3. Datganiad gan y Prif Weinidog: Y Rhaglen Lywodraethu

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:31 pm ar 15 Mehefin 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 3:31, 15 Mehefin 2021

Diolch i'r Prif Weinidog am y datganiad heddiw. Braint unrhyw Lywodraeth newydd, wrth gwrs, ydy cael gosod agenda, gosod y cywair, a gosod uchelgais ar ddechrau tymor seneddol newydd. Roeddwn i'n sylwi bod y Prif Weinidog yn ymfalchïo mai dim ond chwe wythnos sydd yna ers yr etholiad. Roeddwn i'n digwydd edrych ar bapurau newydd o 10 mlynedd yn ôl, a rhyw chwe wythnos oedd wedi pasio bryd hynny hefyd.