Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd – Senedd Cymru am 12:37 pm ar 16 Mehefin 2021.
Yn fy etholaeth i ym Mhen-y-bont ar Ogwr, rwy'n falch iawn ein bod wedi gweld awdurdod lleol a Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda'i gilydd i ddiogelu datblygiadau tai a busnesau ym Mhorthcawl rhag effaith newid hinsawdd. Fel rhan o'r rhaglen rheoli risgiau arfordirol, mae Llywodraeth Cymru a Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi buddsoddi £6.4 miliwn ar y cyd mewn amddiffynfeydd môr a fydd yn diogelu mwy na 500 o gartrefi a dros 170 o fusnesau ar unwaith rhag perygl llifogydd. Wrth edrych tua’r dyfodol, a all y Gweinidog ddweud wrthym sut y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda'r awdurdod lleol i sicrhau bod unrhyw ddatblygiadau tai ac adfywio ym Mhorthcawl yn y dyfodol yn parhau i fod yn gynaliadwy ac yn cyflawni ein nodau ar gyfer tai carbon isel?