– Senedd Cymru am 4:56 pm ar 15 Mehefin 2021.
Dwi ddim yn gweld gwrthwynebiad, felly dwi'n galw ar y Gweinidog iechyd i gyflwyno'r ddau set o reoliadau.
Diolch yn fawr, Llywydd. Rwy'n cynnig y cynnig sydd ger ein bron. Roedd y Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020 yn gosod y fframwaith deddfwriaethol ar gyfer y pedair lefel rhybudd a ddisgrifir yn y cynllun rheoli coronafeirws. Bydd yr Aelodau'n gwybod bod yn rhaid cynnal adolygiad o'r cyfyngiadau bob tair wythnos. Cafodd yr adolygiad diwethaf ei gynnal ar 3 Mehefin. Mae'r holl reoliadau cyfyngiadau coronafeirws yn cael eu gwneud drwy'r weithdrefn gadarnhaol frys. Mae hyn yn caniatáu i'r Cabinet wneud newidiadau ar unwaith i'r rheoliadau, ond yn dal i alluogi Aelodau i'w trafod nhw o fewn 28 diwrnod iddynt ddod i rym. Mae'n bwysig ein bod yn cael gwared ar gyfyngiadau cyn gynted â phosibl os nad ydynt yn gymesur bellach, o gofio'r effaith gymdeithasol ac economaidd sylweddol y maen nhw'n gallu'i chael ar ryddid sylfaenol pobl a busnesau yng Nghymru. Am y rheswm yma, dwi'n annog yr Aelodau i gefnogi'r diwygiadau hyn.
Cymru sydd â'r cyfraddau isaf o achosion o coronafeirws a gadarnhawyd yn y Deyrnas Unedig o hyd. Ochr yn ochr â hyn, mae cyflymder anhygoel ein gwaith o gyflwyno brechiadau yn parhau. Roedd ddoe yn garreg filltir allweddol gan fod pob oedolyn yng Nghymru wedi cael cynnig y brechlyn. Fodd bynnag, mae'r cynnydd pryderus yn nifer yr achosion o amrywiolion delta yn dod â lefel newydd o ansicrwydd. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi adrodd mai'r amrywiolyn mwy trosglwyddadwy hwn bellach yw'r amrywiolyn amlycaf yng Nghymru.
Roedd rheoliadau diwygio Rhif 11 sydd ger ein bron heddiw yn darparu i Gymru symud yn rhannol i lefel rhybudd 1 o 7 Mehefin. Rydym yn symud i lefel rhybudd 1 ychydig ar y tro yn hytrach nag mewn un cam. Mae hyn yn adlewyrchu'r ansicrwydd ynghylch yr amrywiolyn delta. Mae hefyd yn gyson â'r dull gofalus yr ydym wedi'i fabwysiadu yng Nghymru drwy gydol y pandemig.
Mae'r cam cyntaf hwn wedi canolbwyntio'n bennaf ar lacio'r cyfyngiadau ar ddigwyddiadau a gweithgareddau awyr agored. Bydd hyn yn rhoi amser i fwy o ddata ar yr amrywiolyn delta fod ar gael ac i fwy o bobl gael eu brechu. Gall hyd at 30 o bobl gyfarfod yn yr awyr agored erbyn hyn, gan gynnwys mewn gerddi preifat, lletygarwch awyr agored a mannau cyhoeddus. Gellir cynnal crynoadau a digwyddiadau mwy, wedi'u trefnu, yn yr awyr agored ar gyfer hyd at 4,000 o bobl sy'n sefyll a 10,000 o bobl yn eistedd hefyd. Mae hyn yn cynnwys rhai cyngherddau, gemau pêl-droed a gweithgareddau chwaraeon fel grwpiau rhedeg wedi'u trefnu. Mae'n rhaid i bob trefnydd gynnal asesiad risg llawn a rhoi mesurau ar waith i leihau'r risg o ddod i gysylltiad â'r coronafeirws a'i ledaenu, gan gynnwys cadw pellter cymdeithasol.
