Rydym ni o'r farn fod hwnnw'n ddarn hanfodol o ddeddfwriaeth y mae angen ei roi ar y llyfr statud, ond rwy'n hepgor am y tro fy sylwadau i ar y cynigion deddfwriaethol i'r datganiad y mae'r Prif Weinidog eisoes wedi cyfeirio ato, a fydd yn dod yn nes ymlaen yn y tymor seneddol.
Ac o ran llifogydd, mae'r rhaglen lywodraethu yn sôn am ddiogelu 45,000 o gartrefi drwy fesurau ychwanegol. Fe fyddai'n dda gennyf i gael deall pam mae'r rhaglen lywodraethu wedi nodi mai dim ond ar 45,000 o gartrefi y mae angen yr amddiffyniad hwnnw, a ninnau'n gwybod bod pob rhan o Gymru yn dioddef oherwydd achosion o lifogydd difrifol, o achos yr union fater y nododd y Prif Weinidog yn briodol yw un o'r heriau mwyaf sy'n ein hwynebu ni—newid hinsawdd. Ac felly fe hoffwn i gael deall pam 45,000 o gartrefi, a'r ardaloedd hynny a glustnodwyd ar gyfer y buddsoddiad hwnnw a fydd ar gael iddynt yn y dyfodol.
Fe hoffwn i hefyd, i gloi, ddeall y comisiwn sefydlog wrth ystyried y dyfodol cyfansoddiadol, y rhoddodd y Prif Weinidog sylw iddo yn ei sylwadau agoriadol yn ei ddatganiad. A yw hwnnw'n ddefnydd synhwyrol o arian trethdalwyr, o gofio mai un o'r cylchoedd gwaith sydd ar gael yw hyrwyddo a chefnogi gwaith y comisiwn cyfansoddiadol ledled y DU sy'n cael ei sefydlu gan Blaid Lafur y DU? Mae'n berffaith briodol bod Plaid Lafur Cymru, pe byddai'n dymuno cefnogi gwaith o'r fath, yn defnyddio ei harian ei hun i wneud hynny. Ond a yw'n iawn i drethdalwyr ariannu prosiect sy'n benodol wleidyddol gan eich plaid chi, yr ydych chi'n ei nodi yn eich cylch gorchwyl ar gyfer pwyllgor cyfansoddiadol annibynnol o'r fath y soniwyd amdano yn eich datganiad? Rwy'n gwerthfawrogi y bydd yr amseroedd aros, yr economi ac addysg yn bwysig iawn yng ngolwg llawer o bobl, ond mae newid cyfansoddiadol yn cymryd cryn dipyn o ofod ac amser yn y Senedd hon, ac fe hoffwn i ddeall pam yn union y bydd hynny'n llywio polisi Llafur y DU ar gost y trethdalwyr. Diolch, Llywydd.