3. Datganiad gan y Prif Weinidog: Y Rhaglen Lywodraethu

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:25 pm ar 15 Mehefin 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 3:25, 15 Mehefin 2021

(Cyfieithwyd)

Soniodd yr Aelod am 1,800 o diwtoriaid: mae 1,000 ohonyn nhw wedi cael eu recriwtio eisoes gan awdurdodau lleol o ganlyniad i'r cyllid a ddarparwyd gennym ni'n gynharach y llynedd, pan wnaethom ddarparu cyllid pellach. Mae cydweithwyr mewn awdurdodau lleol wedi dechrau ychwanegu at y recriwtio hwnnw ar unwaith, a chyda'r £19 miliwn a gyhoeddodd fy nghyd-Aelod Jeremy Miles ychydig wythnosau yn ôl, fe fydd yr hyder ganddyn nhw o wybod y bydd Llywodraeth Cymru yn talu am y staff hynny i wneud y gwaith yr ydym ni wedi gofyn iddyn nhw ei wneud.

Mae diwygio'r diwrnod ysgol a thymor yr ysgol yn newid sylfaenol, yn fy marn i, ac nid mater o ymateb i'r pandemig yn unig mohono. Mae hwn yn fater yr wyf i'n gobeithio gweithio arno gydag eraill yn y Siambr hon, gan gynnwys plaid yr Aelod ei hunan, pe byddai syniadau a phosibiliadau yr hoffai eu cyfrannu at hynny. Mae e'n gwybod mai patrwm y flwyddyn ysgol o hyd yng Nghymru yw'r patrwm a sefydlwyd ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, sy'n adlewyrchu'r economi amaethyddol. Hyd yn oed pan oeddwn i'n tyfu i fyny yng Nghaerfyrddin, yr enw oedd gennym ar gyfer hanner tymor yr hydref, Llywydd, oedd wythnos tatws, a hynny am fy mod i fel eraill yn  cael eu hanfon allan i gasglu tatws ar y fferm yn ystod y gwyliau. Mae angen dull arnom o weithredu'r flwyddyn ysgol a'r diwrnod ysgol sy'n adlewyrchu anghenion economi fodern a Chymru gyfoes. Fe fyddwn ni'n gwneud hynny mewn partneriaeth; mae llawer o bobl y bydd angen inni weithio gyda nhw ar y daith honno, ac os oes Aelodau yn y Siambr hon a phleidiau gwleidyddol yn dymuno bod â rhan yn y gwaith, rwy'n fwy na pharod i gydweithio i ddod o hyd i ffurf ar addysg sy'n fwyaf addas ar gyfer anghenion heddiw.

Y ffordd o gau bwlch cyflogau yng Nghymru, Llywydd, yw drwy wella cynhyrchiant, ac fe ddywedodd y Resolution Foundation, mewn adroddiad a gyhoeddodd tua diwedd y tymor diwethaf, mai Cymru oedd yr unig ran o'r Deyrnas Unedig lle bu cynnydd sylweddol mewn cynhyrchiant yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Nawr, mae angen inni weithio o'r cymorth y mae hynny'n ei roi inni. Mae angen gweithio gyda chydweithwyr mewn busnesau preifat, fel eu bod nhw'n rhoi'r buddsoddiad ar waith a fydd yn caniatáu i'r busnesau hynny fod yn fwy cynhyrchiol. Oherwydd cynhyrchiant yw'r allwedd i economi sy'n talu'n well ac mae'n ganolog i'n hamgyffrediad ni o hynny. Prif Weinidog wyf i, nid proffwyd, Llywydd, ac nid wyf am ddyfalu sut olwg fydd ar y ffigurau ymhen pum mlynedd eto.

O ran adeiladu tai, yr 20,000 o gartrefi rhent cymdeithasol yw cyfanswm nifer y cartrefi rhent ar y lefel rhentu cymdeithasol y disgwyliwn iddynt gael eu codi yn y tymor Seneddol hwn. Ond yn sicr nid dyma gyfanswm y cartrefi yr ydym ni'n disgwyl eu gweld nhw'n cael eu hadeiladu yng Nghymru, a fydd yn llawer mwy na hynny. Ac o ran cartrefi gwag, fe fyddwn ni, wrth gwrs, yn parhau â'r gwaith llwyddiannus a ddechreuwyd yn Nhasglu'r Cymoedd, gyda swm sylweddol o fuddsoddiad a channoedd o gartrefi yn cael eu defnyddio'n fuddiannol o ganlyniad i hynny. Rwy'n credu ein bod ni wedi dysgu fformiwla yno, a'n huchelgais fydd ymestyn y fformiwla honno i rannau eraill o'n gwlad ni.