Yn olaf, bydd rheoliadau nawr yn caniatáu i aelwyd estynedig gynnwys tair aelwyd sy'n cael cyfarfod a chysylltu dan do. Byddwn yn ystyried newidiadau pellach i'r rheoliadau gan ganolbwyntio ar p'un a ydym eisiau caniatáu rhagor o weithgarwch dan do yn ddiweddarach yr wythnos hon. Byddwn yn parhau'n ochelgar; ni fyddwn ond yn cyflwyno llacio pellach os bydd cyflyrau iechyd y cyhoedd yn caniatáu hynny.
Bydd yr Aelodau'n ymwybodol, pan fyddwn yn gwneud y penderfyniadau hyn, wrth gwrs, yn ystod y dyddiau nesaf, fod arwyddion bod y DU yn mynd i drydedd don. Mae Llywodraeth y DU wedi oedi ei llacio a bydd angen inni asesu'r sefyllfa ddiweddaraf yng Nghymru. Byddwn, wrth gwrs, yn parhau i adolygu cymesuredd yr holl gyfyngiadau.
Mae rheoliadau diwygio Rhif 12 hefyd yn cael eu hystyried heddiw. Roedd y gwelliant hwn yn egluro'r rheolau i sicrhau bod hyd at 30 o bobl yn gallu cyfarfod yn yr awyr agored am unrhyw reswm, gan gynnwys trefnu barbeciw mewn maes parcio neu gwrdd â ffrindiau i ddathlu achlysur arbennig mewn gardd. Mae hyn yn cywiro problem gyda'r rheoliadau a allai fod wedi diffinio'r gweithgareddau hyn fel digwyddiadau a'u gwahardd.
Anogaf yr Aelodau i gefnogi'r gwelliannau hyn, sy'n barhad o'n dull gofalus o lacio'r cyfyngiadau er mwyn helpu i gadw Cymru'n ddiogel.
A gaf i ddweud wrth y Gweinidog yn gyntaf y byddwn ni'r Ceidwadwyr Cymreig yn cefnogi'r rheoliadau y prynhawn yma, gan fod y rheoliadau hyn yn amlwg yn ymwneud ag agor ein cymdeithas a'n heconomi, yr ydym, wrth gwrs, yn eu cefnogi?
Sylwais yn eich sylwadau agoriadol, Gweinidog, ichi sôn bod pob oedolyn yng Nghymru wedi cael cynnig y brechlyn. Nid yw'n ymwneud yn benodol â'r rheoliadau hyn, ond gan i chi sôn am y pwynt hwnnw, roeddwn i eisiau gofyn ar y pwynt hwnnw, oherwydd, yn sicr, mae rhai pobl nad ydyn nhw wedi cofrestru gyda meddygon teulu heb gael cynnig y brechiad. Felly, efallai y gwnewch chi egluro a yw pob oedolyn, yn wir, wedi cael cynnig y brechlyn, ac, os felly, sut y mae'r rhai nad ydyn wedi cofrestru gyda meddygon teulu eisoes wedi cael cynnig y brechlyn, oherwydd yn sicr nid yw hynny'n wir yn ôl rhywfaint o'r adborth a gefais.
O ran y rheoliadau, a gaf i ofyn a oes asesiad o'r effaith ar gydraddoldeb wedi'i gynnal mewn cysylltiad â'r rheoliadau hyn? Gofynnaf y cwestiwn yng nghyd-destun meddwl am y rheoliadau y llynedd, pan fyddwn yn meddwl am y rhai sydd ag awtistiaeth. Os gallwn gofio'n ôl, dim ond unwaith y dydd y caniatawyd i'r rheini ag awtistiaeth wneud ymarfer corff, ac rwy'n credu bod y rheoliadau wedi'u diwygio'n ddiweddarach. Felly, mae'n bwysig, wrth i ni ddod allan o'r cyfyngiadau symud a bod cyfyngiadau'n cael eu llacio, ein bod yn mynd â phob grŵp gyda ni gystal ag y gallwn. Sylwais nad oedd sôn o gwbl am asesiad o'r effaith ar gydraddoldeb yn y memorandwm esboniadol, felly efallai y gwnewch chi ymdrin â'r pwynt hwnnw hefyd, Gweinidog.
