5. & 6. Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 11) 2021 a Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 12) 2021

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:05 pm ar 15 Mehefin 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 5:05, 15 Mehefin 2021

Mi fyddwn ninnau hefyd yn cefnogi’r rheoliadau yma. Rydym ni’n amlwg mewn lle lle mae nifer y cyfyngiadau yn gymharol isel erbyn hyn. Rydym ni’n gofyn i’r Llywodraeth barhau i wthio’r ffiniau beth sy’n gallu cael ei wneud o ran codi y cyfyngiadau, ond, wrth gwrs, yn cefnogi’r egwyddor o wneud dim ond y pethau hynny rydym ni’n gwybod sydd yn ddiogel. Mae yna ddau neu dri o gwestiynau i ni eu codi.

Dwi’n nodi’r balchder mawr ein bod ni fel cenedl yn gallu dod at ein gilydd mewn gerddi tafarndai ac ati i wylio gemau pêl-droed Cymru ym Mhencampwriaeth Ewrop ar hyn o bryd. Mae yna, wrth gwrs, gyfyngiad ar beth mae pobl yn cael ei wneud i leisio eu cefnogaeth i’r tîm o ran y cyfyngiad ar ganu a ballu pan fo pobl dan do. Allaf i ofyn, mewn cyd-destun gwahanol, pa gamau mae’r Llywodraeth yn ei ystyried ar hyn o bryd i godi cyfyngiadau ar ganu cynulleidfaol mewn addoldai, sydd yn rhywbeth sydd yn bwysig i lawer o bobl?

Dwi yn nodi rhwystredigaeth ddofn llawer o bobl ar hyd a lled Cymru ynglŷn â’r sefyllfa o ran priodasau o hyd. Mae yna edrych, wrth gwrs, fel sy’n naturiol, ar yr hyn sy’n digwydd yn Lloegr o ran codi’r cyfyngiadau ar niferoedd mewn priodasau. Tybed all y Gweinidog roi arweiniad mor glir â phosib y prynhawn yma ynglŷn â’r hyn y mae’r Llywodraeth yn ystyried ei wneud o ran caniatáu niferoedd uwch mewn priodasau yn yr wythnosau a’r misoedd i ddod. Mi fyddai hynny, dwi’n gwybod, yn rhywbeth fuasai’n cael ei groesawu gan westai ac ati sy’n trefnu priodasau hefyd, ond i’r unigolion hynny sy’n wirioneddol eisiau gallu gwneud eu trefniadau, beth sydd fwyaf tebyg o ddigwydd yn ôl yr hyn rydych chi’n ei gael o’ch blaen fel tystiolaeth ar hyn o bryd?

Rydym ni i gyd, wrth gwrs, yn edrych ar beth sydd yn digwydd yn Downing Street, o ran uchelgais y Prif Weinidog o fod wedi gallu codi pob cyfyngiad erbyn 21 Mehefin. Doeddwn i erioed yn gweld sut oedd o’n gallu gwneud y fath gyhoeddiad fisoedd ymlaen llaw. Maen nhw bellach wedi penderfynu nad oes modd gwneud hynny am rai wythnosau eto. Ond mi fydd yr hyn sy’n digwydd yn Lloegr, wrth gwrs, pa bryd bynnag y daw o, yn cael effaith arnom ni yng Nghymru. Felly, os ydym ni’n cyrraedd y pwynt lle mae Lloegr yn codi pob cyfyngiad, pa gynlluniau cyfathrebu dwys fydd Llywodraeth Cymru yn barod i’w rhoi mewn lle er mwyn addysgu a rhannu gwybodaeth efo pobl sy’n ymweld â Chymru, er enghraifft, bod y sefyllfa yn wahanol yma os bydd cyfyngiadau yn dal mewn lle yng Nghymru bryd hynny? Rydym ni’n gwybod beth ydy’r anhawster o ran atal pobl rhag teithio ac rydym ni, wrth gwrs, eisiau bwrlwm economaidd i ddigwydd mewn twristiaeth a diwydiannau eraill cyn belled â bod hynny’n gallu digwydd yn ddiogel, ond mi fydd angen gallu cyfathrebu yn glir wrth bobl bod y sefyllfa, o bosibl, yn wahanol yng Nghymru.