Fe godwyd diwygio'r dreth gyngor mewn cwestiynau yn gynharach, Llywydd; nid peth hawdd fydd cyflwyno hynny, oherwydd mae unrhyw ddiwygiad o'r fath, fel y dywedais i, yn peri i rai fod ar eu colled ac eraill ar eu hennill, ond mae ffurf bresennol y dreth gyngor yn rhy anflaengar, ac mae'n rhy annheg; mae'n rhoi baich annheg ar y rhai lleiaf abl yn ein cymdeithas i dalu am y gwasanaethau yr ydym ni i gyd yn elwa arnyn nhw, a chan ddefnyddio gwaith y Sefydliad Astudiaethau Cyllid a gyhoeddwyd tua diwedd y tymor Seneddol diwethaf, rydym ni am symud ymlaen gyda'r diwygio.

Ni fydd unrhyw newidiadau i'r system bleidleisio o ran llywodraeth leol yn ystod y flwyddyn nesaf, ond mae'r Ddeddf a roddodd y Senedd hon ar y llyfr statud yn caniatáu i awdurdodau lleol ddewis y system etholiadol erbyn hyn a fydd, yn eu barn nhw, yn adlewyrchu anghenion a dymuniadau eu poblogaethau nhw eu hunain yn fwyaf effeithiol. Ac wrth gwrs, mae pleidiau yn y Siambr hon sy'n cefnogi gwahanol ddulliau o bleidleisio, ac os mai nhw sy'n arwain yn y mannau hynny, fe fydden nhw'n gallu gwneud dewisiadau gwahanol nawr yn hynny o beth pe byddent yn dymuno gwneud felly.

Pedwar deg a phump o filoedd o gartrefi yn cael eu diogelu rhag llifogydd yw'r rhif mwyaf a ddiogelwyd erioed yn ystod unrhyw dymor Seneddol. Felly, nid uchelgais bach mohono, ac nid wyf am ohirio'r drafodaeth y prynhawn yma, Llywydd, dim ond dweud bod y rhesymeg o ran nodi'r cartrefi hynny, a'r prosiectau a gynigir, yn dod trwy gyfrwng pob awdurdod lleol a chydweithwyr Cyfoeth Naturiol Cymru, ac yna'n cael cymeradwyaeth a chyllid gan Lywodraeth Cymru.

Yn olaf, ynglŷn â'r comisiwn sefydlog, fe fydd gwaith y comisiwn ar gael i bob plaid wleidyddol ac i'r holl ymdrechion amrywiol a wneir i saernïo dyfodol i'r Deyrnas Unedig sy'n caniatáu i'r Deyrnas Unedig barhau i brofi llwyddiant. Ac er bod hwnnw'n waith i'r pwyllgorau dethol yn Nhŷ'r Arglwyddi a Thŷ'r Cyffredin, sy'n ymwneud â'r gwaith hwn ar hyn o bryd; ac er ei fod yn waith a wneir mewn sgyrsiau â Llywodraeth y DU, lle'r ydym ni'n dal i obeithio y byddwn yn cwblhau'r adolygiad rhynglywodraethol cyn i lawer mwy o wythnosau fynd heibio; neu'n waith y bydd Gordon Brown yn ei oruchwylio ar ran y Blaid Lafur, mae'n gwbl briodol fod yna gomisiwn yma yng Nghymru hefyd sy'n dwyn ynghyd farn o bob rhan o Gymru, o fewn pleidiau gwleidyddol a thu hwnt, sy'n meithrin dadl briodol yma yng Nghymru ynglŷn â'n dyfodol cyfansoddiadol ni, ac yn sicrhau, pan fydd dadleuon eraill ac ehangach yn cael eu cynnal, fod yna ffynhonnell awdurdodol o gyngor y gellir ei defnyddio i sicrhau bod llais pobl Cymru yn cael ei glywed mewn ffordd briodol ym mha fforwm bynnag y cynhelir y drafodaeth honno.