Diolch yn fawr. Diolch i—
Dadl yw hon, nid datganiad; felly, byddwch yn ymateb ar y diwedd, Gweinidog.
Sori, chi'n iawn.
Mae'n iawn, mae'r ddwy ohonom ni'n gwneud camgymeriadau heddiw. Gadewais y gadair hon—na, gadawodd David Rees y gadair hon er mwyn cymryd rhan yn y ddadl, yna anghofiais ei alw. Felly, nawr, rwy'n galw ar David Rees, Cadeirydd y pwyllgor deddfwriaeth.
Diolch, Llywydd. Ystyriodd y Pwyllgor Is-ddeddfwriaeth Dros Dro y ddwy set o reoliadau fore ddoe. Wedi hynny, gwnaethom osod ein hadroddiadau fore ddoe i gynorthwyo'r drafodaeth y prynhawn yma.
Bydd yr Aelodau'n ymwybodol bod y ddau reoliad yn gwneud diwygiadau i brif Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020. Bydd yr Aelodau'n ymwybodol, ac y byddant wedi clywed y prynhawn yma gan y Gweinidog, fod rheoliadau diwygio Rhif 11 wedi symud Cymru gyfan i lefel rhybudd 1 ar 7 Mehefin.
Mae ein hadroddiad ar reoliadau diwygio Rhif 11 yn cynnwys tri phwynt rhinweddau, a bydd Aelodau a eisteddodd drwy ddadleuon tebyg ar reoliadau sy'n ymwneud â'r coronafeirws yn y pumed Senedd yn gyfarwydd â rhai o'r materion hyn.
Mae ein pwynt rhinweddau cyntaf yn nodi cyfiawnhad Llywodraeth Cymru dros unrhyw ymyrraeth bosibl â hawliau dynol, ac rydym wedi tynnu sylw arbennig at lond llaw o baragraffau yn y memorandwm esboniadol sy'n cyd-fynd â'r rheoliadau.
Mae ein hail bwynt yn nodi na fu ymgynghoriad ffurfiol ar y rheoliadau hyn, ac unwaith eto rydym wedi tynnu sylw at esboniad cryno yn y memorandwm esboniadol.
Mae ein trydydd pwynt rhinweddau yn nodi nad yw'r memorandwm esboniadol yn cyfeirio at asesiad o'r effaith ar gydraddoldeb. Fel y cyfryw, gofynnwyd i Lywodraeth Cymru egluro pa drefniadau yr oedd wedi'u gwneud i gyhoeddi adroddiad ar asesiadau o'r effaith ar gydraddoldeb yn unol â Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Statudol) (Cymru) 2011.
Yn ei hymateb, dywedodd Llywodraeth Cymru wrthym, yn dilyn pob cyfnod adolygu, y cyhoeddir asesiad effaith cryno. Mae'n cynnwys asesiad o'r effaith ar gydraddoldeb yn ogystal ag ymdrin â llesiant, hawliau plant a phobl, yr economi, a'r iaith Gymraeg. Nawr, cadarnhaodd Llywodraeth Cymru y bydd yr asesiad effaith cryno ar gyfer y rheoliadau hyn yn cael ei gyhoeddi erbyn diwedd y cyfnod adolygu hwn ar 24 Mehefin.
Gan symud ymlaen at reoliadau diwygio Rhif 5 a Rhif 12, bydd yr Aelodau hefyd yn ymwybodol bod y rheoliadau hyn yn diwygio'r prif reoliadau ymhellach mewn cysylltiad â threfnu digwyddiadau. Nawr, mae ein hadroddiad yn cynnwys dau bwynt rhinweddau, sef yr un ddau bwynt cyntaf a godwyd ar y rheoliadau blaenorol—sef cyfiawnhad Llywodraeth Cymru dros unrhyw ymyrraeth bosibl â hawliau dynol a'r ffaith na fu ymgynghori ffurfiol ar y rheoliadau hyn. Ac rwy'n gadael hynny gydag Aelodau nawr i'w ystyried. Diolch, Llywydd.
Mi fyddwn ninnau hefyd yn cefnogi’r rheoliadau yma. Rydym ni’n amlwg mewn lle lle mae nifer y cyfyngiadau yn gymharol isel erbyn hyn. Rydym ni’n gofyn i’r Llywodraeth barhau i wthio’r ffiniau beth sy’n gallu cael ei wneud o ran codi y cyfyngiadau, ond, wrth gwrs, yn cefnogi’r egwyddor o wneud dim ond y pethau hynny rydym ni’n gwybod sydd yn ddiogel. Mae yna ddau neu dri o gwestiynau i ni eu codi.
Dwi’n nodi’r balchder mawr ein bod ni fel cenedl yn gallu dod at ein gilydd mewn gerddi tafarndai ac ati i wylio gemau pêl-droed Cymru ym Mhencampwriaeth Ewrop ar hyn o bryd. Mae yna, wrth gwrs, gyfyngiad ar beth mae pobl yn cael ei wneud i leisio eu cefnogaeth i’r tîm o ran y cyfyngiad ar ganu a ballu pan fo pobl dan do. Allaf i ofyn, mewn cyd-destun gwahanol, pa gamau mae’r Llywodraeth yn ei ystyried ar hyn o bryd i godi cyfyngiadau ar ganu cynulleidfaol mewn addoldai, sydd yn rhywbeth sydd yn bwysig i lawer o bobl?
Dwi yn nodi rhwystredigaeth ddofn llawer o bobl ar hyd a lled Cymru ynglŷn â’r sefyllfa o ran priodasau o hyd. Mae yna edrych, wrth gwrs, fel sy’n naturiol, ar yr hyn sy’n digwydd yn Lloegr o ran codi’r cyfyngiadau ar niferoedd mewn priodasau. Tybed all y Gweinidog roi arweiniad mor glir â phosib y prynhawn yma ynglŷn â’r hyn y mae’r Llywodraeth yn ystyried ei wneud o ran caniatáu niferoedd uwch mewn priodasau yn yr wythnosau a’r misoedd i ddod. Mi fyddai hynny, dwi’n gwybod, yn rhywbeth fuasai’n cael ei groesawu gan westai ac ati sy’n trefnu priodasau hefyd, ond i’r unigolion hynny sy’n wirioneddol eisiau gallu gwneud eu trefniadau, beth sydd fwyaf tebyg o ddigwydd yn ôl yr hyn rydych chi’n ei gael o’ch blaen fel tystiolaeth ar hyn o bryd?
Rydym ni i gyd, wrth gwrs, yn edrych ar beth sydd yn digwydd yn Downing Street, o ran uchelgais y Prif Weinidog o fod wedi gallu codi pob cyfyngiad erbyn 21 Mehefin. Doeddwn i erioed yn gweld sut oedd o’n gallu gwneud y fath gyhoeddiad fisoedd ymlaen llaw. Maen nhw bellach wedi penderfynu nad oes modd gwneud hynny am rai wythnosau eto. Ond mi fydd yr hyn sy’n digwydd yn Lloegr, wrth gwrs, pa bryd bynnag y daw o, yn cael effaith arnom ni yng Nghymru. Felly, os ydym ni’n cyrraedd y pwynt lle mae Lloegr yn codi pob cyfyngiad, pa gynlluniau cyfathrebu dwys fydd Llywodraeth Cymru yn barod i’w rhoi mewn lle er mwyn addysgu a rhannu gwybodaeth efo pobl sy’n ymweld â Chymru, er enghraifft, bod y sefyllfa yn wahanol yma os bydd cyfyngiadau yn dal mewn lle yng Nghymru bryd hynny? Rydym ni’n gwybod beth ydy’r anhawster o ran atal pobl rhag teithio ac rydym ni, wrth gwrs, eisiau bwrlwm economaidd i ddigwydd mewn twristiaeth a diwydiannau eraill cyn belled â bod hynny’n gallu digwydd yn ddiogel, ond mi fydd angen gallu cyfathrebu yn glir wrth bobl bod y sefyllfa, o bosibl, yn wahanol yng Nghymru.
Hoffwn ategu'r pwyntiau a godwyd gan Rhun ap Iorwerth.
Heddiw, cysylltodd rhieni cwpl ifanc sydd i fod i briodi ar 22 Mehefin â mi. Mae'r cwpl eisoes wedi gohirio eu priodas ddwywaith ar ôl cael eu harwain i gredu, o ddatganiadau a wnaed gan y Prif Weinidog ar 14 Mai, y byddai'r rheoliadau'n newid o 7 Mehefin i ganiatáu i 50 o bobl fod yn bresennol mewn gwledd briodas dan do, yn hytrach na 30, fel y mae ar hyn o bryd. Maen nhw bellach yn wynebu penderfyniad anodd iawn, gydag wythnos i fynd, sef siomi 10 aelod o'r teulu, a gwyddom ni i gyd ei fod yn ddigon anodd pan ganiateir niferoedd diderfyn. Mae cyplau di-rif eraill yn yr un sefyllfa, er enghraifft un cwpl sydd i fod i briodi mewn pythefnos yng Ngheredigion, ac mae'r briodferch, yn anffodus, wedi cael diagnosis terfynol yn ddiweddar ac ni fyddai dim yn y byd yn well ganddi na phriodi dan do, yng nghwmni 70 o aelodau'r teulu a ffrindiau.
Rwyf hefyd yn ymwybodol o gwpl arall sy'n byw ym Mhentre'r Eglwys sydd i fod i briodi ym mis Awst, a ysgrifennodd, ddoe ddiwethaf, at y Prif Weinidog ar ran nifer o gyplau gyda nifer o syniadau arloesol yn gysylltiedig â gwneud priodasau dan do yn bosibl i fwy o bobl. Ac maen nhw hefyd yn drysu, o ystyried y cynnydd cadarnhaol a wnaed yma yng Nghymru ar y rhaglen frechu, pam na all hyn ddigwydd.
A yw'n amryfusedd ar ran Llywodraeth Cymru nad yw'r niferoedd a ganiateir dan do ar gyfer gwledd briodas wedi'u diwygio eto, ac a oes unrhyw gynlluniau i newid hyn ar frys? Rwy'n credu ei bod yn arbennig o ddryslyd i gyplau fod y nifer ar gyfer gwleddoedd priodas awyr agored wedi'i ddiwygio ac y cânt hyd at 10,000 o bobl yn eistedd yn bresennol, a fyddai'n briodas enfawr. Ond, a allwch roi unrhyw newyddion da i'r cyplau hynny heddiw a'r holl fusnesau sy'n gysylltiedig â'r diwydiant priodasau?
Y Gweinidog i ymateb i'r ddadl nawr.
Diolch yn fawr, a diolch i David Rees, gyntaf i gyd, am edrych ar hwn yn ei swydd ef fel Cadeirydd y pwyllgor.
A gaf i gyfeirio, yn gyntaf oll, at yr asesiad o'r effaith ar hawliau dynol a chydraddoldeb? Fel rhan o'r broses adolygu cyfyngiadau 21 diwrnod, mae asesiad bob amser yn cael ei gynnal ar gyfer pob maes cyfyngu a llacio, ac rydym yn cynnal asesiad effaith cryno ar gyfer pob penderfyniad a wneir o fewn y fframwaith adolygu 21 diwrnod hwnnw. Mae hynny'n cynnwys effaith ar lesiant, asesu effaith economaidd, asesu'r effaith ar gydraddoldeb, asesiad o'r effaith ar hawliau plant, asesu'r effaith ar hawliau dynol, ac asesu'r effaith ar y Gymraeg. Felly, cawn weld y rheini cyn inni wneud y penderfyniadau. Mae mater ymarferol ynghylch pa mor gyflym y gallwn ni gyfieithu'r rheini a'u cael atoch, i'w cyhoeddi. Felly, maen nhw ar eu ffordd, fel yr ydych wedi nodi yn eich sylwadau. Mae'r cyflymder y mae'n rhaid inni geisio'i gyrraedd wrth wneud penderfyniadau mewn cysylltiad â'r adolygiadau 21 diwrnod hyn yn golygu, ar adegau, ei bod yn anodd inni ymgynghori ar bethau pryd yr hoffem ymgynghori arnyn nhw, mewn byd delfrydol. Pan fo'n bosibl, rydym yn gwneud hynny, ond mae'n amlwg ein bod mewn cyfnod anodd iawn ar hyn o bryd. Gobeithio, Russell, fod hynny hefyd wedi ateb rhai o'ch pryderon.
Ar eich pwynt bod pobl dros 18 oed yn cael y brechlyn, wrth gwrs, rydym wedi dweud bod pob oedolyn dros 18 oed wedi cael cynnig y brechlyn. Os nad ydyn nhw wedi ei gael, y rheswm yw nad ydyn nhw wedi cofrestru, ac mae angen iddyn nhw gofrestru. Felly, pe gallech chi ein helpu, pe gallai holl Aelodau'r Senedd ein helpu, i geisio hysbysu a sicrhau bod unrhyw un nad yw wedi cael gwahoddiad yn manteisio ar y cyfle hwnnw drwy gysylltu â'i fwrdd iechyd, byddai hynny'n help enfawr i ni, yn sicr yn Llywodraeth Cymru. Felly, pe gallech ein helpu gyda'n hymdrech, byddai hynny'n wych.
Rhun, rŷch chi wedi gofyn am gyfyngiadau ar ganu. Dwi wedi gwthio ar y mater yma ers tro byd. Bob tro dwi'n mynd i'r eglwys gadeiriol yn Nhyddewi, maen nhw'n gofyn i fi, 'Pam na allwn ni ganu?' Y drafferth yw, mae'r wyddoniaeth yn ein herbyn ni yma; dyna'r broblem. Rŷn ni'n awyddus iawn fel pobl i wthio ymlaen, ond mae'r wyddoniaeth yn hollol glir, a dyna pam dŷn ni'n ffaelu mynd ymhellach. Ac rŷn ni'n awyddus iawn i fwrw ymlaen, yn arbennig, wrth gwrs, mewn addoldai; rŷn ni'n deall pa mor bwysig yw hi i bobl.
Ac o ran priodasau—mae'r ddau ohonoch chi wedi codi'r pwynt yma—dwi yn deall bod hwn wedi torri calonnau pobl. Mae fe'n roller coaster emosiynol i fynd trwy orfod canslo ac wedyn aildrefnu a chanslo, a dyna pam rŷn ni wedi peidio â treial gwneud beth maen nhw wedi'i wneud yn Lloegr, sef i ddweud, 'Gallwch chi wneud hwnna; dyma'r route-map ŷch chi'n mynd arno.' Rŷn ni'n treial peidio â gadael pobl i lawr. Ond beth rŷn ni yn ei ddeall yw bod priodasau'n wahanol i lot o bethau eraill achos mae'n rhaid ichi gael eithaf lot o amser i'w trefnu. Dyw tair wythnos ddim yn ddigon o amser o flaen llaw. Ond, wrth gwrs, mae hwnna'n golygu dŷn ni ddim yn gwybod beth mae'r feirws yn mynd i edrych fel yn ystod y cyfnod yna. Rŷn ni wedi edrych ar briodasau mewn manylder; rŷn ni wedi gofyn i'r gwyddonwyr ein helpu ni i weld pa mor bell rŷn ni'n gallu mynd yn y maes yma. Wrth gwrs, mae priodasau'n anodd, yn arbennig os nad yw pobl wedi gweld ei gilydd ers blwyddyn. Dyna'r amser pan fyddan nhw'n debygol o fynd yn agos at ei gilydd. Dyw hi ddim fel mynd i gyngerdd ble dŷch chi ddim yn adnabod pobl. Felly, mae hi'n sefyllfa sydd yn anodd iawn o ran y problemau a allai godi o ran y feirws. Mae hi'n rhywbeth fydd yn cael ei ystyried yn ystod y dyddiau nesaf, a dwi ddim eisiau gwneud unrhyw addewidion. Dwi yn ymwybodol, ac mae'r Llywydd hefyd wedi denu fy sylw i at achos priodasol sensitif yng Ngheredigion. Wrth gwrs, rŷn ni'n ystyried yr holl sefyllfaoedd yma, ond rŷn ni yn gorfod dilyn y canllawiau sy'n dod, ac o leiaf y wyddoniaeth sydd yn dod ger ein bron ni yn y Cabinet.
O ran codi'r cyfyngiadau yn Lloegr, Rhun, roeddech chi'n glir dŷn ni ddim rili yn shocked eu bod nhw wedi gorfod symud eu hamserlen nhw. Rôn i wastad yn meddwl ei fod e'n od eu bod nhw'n mynd i gael sefyllfa lle byddai rhywun fel Mark Drakeford yn gallu mynd i glwb nos ar 21 Mehefin achos ei fod e wedi cael dau jab, ond dyw fy mab i ddim yn gallu mynd. Felly, rôn i jest wastad yn meddwl nad oedd synnwyr cyffredin wedi cael ei ystyried pan oedden nhw'n datblygu'r syniadau yna. Ac, wrth gwrs, yn Lloegr, dŷn nhw ddim wedi cyrraedd y pwynt yna lle mae pob un dros 18 wedi cael cynnig.
O ran y cyfathrebu, mae hwn yn rhywbeth mae'n rhaid inni ei ystyried achos rŷn ni eisiau pobl i ddod i fwynhau twristiaeth Cymru. Beth rŷn ni wedi'i wneud yw datblygu rhaglen gyda thwristiaeth Cymru, rhaglen Addo, ac mae hwnna'n rhywbeth sydd yn cael ei hysbysebu yn Lloegr, felly, os yw pobl yn dod, mae disgwyl iddyn nhw gydymffurfio â'n rheolau ni. Felly, mae yna raglen farchnata wedi cael ei datblygu o gwmpas hynny. So, dwi'n gobeithio fy mod i wedi ateb y cwestiynau yna. Diolch yn fawr.
Diolch i'r Gweinidog. Dwi dal yn meddwl am y Prif Weinidog yn y clwb nos; dwi'n fascinated i feddwl i ba glwb nos mae e'n mynd. Y cwestiwn felly yw: a ddylid derbyn y cynnig o dan eitem 5? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu hynny? Dwi ddim yn gweld gwrthwynebiad i hynny, felly mae'r cynnig wedi ei dderbyn yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Y cynnig nesaf, felly, a'r cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig o dan eitem 6? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu hynny? Nac oes. Felly, mae'r cynnig wedi'i dderbyn yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Eitemau 7 ac 8 sydd nesaf, ac, yn unol â Rheol Sefydlog 12.24, oni bai fod Aelod yn gwrthwynebu, bydd y ddau gynnig o dan eitemau 7 ac 8 yn cael eu grwpio ar gyfer y ddadl ond eu pleidleisio arnynt ar wahân. Oes yna wrthwynebiadau i hynny? Nac oes.